Gallwch arbed hyd at 25%* yr haf hwn wrth archebu un o’n partïon!
Ydych chi’n chwilio am barti gwych i’r plant sy’n llawn dop o hwyl, egni ac heb unrhyw straen arnoch chi? Does dim angen chwilio ymhellach – mae gan Freedom Leisure bopeth sydd ei angen i gynnal parti bythgofiadwy i’ch plentyn!
✅ Dim straen, Dim llanast, Dim ond HWYL!
Rydym ni’n gofalu am bopeth – o osod pethau ar gyfer y parti i lanhau ar ei ôl – felly gallwch chi ganolbwyntio ar wynebau hapus, ffotos ac atgofion gwerthfawr.
Y mathau o bartïon yr ydym yn eu cynnig
Partïon Chwarae Meddal
Bownsiwch i hwyl y parti! Mae ein partïon chwarae meddal yn llawn egni a does dim diwedd i’r neidio, llithro a chwerthin. Grêt i bob oed – a bydd y plant wedi blino’n lân yn y ffordd orau posibl!
Partïon Pwll
Gwnewch sblash! Gadewch i seren y pen blwydd a’i ffrindiau blymio i’r pwll yn arbennig ar eu cyfer am gemau pwll a fflôt i bawb! Bydd achubwyr bywyd gerllaw felly gallwch ymlacio wrth iddynt nofio, sblasio a chwerthin drwy’r dydd.
Llogi Neuadd?
Wedi gwirioni ar bêl-droed? Ffan o dodgeball? Mae gemau a heriau llawn cyffro gennym ni dan arweiniad ein harweinwyr partïon cyfeillgar. Dewch am yr ysbryd tîm, chwerthin ac amseroedd da hyd yr eithaf!
Opsiynau Pwrpasol
Oes gennych rywbeth mewn golwg? – Mae sawl canolfan yn cynnig profiadau pwrpasol i weddu diddordebau eich plentyn felly cysylltwch, ac mi wnawn ni wneud iddo ddigwydd!
Cwblhewch y ffurflen ymholiadau cyflym hon a down yn ôl atoch i drefnu’r parti y bydd pawb am ddod iddo!
Beth sy’n cael ei gynnwys?
- Pa weithgaredd ydych wedi ei ddewis i’r parti*
- Ystafell breifat i’r parti ar gyfer bwyd a chacen*
- Gwesteiwr Penodedig y parti*
- Pecynnau bwyd dewisol *
- Mae archebu yn syml*
*Telerau ac amodau’n gymwys. Gweler isod.
Gadewch i ni drefnu’r arlwyo hefyd!
Ar ôl yr holl gyffro yna, mae’n amser cael ychydig o fwyd! Dewiswch o’n pecynnau bwyd blasus – neu dewch â’ch bwyd eich hun – a gwnawn ni ddarparu’r ystafell barti fel eu bod yn gallu bwyta, canu ac agor anrhegion mewn steil. Cysylltwch ac mi wnawn esbonio’r holl opsiynau i chi i fwydo’r plantos llwglyd yna yn y parti..*
*Telerau ac amodau’n gymwys, gweler isod.
*Telerau ac amodau’n gymwys
- Ni ellir cael gostyngiad o 25% ar bartïon sydd wedi cael eu trefnu yn barod
- Dim ond ar gyfer partïon sy’n digwydd ar neu cyn 31 Rhagfyr 2025 y gellir cael gostyngiad o 25% ac sydd wedi eu trefnu a’ch bod wedi talu amdanynt erbyn 10 Awst 2025
- Bydd pris parti yn amrywio gan ddibynnu ar y math o barti a’r ganolfan yr ydych wedi ei dewis
- Bydd gostyngiad o 25% yn cael ei wneud i bris opsiwn y parti yn unig. Ni ellir defnyddio’r gostyngiad yn erbyn pris arlwyo, ystafelloedd y parti a/neu wahoddiadau
- Bydd yr opsiynau parti sydd ar gael yn amrywio yn dibynnu ar y ganolfan yr ydych wedi ei dewis
- Ni all pob canolfan gynnig arlwyo. Gwiriwch cyn archebu.
- Mae pob parti yn amodol ar argaeledd
- Rhaid talu’n llawn am bob parti ar adeg ei archebu Mae’n bosibl y bydd telerau, amodau neu gyfyngiadau eraill yn gymwys. Gofynnwch pan fyddwch yn archebu.