Mae Freedom Leisure, un o brif ymddiriedolaethau hamdden elusennol dielw y DU, sy'n rheoli 29 o ganolfannau hamdden ledled Cymru ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Abertawe, wedi cofleidio ei ymrwymiad i ddiogelu'r amgylchedd gydag ystod o fesurau arloesol i leihau'r defnydd o ynni. Mae'r arbediad enfawr mewn defnydd ynni, o ganlyniad, gyfwerth â rhedeg canolfan hamdden maint canolig gyda phwll nofio am 4 blynedd. Yn y broses, lleihau allyriadau carbon o 395 tunnell, sydd gyfwerth â gyrru car o amgylch cylchedd y ddaear 58 gwaith!

Mae'r ymddiriedolaeth hamdden wedi cyflawni'r arbedion hyn yn eu holl ganolfannau hamdden ledled Cymru, gan gynnwys yr atyniadau twristaidd mawr fel Parc Dŵr LC yn Abertawe a'r Byd Dŵr yn Wrecsam sy'n derbyn llawer iawn o ymweliadau drwy gydol y flwyddyn.

Nid yw arbed dros filiwn kWh o drydan ac ychydig llai na miliwn kWh o nwy dros gyfnod o ddeuddeg mis yn broses hawdd, rydym wedi ymdrechu i ymgysylltu â phob un cydweithiwr, cwsmer a rhanddeiliad i sicrhau eu bod yn rhannu'n gweledigaeth, o safbwynt amgylcheddol ond hefyd i sicrhau cynaliadwyedd ein canolfannau hamdden poblogaidd. Rydym i bob pwrpas wedi meithrin diwylliant o ymwybyddiaeth, gan drawsnewid arferion ac ymddygiadau gweithredol i sicrhau defnydd ystyriol o ynni ac adnoddau

Angela Brown

Rheolwr Grŵp Amgylcheddol a Chynaliadwyedd

Gyda phortffolio mawr o ganolfannau hamdden, daw amrywiaeth. Gyda phob canolfan yn unigryw o ran proffil oedran, maint ac effeithlonrwydd ynni, fe’n gorfodwyd i deilwra elfennau o’n cynlluniau arbed ynni yn ogystal â chyflwyno mesurau eraill oedd yn addas i'r grŵp cyfan. Ar flaen pob mesur bu'r angen i sicrhau amgylchedd iach, diogel a chyfforddus i'r miliynau o gwsmeriaid bob blwyddyn sy'n defnyddio'r canolfannau i wella eu lles corfforol, cymdeithasol a meddyliol.

Mae cydweithwyr yn cael eu hannog i awgrymu mesurau arbed ynni ac mae gennym gyfres o fesurau ynni na ellir eu negodi. Rydym yn sicrhau bod ein tîm i gyd yn gyfarwydd â rhain. Er enghraifft, diffodd goleuadau, diffodd offer nad ydynt yn cael eu defnyddio a sicrhau bod gorchudd dros y pwll pan nad yw'n cael ei ddefnyddio, hyd yn oed os bo hynny ond am hanner awr yn ystod y dydd. Mae gennym hefyd arwyddion o amgylch ein holl ganolfannau fel y gall ein cwsmeriaid gwych ein helpu i wneud yr arbedion hyn - ymdrech ar y cyd go iawn

Andy Harris

Rheolwr Rhanbarthol (Cymru a Gogledd Lloegr)

Gyda buddsoddiad ariannol sylweddol mewn arbedion ynni dros y naw mlynedd diwethaf, un o brif amcanion Freedom Leisure o hyd yw parhau i leihau allyriadau trwy weithredu mesurau arbed ynni pellach. Bydd y mesurau a gynlluniwyd ar gyfer dechrau 2024 megis gosodiadau solar PV, gwell gorchuddion i'r pyllau a gwell systemau awyru yn neuaddau'r pyllau, yn arwain at ostyngiad pellach o dros 400 tunnell o garbon.