Gyda’r rhyddhad ar gostau ynni ar gyfer pyllau nofio, canolfannau hamdden, cyfleusterau cymunedol a champfeydd y DU yn dod i ben ar 31 Mawrth, mae miloedd o gyfleusterau a chlybiau mewn perygl o gau neu o gynnal llai o wasanaethau yn barhaol, wrth i sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat o bob maint wynebu heriau ariannol digynsail, gyda biliau'n parhau hyd at 200% yn uwch na'r arfer.
I weithredwyr hamdden cyhoeddus sy'n rhedeg gwasanaethau o fewn awdurdodau lleol, mae'r data diweddaraf gan aelodau ukactive yn dangos bod 31% o ardaloedd cynghorau yn Lloegr yn parhau i fod mewn perygl o golli eu canolfan (canolfannau) hamdden neu weld llai o wasanaethau yn eu canolfan (canolfannau) hamdden, o 1 Ebrill**, gyda thua 350 o gyfleusterau yn genedlaethol eisoes wedi gweld gwasanaethau’n cael eu cyfyngu, cau dros dro a rhai’n cau’n barhaol ers mis Hydref 2022.
Mae llofnodwyr y llythyr yn amrywio o gyrff iechyd mawr i gyrff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon, a grwpiau ffitrwydd a hamdden mwyaf y genedl, tra bod athletwyr fel Rebecca Adlington ac enwogion gan gynnwys Davina McCall hefyd wedi rhoi eu cefnogaeth.
Mae'r llythyr yn rhybuddio, "Bydd methiant i adnabod cefnogaeth bwrpasol i'r sector (ac ysgolion sy'n rhedeg cyfleusterau chwaraeon) fel rhan o'r Cynllun Gostyngiadau mewn Biliau Ynni yn golygu y bydd llawer o gyfleusterau a gwasanaethau wedi cyrraedd pen eu tennyn - yn enwedig pyllau nofio.
"Heb ymyrraeth genedlaethol, bydd cymunedau'n colli gwasanaethau lleol hanfodol, gan gynnwys gwersi nofio i blant sy'n hanfodol ar gyfer diogelwch dŵr; aml-chwaraeon sy’n cael eu cynnig; gwasanaethau iechyd meddwl; rhaglenni pwrpasol ar gyfer dinasyddion hŷn, cymunedau ethnig amrywiol, menywod a merched, a phobl anabl; a rhaglenni iechyd hirdymor gan gynnwys gwasanaethau yn dilyn canser a chymorth i'r rhai sydd â chyflyrau cyhyrysgerbydol a diabetes math 2."
O fewn y llythyr, mae'r gynghrair yn galw ar y Llywodraeth i:
- Ailddosbarthu pyllau nofio fel rhai ynni-ddwys ar gyfer y Cynllun Gostyngiadau mewn Biliau Ynni fel bod ganddyn nhw fynediad at y lefel uwch o ostyngiadau ar gyfer prisiau ynni.
- Rhoi manylion am ba gymorth pendant fydd yn cael ei roi i'r sector ehangach – gan gynnwys campfeydd, canolfannau hamdden, cyfleusterau chwaraeon, a chlybiau – i helpu i lywio'r argyfwng ynni ar draws 2023 fel y gellir lleihau cyfyngiadau ar wasanaethau a chau cyfleusterau.
- Sefydlu "cynllun ar gyfer twf" ar gyfer y sector drwy gysoni'r Strategaeth Chwaraeon newydd arfaethedig gyda Chyllideb y Gwanwyn i ddatgloi potensial y sector i gefnogi lles economaidd, iechyd, lles addysgol a chymdeithasol y genedl.
Cafodd y llythyr ei gydlynu gan grŵp o gyrff, gan gynnwys: Partneriaethau Gweithredol, y Gymdeithas Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus, y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol, Cymdeithas Prif Swyddogion Diwylliannol a Hamdden, Community Leisure UK, Rhwydwaith Cynghorau Dosbarth, Cymdeithas Llywodraeth Leol, Sported, y Gynghrair Chwaraeon a Hamdden, y Gynghrair Datblygu Chwaraeon, Nofio Lloegr, Cymdeithas yr Athrawon Nofio, yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, ac ukactive.
Mae dros ddau gant o sefydliadau ac unigolion amlwg yn unedig yn eu hanogaeth o’r Llywodraeth i ddiogelu cyfleusterau cymunedol hanfodol ledled y wlad sy'n parhau dan fygythiad o gyfyngiadau ar wasanaethau a chau, gan effeithio ar bobl o bob oed a chefndir. Mae pyllau, campfeydd, canolfannau hamdden, a chyfleusterau cymunedol yn rhan o'n ffabrig cymdeithasol, ac maen nhw'n hanfodol i iechyd ac economi ein cenedl. Rhaid cymryd camau i ddiogelu ein cyfleusterau, ac i'w helpu i adfer a thyfu fel y gallant yn eu tro gefnogi twf cenedl iachach, hapusach a mwy cynhyrchiol.
Huw Edwards
Mae ehangder y sefydliadau sydd wedi ymuno i anfon neges mor glir i'r Llywodraeth yn dangos y rôl hynod bwysig y mae ein pyllau a'n canolfannau hamdden yn ei chwarae i gefnogi iechyd y genedl a difrifoldeb y sefyllfa y mae'r cyfleusterau hyn yn ei hwynebu o ganlyniad i gostau ynni uwch enfawr. Mae'n hanfodol eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw fel eu bod yn gallu parhau i fod yng nghalon cymunedau lleol, yn helpu pobl i fyw bywydau iachach a hapusach a lleihau'r pwysau ar y GIG a'r system gofal cymdeithasol.
Jane Nickerson MBE
Darllenwch y llythyr llawn yma. I gefnogi'r sector, cysylltwch â'ch AS gyda'ch pryderon.