Find your healthy community
We want to support the health of the nation enabling people to live longer, happier and healthier lives.
We believe in ‘health at all ages’; we want the local communities we serve to have fun, feel welcome, included and empowered to live healthy lives.
Newyddion Diweddaraf
Rydyn ni’n ystyried ein canolfannau fel ‘canolfannau lles’
Gall cymunedau lleol gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau iechyd i’w hannog i gymryd gwell rheolaeth dros eu hiechyd a’u lles. Rydyn ni’n darparu rhaglen Cymunedau Iach sy’n rhoi’r cyfle i bobl o bob oed a gallu i symud a bod yn fwy ffit!
Mae gennym ymrwymiad i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd
Mae ein harbenigwyr Cymunedau Iach yn dylunio rhaglenni sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol o bob oedran; gan ddileu rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan gan gynnwys pawb o bob cefndir, oedran, rhyw, ethnigrwydd, gallu a statws economaidd-gymdeithasol.
Mae ein gwasanaethau yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn fforddiadwy
Rydyn ni’n credu mewn:
- Cefnogi pobl i fod yn ffit ym mha bynnag ffordd sy’n addas iddyn nhw
- Cefnogi unigolion i atal a rheoli cyflyrau iechyd
- Rhoi profiadau cadarnhaol i gefnogi lles meddyliol
- Atal unigrwydd gan alluogi cymunedau lleol i ddod ynghyd
Ein partneriaethau
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i adnabod anghenion iechyd lleol a nodi sut y gallwn ni fel darparwr hamdden lleol gefnogi, ategu a chynnal gweithgareddau sy’n diwallu’r anghenion hyn.
Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda Chyff Cenedlaethol fel Sport England, UK Active a Community Leisure UK; ynghyd â phartneriaid sy’n canolbwyntio ar leoedd penodol fel Active Partnerships, Systemau Gofal Integredig, Rhwydweithiau Gofal Sylfaenol, Gofal Eilaidd a sefydliadau gwirfoddol, trydydd sector.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!