Pam nofio gyda Freedom Leisure?
Nofio er lles eich iechyd a’ch ffitrwydd
Mae nofio yn defnyddio holl gyhyrau’r corff felly byddwch yn cael ymarfer y corff cyfan. Mae ymarfer corff mewn dŵr yn gwneud i’ch corff weithio’n galetach, felly mae 30 munud mewn pwll nofio yn cyfateb i werth 45 munud o wneud yr un gweithgaredd y tu allan i’r pwll.
Nofio gyda theulu a ffrindiau
Mae mynd â’r teulu i’r pwll yn gyfle gwych i rieni gael ymarfer corff, a hynny mewn amgylchedd llawn hwyl. Mae’n rhoi amser i’r teulu ddod ynghyd, ac yn rhoi’r cyfle i chi ddysgu’ch plant sut i fod yn ddiogel yn y dŵr a sut i nofio.
Rhaglen nofio mewn grŵp
Mae’n ffordd wych o wneud ymarfer corff. Mae’n cynyddu curiad eich calon a’ch anadl yn raddol, felly mae’n helpu i wella iechyd eich calon. Hefyd, mae nofio’n cryfhau ac yn siapio cyhyrau.
Dysgu nofio gyda ni
Rydyn ni’n helpu plant mor ifanc â 3 mis oed ac oedolion i ddysgu nofio. Mae’n brofiad gwych sy’n creu pob math o bosibiliadau i bawb. Mae hefyd yn ffordd o feithrin hyder, mwynhad a diogelwch yn y dŵr.
Oeddech chi’n gwybod?
Mynd i nofio am 30 munud dair gwaith yr wythnos, ynghyd â deiet a ffordd o fyw iach a chytbwys yw un o’r ffyrdd gorau o gadw’n heini a gall helpu i greu agwedd feddyliol bositif hefyd. Ewch amdani gyda’ch ffrindiau, mae hynny hyd yn oed yn fwy o hwyl!
Mae mynd i nofio am 30 munud dair gwaith yr wythnos, a chyfuno hynny gyda deiet a ffordd iach a chytbwys o fyw, yn