Derbyn Telerau
Mae eich mynediad at www.freedom-leisure.co.uk ("y Wefan") ac unrhyw Wasanaethau y cyfeirir atynt yng nghymal "Y Gwasanaethau", a'ch defnydd o'r rhain, yn destun i'r Telerau ac Amodau hyn yn unig. Ni fyddwch yn defnyddio'r Wefan at unrhyw ddiben sy'n anghyfreithlon neu'n waharddedig gan y Telerau ac Amodau hyn. Trwy ddefnyddio'r Wefan rydych yn derbyn yn llawn y telerau, amodau ac ymwrthodiadau yn yr hysbysiad hwn. Os nad ydych yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn mae'n rhaid i chi stopio defnyddio'r Wefan hon ar unwaith.
Rydym yn cadw'r hawl i ddiweddaru neu ddiwygio'r Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg a thybir bod eich defnydd parhaus o'r Wefan yn dilyn unrhyw newidiadau yn golygu eich bod yn derbyn newid o'r fath. Felly, chi biau'r cyfrifoldeb am wirio'r Telerau ac Amodau yn rheolaidd am unrhyw newidiadau.
Y gwasanaeth
Efallai y bydd y Wefan yn darparu offer cyfathrebu fel e-bost, byrddau bwletin, ardaloedd sgwrs, grwpiau newyddion, fforymau a/neu unrhyw gyfleusterau neges neu gyfathrebu eraill ("y Gwasanaethau") a ddyluniwyd i'ch galluogi i gyfathrebu â phobl eraill. Oni nodir yn wahanol, mae'r Gwasanaethau ar gyfer eich defnydd personol a heb fod yn fasnachol yn unig.
Goruchwylio plant
Mae gennym bryderon arbennig mewn perthynas â diogelwch a phreifatrwydd ein defnyddwyr, yn enwedig plant. Dylai rhieni sy'n dymuno caniatáu i'w plant gael mynediad at y Wefan/Gwasanaethau, a'u defnyddio, oruchwylio mynediad a defnydd o'r fath. Trwy ganiatáu i'ch plentyn gael mynediad at y Gwasanaethau, rydych yn caniatáu i'ch plentyn gael mynediad ar y Gwasanaethau, e-bost, byrddau bwletin, ardaloedd sgwrs, grwpiau newyddion, fforymau a/neu gyfleusterau neges neu gyfathrebu eraill. Felly chi biau'r cyfrifoldeb am bennu pa Wasanaethau sy'n briodol i'ch plentyn. Byddwch yn ofalus bob amser wrth ddatgelu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy amdanoch chi neu'ch plant trwy unrhyw rai o'r Gwasanaethau.
Polisi preifatrwydd
Rydym wedi ymrwymo i reoli data yn gyfrifol ac yn arddel egwyddorion deddfwriaeth diogelu data yn y Deyrnas Unedig. Rydym wedi ymrwymo i gynnal preifatrwydd ein defnyddwyr a chynnal diogelwch unrhyw wybodaeth breifat oddi wrthych chi. Os byddwch yn cofrestru ar gyfer unrhyw rai o'r Gwasanaethau bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol sylfaenol. Nid yw'r wybodaeth rydych wedi'i darparu ar gael i'w phrynu gan drydydd partïon neu ei defnyddio ganddynt. Defnyddir y wybodaeth i roi gwybod i chi am newidiadau neu ddiweddariadau i'r Wefan/Gwasanaethau yn unig.
