Beth yw Sero Net?

Beth yw Sero Net?

Mae’r term sero net yn golygu cael cydbwysedd rhwng y carbon sy’n cael ei ollwng i’r atmosffer, a’r carbon a dynnir ohono. Bydd y cydbwysedd hwn - sef sero net - yn digwydd pan nad yw swm y carbon rydyn ni’n ei ychwanegu at yr atmosffer yn fwy na’r swm sy’n cael ei dynnu ohono. 

Pam fod hyn yn bwysig i ganolfannau hamdden?

Pam fod hyn yn bwysig i ganolfannau hamdden?

Gall canolfannau hamdden gyfrif am hyd at 40% o ôl troed carbon cyngor. O ganlyniad, rydyn ni’n cefnogi’n partneriaid yn yr awdurdodau lleol i wireddu eu targedau sero net. Mae ein diwylliant cryf o gynaliadwyedd yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda’n partneriaid, ein cwsmeriaid ac, yn bwysicaf oll, ein staff i gyrraedd ein targedau uchelgeisiol.

Ivan Horsfall Turner | Freedom Leisure's CEO

Ivan Horsfall Turner | Freedom Leisure's CEO

“Drwy’r ymrwymiadau hyn, rydyn ni’n gobeithio cyfrannu at y gwaith o leihau allyriadau a chyfrannu at y targed byd-eang. Rydyn ni’n cydnabod na allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain ac rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi a gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid yn y sector cyhoeddus, ein cyflenwyr a’n cwsmeriaid i sicrhau ein bod yn cyrraedd y nod gyda’n gilydd.”

Mae’r amgylchedd yn rhan ganolog o’n gwaith

Mae’r amgylchedd yn rhan ganolog o’n gwaith

Mae pwrpas canolog ein busnes o gefnogi ffyrdd iach o fyw yn mynd y tu hwnt i ymarfer corff yn unig; mae’n ymestyn i’n cymunedau ac i’r amgylchedd hefyd. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd.