Nofio

Nofio

Mae nofio yn weithgaredd iach y gall bawb o bob oedran a gallu’i mwynhau. Mae’n fanteisiol iawn i’r iechyd a gallwch fynd i nofio ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau a theulu neu fel grŵp.

Gwersi nofio

Gwersi nofio

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wersi nofio i oedolion a phlant. Mae ein gwersi yn llawn hwyl a’u nod yw meithrin y lefel uchaf o hyder yn y dŵr a sgiliau a thechneg nofio o’r radd flaenaf.

Campfa a Hyfforddiant Personol

Campfa a Hyfforddiant Personol

Mae campfeydd o’r radd flaenaf ar gael yn ein canolfannau. Yno, mae tîm cefnogol o weithwyr ffitrwydd proffesiynol sy’n awyddus i sicrhau profiad hwylus i chi yn ein canolfannau hamdden. Os ydych yn ei gweld yn anodd cadw’ch cymhelliant a’ch bod eisiau gweld canlyniadau, mae ein swyddogion ffitrwydd wrth law i roi gwasanaeth un-i-un i chi.

Grwpiau Ymarfer Corff

Grwpiau Ymarfer Corff

Mae ein canolfannau yn cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit, i gymdeithasu ac i ofalu am eich lles corfforol a meddyliol. Rydych chi’n siŵr o ddod o hyd i ddosbarth i’ch gweddu, waeth beth yw eich diddordebau; gallwch fynd i ddosbarthiadau HIIT neu mae amrywiaeth o ddosbarthiadau eraill ar gael hefyd.

Cymunedau Iach

Cymunedau Iach

Rydyn ni’n trin ein canolfannau fel ‘canolfannau lles’ lle gall cymunedau lleol gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau iechyd i’w hannog i gymryd gwell reolaeth dros eu hiechyd a’u lles.  Mae gennym raglen Cymunedau Iach sy’n rhoi’r cyfle i bobl o bob oed a gallu i symud a bod yn fwy ffit!