Cyfrif defnyddiwr, cyfrinair a diogelwch
Os yw Gwasanaeth penodol yn gofyn i chi agor cyfrif, bydd angen i chi gwblhau'r broses gofrestru trwy ddarparu gwybodaeth benodol a chofrestru enw defnyddiwr a chyfrinair i ddefnyddio'r Gwasanaeth hwnnw. Chi biau'r cyfrifoldeb am gynnal cyfrinachedd yr enw defnyddiwr a chyfrinair a hefyd ar gyfer yr holl weithgareddau sy'n digwydd o dan eich cyfrif. Rydych yn cytuno i roi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o'ch cyfrinair neu gyfrif neu unrhyw doriad diogelwch arall. Ni fydd Freedom Leisure yn atebol o dan unrhyw ddigwyddiad am unrhyw golled neu ddifrod canlyniadol o gwbl sy'n deillio o ddatgelu eich enw defnyddiwr a/neu gyfrinair. Ni chewch ddefnyddio cyfrinair unigolyn arall ar unrhyw adeg, heb ganiatâd penodol deiliad y cyfrinair.
Defnydd derbyniol
Rydych yn cydnabod bod yr holl wybodaeth, testun, graffeg, logos, ffotograffau, delweddau, delweddau symudol, sain, darluniadau a deunyddiau eraill ("y Cynnwys"), wedi'u postio'n gyhoeddus neu wedi'u trosglwyddo'n breifat, yn gyfrifoldeb yr unigolyn y mae Cynnwys o'r fath wedi deillio ohono'n unig. Nid ydym yn rheoli neu'n ardystio'r Cynnwys ac ni allwn warantu cywirdeb, uniondeb neu ansawdd Cynnwys o'r fath ac rydych yn cydnabod trwy ddefnyddio'r Gwasanaethau y gallech ddod ar draws Cynnwys sy'n dramgwyddus a/neu anweddus. Ni fydd Freedom Leisure yn atebol mewn unrhyw ffordd am unrhyw Gynnwys neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath sy'n deillio o ddefnyddio unrhyw Gynnwys a drosglwyddwyd trwy'r Gwasanaethau ac rydym yn cytuno i ysgwyddo'r holl risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio unrhyw Gynnwys, gan gynnwys unrhyw ddibyniaeth ar gywirdeb neu gyflawnrwydd Cynnwys o'r fath.
Wrth ddefnyddio'r Wefan/Gwasanaethau rydych yn cytuno i beidio â:
- Defnyddio'r Gwasanaethau i anfon e-bost sothach, sbam, llythyrau cadwyn, cynlluniau pyramid neu unrhyw negeseuon digymell eraill, yn fasnachol neu fel arall;
- Postio, cyhoeddi, dosbarthu neu ledaenu gwybodaeth neu ddeunydd sy'n ddifenwol, tresmasu, anllad, anweddus, bygythiol, difrïol, bygythiol neu anghyfreithlon;
- Postio, cyhoeddi, dosbarthu neu ledaenu gwybodaeth neu ddeunydd sy'n annog gwahaniaethu, casineb neu drais tuag at unrhyw unigolyn neu grŵp oherwydd eu hil, crefydd, anabledd, cenedligrwydd neu fel arall;
- Bygwth, cam-drin, aflonyddu, stelcian neu dorri hawliau cyfreithiol (gan gynnwys hawliau preifatrwydd a chyhoeddusrwydd) pobl eraill mewn ffordd arall;
- Defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunydd mewn unrhyw ffordd sy'n torri ar hawlfraint, nod masnach, patent neu unrhyw hawl perchnogol arall unrhyw barti;
- Lanlwytho ffeiliau sy'n cynnwys feirws, mwydyn, ymweliad di-wahoddiad neu ddata llwgr a allai niweidio gweithrediad y cyfrifiadur neu eiddo rhywun arall, neu sicrhau bod y rhain ar gael;
- Casglu neu storio gwybodaeth bersonol am bobl eraill, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost;
- Hysbysebu neu gynnig prynu neu werthu nwyddau neu wasanaethau at unrhyw ddiben masnachol, oni bai bod cyfleuster cyfathrebu yn caniatáu negeseuon o'r fath yn benodol;
- Dynwared unrhyw unigolyn neu endid at ddiben camarwain pobl eraill;
- Torri unrhyw gyfreithiau neu reoliadau perthnasol;
- Defnyddio'r Wefan/Gwasanaethau mewn unrhyw ffordd a allai niweidio, analluogi, gorlwytho neu amharu ar y Wefan/Gwasanaethau neu ymyrryd â defnydd a mwynhau partïon eraill o'r Wefan/Gwasanaethau;
- Postio, cyhoeddi, dosbarthu neu ledaenu gwybodaeth neu ddeunydd nad oes gennych hawl i'w drosglwyddo o dan unrhyw gyfraith neu o dan berthnasau cytundebol neu ymddiriedol (fel gwybodaeth fewnol neu wybodaeth gyfrinachol a ddatgelwyd yn ystod cyflogaeth neu o dan gytundeb cyfrinachedd);
- Ceisio cael mynediad anawdurdodedig at unrhyw rai o'r Gwasanaethau, cyfrifon eraill, systemau neu rwydweithiau cyfrifiadurol sy'n gysylltiedig â'r Wefan/Gwasanaethau trwy hacio, cloddio cyfrinair neu unrhyw ddull arall.
