beth yw briwsion?

Ffeiliau bach yw briwsion sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur. Maent wedi'u cynllunio i ddal rhywfaint o ddata sy'n benodol i'ch ymweliad â'n gwefan ar ein safle.

Mae briwsion yn helpu i wella eich ymweliad â'n gwefan trwy helpu â'r canlynol:

  • Cofio gosodiadau, fel nad oes angen i chi barhau i'w hail-fewnbynnu bob tro y byddwch yn ymweld â thudalen newydd
  • Cofio gwybodaeth rydych wedi'i rhoi (e.e. eich cod post) fel nad oes i chi ei mewnbynnu drosodd a throsodd.
  • Mesur sut rydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni fod yn siŵr ei bod yn diwallu eich anghenion

Sylwch nad yw briwsion yn gallu niweidio eich cyfrifiadur ac ni fyddwn yn storio gwybodaeth bersonol adnabyddadwy mewn briwsion rydym yn eu defnyddio ar y wefan hon.

Rydym yn rhoi'r wybodaeth hon i chi fel rhan o'n menter i gydymffurfio â deddfwriaeth y DU, a sicrhau ein bod yn onest a chlir ynglŷn â'ch preifatrwydd wrth ddefnyddio ein gwefan.

Byddwch yn sicr ein bod yn gweithio ar nifer o welliannau eraill i'r wefan sy'n ymwneud â briwsion a phreifatrwydd.

y briwsion rydym yn eu defnyddio

briwsion cyffredinol gwefan

Adeiladwyd y wefan hon gan ddefnyddio technolegau gwe PHP, fel rhan o hynny rydym yn defnyddio'r briwsionyn sesiwn annatod (PHPSESSID) i reoli eich sesiwn. Pan fyddwch yn gwe-lywio i'r safle, mae'r gweinydd yn sefydlu sesiwn unigryw sy'n para drwy gydol eich ymweliad.

mesur defnydd o'r wefan - Google analytics

Mae Google Analytics yn defnyddio briwsion i ddiffinio sesiynau defnyddwyr, yn ogystal â darparu nifer o nodweddion allweddol yn adroddiadau Google Analytics. Mae Google Analytics yn gosod neu'n diweddaru briwsion i gasglu data sy'n ofynnol ar gyfer yr adroddiadau'n unig. Hefyd, mae Google Analytics yn defnyddio briwsion parti cyntaf yn unig. Mae hyn yn golygu bod yr holl friwsion y mae Google Analytics yn eu gosod ar gyfer eich parth yn anfon data i'r gweinyddion ar gyfer eich parth yn unig. I bob diben, mae hyn yn gwneud briwsion Google Analytics yn eiddo personol parth y wefan hon, ac ni all unrhyw wasanaeth ar all ar barth arall addasu neu adalw'r data.

Mae'r tabl canlynol yn rhestru'r mathau o wybodaeth sy'n cael ei sicrhau trwy friwsion Google Analytics a'i defnyddio mewn adroddiadau Analytics.

Ymarferoldeb

Disgrifiad o'r Briwsionyn

Briwsionyn a Ddefnyddiwyd

Gosod cwmpas cynnwys eich safle

Oherwydd bod mynediad darllen/ysgrifennu unrhyw friwsionyn wedi'i gyfyngu gan gyfuniad o enw'r briwsionyn a'i barth, mae olrhain ymwelwyr diofyn trwy Google Analytics yn gyfyngedig i barth y dudalen lle mae'r cod olrhain wedi'i osod. Ar gyfer y senario mwyaf cyffredin lle mae'r cod olrhain wedi'i osod ar barth sengl (a dim is-barthau eraill), mae'r gosodiad generig yn gywir. Mewn sefyllfaoedd eraill lle gallech fod yn dymuno olrhain ar draws parthau neu is-barthau, neu gyfyngu olrhain i adran lai o barth sengl, rydych yn defnyddio dulliau ychwanegol yn y cod olrhain ga.js i ddiffinio cwmpas cynnwys. Gweler Domains & Directories yn y ddogfen Collection API i gael manylion.

Pob Briwsionyn

Pennu sesiwn ymwelydd

Mae olrhain Google Analytics ar gyfer ga.js yn defnyddio dau friwsionyn i sefydlu sesiwn. Os bydd y naill neu'r llall o'r briwsion hyn ar goll, bydd gweithgarwch pellach gan y defnyddiwr yn cychwyn sesiwn newydd. Gweler yr erthygl Session yn y Ganolfan Help i gael diffiniad manwl a rhestr o senarios sy'n dod â sesiwn i ben. Gallwch addasu hyd amser diofyn sesiwn gan ddefnyddio'r dull _setSessionCookieTimeout().

Mae'r disgrifiad hwn yn fanwl i'r cod olrhain ga.js ar gyfer tudalennau gwe. Os ydych yn defnyddio olrhain Analytics ar gyfer amgylcheddau eraill - fel Flash neu symudol - dylech wirio'r ddogfennaeth ar gyfer yr amgylcheddau hynny i ddysgu sut mae sesiynau'n cael eu cyfrifo neu eu sefydlu.

