Y mathau o wersi rydyn ni’n eu cynnig
Gwersi nofio i blant
Rydyn ni’n cynnig gwersi i blant o 3 mis oed ac nid oes cyfyngiad oedran i blant sydd am ddysgu nofio. Ewch i’ch pwll nofio lleol i siarad gyda’r tîm.
Gwersi nofio i oedolion
Rydyn ni’n cynnig gwersi nofio i oedolion os ydych yn ddechreuwr neu wersi i nofwyr mwy profiadol sy’n awyddus i wella’u techneg nofio. Ewch i’ch pwll nofio lleol i siarad gyda’r tîm.
Gwersi nofio dwys
Gallwn ddarparu sesiynau nofio mwy dwys yn ystod gwyliau’r ysgol yn bennaf i gyflymu datblygiad eich plentyn. Ewch i’ch pwll nofio lleol i siarad gyda’r tîm.
Gwersi nofio preifat
Os oes well gennych chi neu’ch plentyn gael gwersi un-i-un, gallwn ni helpu. Ewch i’ch pwll nofio lleol i siarad gyda’r tîm.
Mewn partneriaeth â Swim Englad a Nofio Cymru
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Swim England a Nofio Cymru i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio o ansawdd uchel i bob oedran a phob gallu. Mae pob un o’n hyfforddwyr yn brofiadol ac wedi cael hyfforddiant llawn.
Ein Canllaw i Rieni
Rydyn ni wedi ysgrifennu’r canllaw defnyddiol hwn i rieni er mwyn rhoi gwybod i’n cwsmeriaid am y Llwybr Nofio, am sut y byddwn yn dysgu’ch plentyn i nofio a beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn dod aton ni i ddysgu nofio.
Dilyn cynnydd eich plentyn
Mae gan nifer o’n canolfannau system ar-lein i’ch galluogi i ddilyn cynnydd eich plentyn yn ei wersi nofio. Ewch i siarad gyda Thîm Nofio eich canolfan leol i glywed mwy.