Nid oes gennym unrhyw rwymedigaeth i fonitro'r Gwasanaethau ond bydd gennym hawl i adolygu deunyddiau sy'n cael eu postio i gyfleuster cyfathrebu ac, yn ôl ein doethineb ni'n unig, i gael gwared ar unrhyw ddeunydd sy'n torri'r Telerau ac Amodau hyn neu sy'n annerbyniol fel arall.
Terfynu
Mae gennym yr hawl i derfynu eich mynediad i unrhyw rai o'r Gwasanaethau hyn, neu bob un, ar unrhyw adeg, heb rybudd, am unrhyw reswm, gan gynnwys heb gyfyngiad, toriad o'r Telerau ac Amodau hyn. Hefyd gallwn ar unrhyw adeg, yn ôl ein doethineb ni'n unig, derfynu'r Wefan/Gwasanaethau neu unrhyw ran ohonynt heb rybudd ymlaen llaw ac rydych yn cytuno ni fyddwn yn atebol i chi neu unrhyw drydydd parti am unrhyw derfynu o'ch mynediad at y Wefan/Gwasanaethau.
Dolenni i wefannau trydydd parti
Efallai y bydd y Wefan/Gwasanaethau'n cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti y mae pobl eraill yn eu rheoli a'u cynnal. Nid yw unrhyw ddolen i wefannau eraill yn ardystiad o'r gwefannau o'r fath ac rydych yn cydnabod nad yw Freedom Leisure yn gyfrifol am gynnwys neu argaeledd unrhyw safleoedd o'r fath, ac yn cytuno â hynny.
Defnydd rhyngwladol
Rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r holl gyfreithiau perthnasol mewn perthynas â throsglwyddo data technegol a allforiwyd o'r Deyrnas Unedig neu'r wlad lle rydych yn byw (os yw'n wahanol) ac â'r holl reolau a deddfau lleol mewn perthynas â defnydd derbyniol o'r Rhyngrwyd ac ymddygiad.
Hawliau eiddo deallusol
Mae'r Wefan a'i chynnwys (gan gynnwys heb gyfyngiad dyluniad y Wefan, testun, graffeg, a'r holl feddalwedd a chodau ffynhonnell sy'n gysylltiedig â'r Wefan a'r Gwasanaethau) wedi'u diogelu gan hawlfraint, nodau masnach, patentau a chyfreithiau a hawliau eiddo deallusol eraill. Wrth gyrchu'r Wefan rydych yn cytuno y byddwch yn cyrchu'r cynnwys at eich defnydd personol, heb fod yn fasnachol yn unig. Ni chaiff unrhyw ran o'r cynnwys gael ei lawrlwytho, copïo, atgynhyrchu, trosglwyddo, storio, gwerthu neu ddosbarthu heb ganiatâd ysgrifenedig deiliad yr hawlfraint ymlaen llaw. Mae hyn yn eithrio lawrlwytho, copïo a/neu argraffu tudalennau'r Wefan at ddefnydd personol, heb fod yn fasnachol yn y cartref yn unig.