__utmb
__utmc

Adnabod ymwelwyr unigryw

darparir ID unigryw i bob porwr unigryw sy'n ymweld â thudalen ar eich gwefan trwy'r briwsionyn __utma . Yn y ffordd hon, cofnodir bod ymweliadau dilynol i'ch gwefan trwy'r un porwr yn perthyn i'r un ymwelydd (unigryw). Felly, os yw unigolyn wedi rhyngweithio â'ch gwefan gan ddefnyddio Firefox ac Internet Explorer, byddai'r adroddiad Analytics yn olrhain y gweithgarwch hwn o dan ddau ymwelydd ar wahân. Yn yr un modd, petai dau ymwelydd gwahanol yn defnyddio'r un porwr, ond â chyfrif cyfrifiadur ar wahân ar gyfer pob un, byddai'r gweithgarwch yn cael ei gofnodi o dan ddau ID ymwelydd unigryw. Ar y llaw arall, os yw'r porwr yn cael ei ddefnyddio gan ddau unigolyn gwahanol sy'n rhannu'r un cyfrif cyfrifiadur, bydd un ID ymwelydd unigryw'n cael ei gofnodi, er bod dau unigolyn unigryw wedi cyrchu'r safle.

__utma

Olrhain ffynonellau traffig a gwe-lywio

Pan fydd ymwelwyr yn cyrraedd eich safle trwy ganlyniad peiriant chwilio, dolen uniongyrchol, neu hysbyseb sy'n cysylltu â'ch tudalen, bydd Google Analytics yn storio'r math o wybodaeth atgyfeirio mewn briwsionyn. Mae'r paramedrau yng ngwerth llinyn y briwsionyn yn cael eu dosrannu a'u hanfon yn y Cais GIF (yn y newidyn utmcc). Mae dyddiad dod i ben y briwsionyn yn cael ei osod fel 6 mis yn y dyfodol. Bydd y briwsionyn hwn yn cael ei ddiweddaru â phob golwg tudalen dilynol ar eich safle felly caiff ei ddefnyddio i bennu gwe-lywio ymwelwyr yn eich safle.

__utmz

Newidynnau wedi'u teilwra

Gallwch ddiffinio eich segmentau eich hun ar gyfer adrodd ar eich data penodol. Pan fyddwch yn defnyddio'r dull _setCustomVar() yn eich cod olrhain i ddiffinio newidynnau wedi'u teilwra, bydd Google Analytics yn defnyddio'r briwsionyn hwn i olrhain ac adrodd ar y wybodaeth honno. Mewn achos defnydd nodweddiadol, efallai y byddwch yn defnyddio'r dull hwn i segmentu ymwelwyr â'ch gwefan yn ôl demograffig wedi'i deilwra byddant yn ei ddewis ar eich gwefan (incwm, ystod oed, dewisiadau o ran cynnyrch).

__utmv

Optimeiddio gwefan

Gallwch ddefnyddio Google Analytics gyda Google Website Optimizer (GWO), sef offeryn sy'n helpu i bennu'r dyluniad mwyaf effeithiol i'ch safle. Pan fydd sgript optimeiddio gwefan yn gweithredu ar eich tudalen, ysgrifennir briwsionyn _utmx i'r porwr ac anfonir ei werth i Google Analytics. Gweler y Website Optimizer Help Center i gael mwy o wybodaeth.

__utmx

Unwaith y bydd y briwsion wedi'u gosod/diweddaru ar y porwr gwe, bydd y data maent yn ei gynnwys sy'n ofynnol at ddibenion adrodd yn cael ei anfon at y gweinyddion Analytics yn yr URL Cais GIF trwy'r paramedr utmcc.

briwsion wedi'u gosod gan google analytics

Mae Google Analytics yn gosod y briwsion canlynol fel y disgrifiwyd yn y tabl isod. Mae defnydd a ffurfweddiad diofyn Google Analytics yn gosod y 4 briwsionyn cyntaf yn y tabl yn unig.

Enw

Disgrifiad o'r Briwsion

Dod i ben

__utma

Yn nodweddiadol mae'r briwsionyn hwn yn cael ei ysgrifennu i'r porwr ar yr ymweliad cyntaf i'ch safle o'r porwr gwe hwnnw. Os y gweithredwr y porwr wedi dileu'r briwsionyn, ac wedyn mae'r porwr yn ymweld â'ch safle, bydd briwsionyn __utma newydd yn cael ei ysgrifennu â gwahanol ID unigryw. Defnyddir y briwsionyn hwn i bennu ymwelwyr unigryw i'ch safle a chaiff ei ddiweddaru â phob golwg ar dudalen. Hefyd, darperir ID unigryw i'r briwsionyn hwn y mae Google Analytics yn ei ddefnyddio i sicrhau dilysrwydd a hygyrchedd y briwsionyn fel mesur diogelwch ychwanegol.

2 flynedd o osod/diweddaru.

