Pam ymuno â champfa Freedom Leisure?
Rydyn ni’n gofalu am iechyd ein cwsmeriaid
P’un a ydych yn dod am y tro cyntaf neu’n dod i’r gampfa neu’r ganolfan hamdden yn rheolaidd, mae ein gweithwyr yno i’ch helpu i gyrraedd eich nodau ffitrwydd.
Rydyn ni wir yn gwneud gwahaniaeth
Mae tystebau ein cwsmeriaid yn llawn straeon gan bobl go iawn sydd wedi gweld gwahaniaeth yn eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl drwy fynd i’w canolfan hamdden gymunedol leol yn rheoliad.
Aelodaeth heb gontract
Mae gennym aelodaeth hyblyg i weddu pawb gan sicrhau gwerth eich arian. Ewch i’ch canolfan hamdden gymunedol leol i siarad ag aelod o’r tîm i ddechrau arni.
Bwcio ar-lein drwy ein Ap
Gall aelodau fwcio dosbarthiadau a gweithgareddau ar-lein naill ai drwy’r wefan neu ar ein Ap ar gyfer y rhan fwyaf o’n canolfannau. Gofynnwch am fwy o wybodaeth yn eich canolfan leol.
Oeddech chi’n gwybod?
Mae hyfforddi gyda ffrind yn eich helpu i ddal ati yn ystod y sesiynau ac mae hefyd yn eich gwneud yn llai tebygol o fethu sesiwn am eich bod yn llai tebygol o eisiau siomi’ch ffrind. Ewch i’r ganolfan i ofyn am Aelodaeth ar y Cyd neu dilynwch y ddolen Ymholiadau isod i ddod o hyd i’ch canolfan hamdden gymunedol leol.