Rydyn ni’n falch o fod yn ymddiriedolaeth nid-er-elw
Mae Wealden Leisure Limited sy’n masnachu fel Freedom Leisure yn sefydliad nid-er-elw gwirioneddol sydd â statws elusen wedi’i heithrio gan CThEM. Nid oed gennym unrhyw gyfranddalwyr ac fel elusen wedi’i heithrio, rydyn ni’n ail-fuddsoddi’n holl arian dros ben yn ôl i’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu er mwyn rhoi’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid.
Ein cyflawniadau mewn niferoedd
Ein Hymrwymiadau Amgylcheddol a Chynaliadwyedd
Rydyn ni wedi lansio ein Hymrwymiadau Amgylcheddol a Chynaliadwyedd, gan dargedu sero net ar draws ein sefydliad erbyn 2030.
Rydyn ni’n gofalu am ein cymunedau a’u hiechyd
Rydyn ni am gefnogi iechyd y genedl a galluogi pobl i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach. Fel ymddiriedolaeth nid-er-elw, mae cefnogi unigolion a chymunedau i fod yn iachach ac yn fwy ffit wrth wraidd ein holl waith. Rydyn ni’n credu mewn ‘iechyd i bawb o bob oed’; rydyn ni am i’n cymunedau gael hwyl, a theimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod yn cael eu cynnwys a’u hysbrydoli i fyw bywydau iachus.
Rydyn ni’n falch o’n partneriaethau
Mae gennym ymrwymiad i gydweithio â’n partneriaid dibynadwy i ddarparu gwasanaeth hamdden rhagorol sy’n hollbwysig i iechyd a lles y bobl leol.