Eich llythyr eglurhaol a CV

Eich llythyr eglurhaol a CV

  • Dylech gyflwyno llythyr neu e-bost eglurhaol. Dyma ffordd dda o ddod i’ch nabod. Dylech sicrhau bod y llythyr yn berthnasol i’r swydd rydych chi’n ymgeisio amdani.
  • Sicrhewch fod eich CV yn gyfredol ac yn gywir, a’i fod yn cynnwys eich cyflogaeth fwyaf diweddar
  • Sicrhewch fod eich manylion cyswllt ar eich CV
  • Byddwch yn onest a pheidiwch â gor-ddweud ar eich CV oherwydd efallai y bydd gofyn i chi ymhelaethu
  • Sicrhewch eich bod yn gwirio sillafu a gramadeg ar eich CV a/neu nodyn eglurhaol
  • Gofynnwch am adborth ar eich cais
Sut i baratoi at gyfweliad

Sut i baratoi at gyfweliad

  • Cyrhaeddwch yn brydlon. Paratowch sut ydych am gyrraedd yno, neu sicrhewch fod eich cysylltiad yn sefydlog ac ymunwch â’r cyfarfod yn brydlon os caiff ei gynnal ar-lein
  • Ymchwiliwch i’r sefydliad – edrychwch ar wefan y cwmni
  • Edrychwch ar y disgrifiad swydd a meddyliwch am bethau sy’n eich gwneud yn addas ar gyfer y rôl – sicrhewch eich bod yn tynnu sylw at y pethau hyn
  • Paratowch ar gyfer y cwestiynau posibl – cofiwch eich bod am roi argraff dda felly byddwch mor naturiol ag y gallwch. Os nad ydych yn onest, byddwch yn ffeindio’ch hun mewn swydd anaddas!
  • Peidiwch â phoeni am gyfaddef nad ydych yn gwybod yr ateb neu am ofyn i gael mynd yn ôl at y cwestiwn hwnnw.
  • Paratowch rai cwestiynau i holi i’r person sy’n cyfweld â chi – hyd yn oed os yw’n gwestiwn ynglŷn â phryd y cewch glywed am y penderfyniad

Cwestiynau Cyffredin