Rydym ni wedi bod yn brysur yn gweithio y tu ôl i’r llenni yn uwchraddio ein systemau fel y byddwch chi’n gallu gwneud llawer mwy ar-lein ac ar ein ap ffôn symudol, fel diweddaru eich manylion , archebu lle a llawer mwy.
O ganlyniad i hyn, bydd angen i chi greu cyfrif ar-lein drwy ymweld â https://wrexham.freedom-leisure.co.uk/LhWeb/cy/Members/Home a defnyddio’r cyfeiriad e-bost yr ydych wedi ei gofrestru gyda ni.
Yna, byddwch chi’n gallu mewngofnodi drwy ddefnyddio’n Ap Ffôn Symudol Freedom Leisure. Gallwch ei lawrlwytho ar Android neu Apple yma neu, gallwch hefyd ddefnyddio porwr gwe yma.
Bydd archebion dosbarthiadau’r Byd Dŵr yn symud i’r system newydd hon ar 29 Gorffennaf, a bydd darpariaeth gyfredol Waterworld, sef ap ffôn symudol MyWellness yn stopio gweithio. Gallwch ddechrau archebu dosbarthiadau ar 22 Gorffennaf i fyny at 7 dydd ymlaen llaw.
Os fyddwch chi’n cael unrhyw broblemau siaradwch ag un o’n cydweithwyr cyfeillgar a fydd yn falch iawn o’ch helpu.