Nid yw Freedom Leisure yn honni perchnogaeth unrhyw ddeunyddiau rydych yn postio, lanlwytho neu gyflwyno i unrhyw faes o'r Gwasanaethau sy'n hygyrch i'r cyhoedd. Fodd bynnag, trwy wneud hyn rydych yn rhoi trwydded fyd-eang, heb freindal, heb fod yn gyfyngedig i gopïo, dosbarthu, trosglwyddo, atgynhyrchu, arddangos yn gyhoeddus, golygu, cyfieithu neu gyfieithu Cynnwys o'r fath cyn belled ag y byddwch yn dewis arddangos Cynnwys o'r fath trwy'r Gwasanaethau. Bydd y drwydded yn cael ei therfynu pan fydd Cynnwys o'r fath yn cael ei ddileu o'r Gwasanaethau.
Indemniad
Rydych yn cytuno indemnio a dal Freedom Leisure yn ddiniwed gan ac yn erbyn unrhyw doriad gennych chi o'r Telerau ac Amodau hyn ac unrhyw hawliad neu alwad yn erbyn Freedom Leisure gan unrhyw drydydd parti sy'n deillio o'ch defnydd o'r Gwasanaethau a/neu unrhyw Gynnwys a gyflwynwyd, postiwyd neu trosglwyddwyd trwy'r Gwasanaethau, gan gynnwys y rheiny heb gyfyngiad, pob hawliad, gweithred, achos, colled, atebolrwydd, difrod, costau, treuliau (gan gynnwys costau a threuliau cyfreithiol rhesymol) sut bynnag y cawsant eu dioddef neu ysgwyddo gan Freedom Leisure o ganlyniad i chi'n torri'r Telerau ac Amodau hyn.
Ymwadiadau a chyfyngiad atebolrwydd
Rydych yn defnyddio'r Wefan/Gwasanaethau ar eich menter eich hun. Mae'r Wefan/Gwasanaethau'n cael eu darparu ar sail "FEL Y MAENT" a "FEL BO AR GAEL" heb wneud unrhyw gynrychiolaeth neu ardystiad a heb warant o unrhyw fath, yn amlwg neu'n ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, addasrwydd ar gyfer diben penodol, peidio â thorri rheolau, cysondeb, diogelwch a chywirdeb.
I'r graddau y mae'r gyfraith yn ei ganiatáu, ni fydd Freedom Leisure yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ddilynol o gwbl (gan gynnwys heb gyfyngiad colli busnes, cyfle, data, elw) sy'n deillio o ddefnyddio'r Wefan/Gwasanaethau neu'n gysylltiedig â hyn.
Nid yw Freedom Leisure yn gwneud unrhyw warant y bydd y Wefan/Gwasanaethau yn bodloni eich gofynion, y bydd Cynnwys yn gywir neu'n ddibynadwy, ac y bydd ymarferoldeb y Wefan/Gwasanaethau yn ddi-dor neu'n rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro neu y bydd y Wefan/Gwasanaethau neu'r gweinydd sy'n golygu eu bod ar gael yn rhydd o firysau neu unrhyw beth arall a allai fod yn niweidiol neu ddinistriol.
Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu dehongli i eithrio neu gyfyngu atebolrwydd Freedom Leisure ar gyfer marwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i esgeulustod Freedom Leisure.
Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau ac Amodau hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol fel defnyddiwr.
Toriad
Os tybir bod unrhyw rai o'r Telerau ac Amodau hyn yn annilys, anghyfreithlon neu anorfodadwy am unrhyw reswm gan unrhyw lys o awdurdodaeth gymwys yna bydd y Telerau neu Amodau hynny'n cael eu torri a bydd gweddill y Telerau ac Amodau yn goroesi ac yn parhau i fod mewn grym ac effaith lawn ac yn parhau i fod yn rhwymol a gorfodadwy.
Cyfraith llywodraethu
Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr a thrwy hynny dylech gyflwyno i awdurdodau llysoedd Lloegr yn unig.