__utmb

Defnyddir y briwsionyn hwn i sefydlu a pharhau sesiwn defnyddiwch â'ch safle. Pan fydd defnyddiwr yn gweld tudalen ar eich gwefan, mae'r cod Google Analytics yn ceisio diweddaru'r briwsionyn hwn. Os nad yw'n dod o hyd i'r briwsionyn, caiff un newydd ei ysgrifennu a chaiff sesiwn newydd ei sefydlu. Bob tro y bydd defnyddiwr yn ymweld â gwahanol dudalen ar eich safle, caiff y briwsionyn hwn ei ddiweddaru i ddod i ben mewn 30 munud, gan barhau sesiwn sengl am ba bynnag mor hir y mae gweithgarwch defnyddiwr yn parhau mewn bylchau 30 munud. Daw'r briwsionyn hwn i ben pan fydd defnyddiwr yn oedi ar dudalen ar eich safle am fwy na 30 munud. Gallwch addasu hyd diofyn sesiwn defnyddio'r â'r dull _setSessionCookieTimeout() .

30 munud o osod/diweddaru.

__utmc

Nid yw'r cod olrhain ga.js yn defnyddio'r briwsionyn hwn bellach i bennu statws y sesiwn.

Yn hanesyddol, roedd y briwsionyn hwn yn gweithredu ar y cyd â'r briwsionyn __utmb i bennu a ddylid sefydlu sesiwn nesaf i'r defnyddiwr ai peidio. At ddibenion cydweddoldeb yn ôl â safleoedd sy'n dal i ddefnyddio'r cod olrhain urchin.js, bydd y briwsionyn hwn yn parhau i gael ei ysgrifennu a bydd yn dod i ben pan fydd y defnyddiwr yn gadael y porwr. Fodd bynnag, os ydych yn dadfygio olrhain eich safle ac yn defnyddio'r cod olrhain ga.js, ni ddylech ddehongli bodolaeth y briwsionyn hwn mewn perthynas â sesiwn newydd neu sesiwn sydd wedi dod i ben.

Heb ei osod.

__utmz

Mae'r briwsionyn hwn yn storio'r math o atgyfeiriad mae'r ymwelydd yn defnyddio i gyrraedd eich safle, bod hynny trwy ddull uniongyrchol, dolen atgyfeirio, chwiliad gwefan, neu ymgyrch fel hysbyseb neu ddolen e-bost. Caiff ei ddefnyddio i gyfrifo traffig peiriant chwilio, ymgyrchoedd hysbysebu a gwe-lywio tudalennau yn eich safle eich hun. Caiff y briwsionyn ei ddiweddaru â phob golwg tudalen ar eich safle.

6 mis o osod/diweddaru.

__utmv

Fel arfer nid yw'r briwsionyn hwn yn bresennol yn ffurfweddiad diofyn y cod olrhain. Mae'r briwsionyn __utmv yn trosglwyddo'r wybodaeth a ddarparwyd trwy'r dull _setVar() , ac rydych yn ei ddefnyddio i greu segment defnyddiwr wedi'i deilwra. Yna mae'r llinyn hwn yn cael ei drosglwyddo i'r gweinydd Analytics yn yr URL Cais GIF trwy'r paramedr utmcc. Caiff y briwsionyn hwn ei ysgrifennu dim ond os ydych wedi ychwanegu'r dull _setVar() ar gyfer y cod olrhain ar dudalen eich gwefan.

2 flynedd o osod/diweddaru.

__utmx

Mae Website Optimizer yn defnyddio'r briwsionyn hwn a chaiff ei osod dim ond pan mae'r cod olrhain Website Optimizer wedi'i osod a'i ffurfweddu'n gywir ar gyfer eich tudalennau. Pan fydd y sgript optimeiddio'n gweithredu, bydd y briwsionyn hwn yn storio'r amrywiad a neilltuwyd i'r ymwelydd hwn ar gyfer pob arbrawf, fel bod yr ymwelydd yn cael profiad cyson ar eich safle.  Gweler y Website Optimizer Help Center i gael mwy o wybodaeth.

2 flynedd o osod/diweddaru.

I gael mwy o wybodaeth am y Briwsion y mae Google yn eu defnyddio ewch i'r dudalen Cookie Information hon.

mesur defnydd o wefan - dc storm

Mae'r wefan hon yn defnyddio Briwsion DC Storm i nodi sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â'r wefan, fel eu bod yn gallu gweld pethau fel y tudalennau mwyaf poblogaidd a thaith defnyddwyr trwy eu safle.

Briwsion Parti Cyntaf - Caiff y briwsion hyn eu gosod gan y wefan rydych yn ymweld â hi.

argraffiadau

Hefyd caiff briwsion eu creu i nodi pan fydd defnyddiwr wedi gweld hysbyseb ar gyfer y wefan hon ar safle allanol.

Mae'r briwsionyn yn cynnwys dynodydd unigryw a dim byd arall. Os byddwch yn ymweld â'r wefan hon wedyn, yna byddwn yn cysylltu'r briwsionyn hwnnw (ac felly'r hysbyseb) â'ch ymweliad, ond os na fyddwch byth yn ymweld â'r wefan, mae’r briwsionyn yn ddiystyr a daw i ben yn awtomatig, 90 diwrnod ar ôl i chi weld un o'r hysbysebion.

gwybodaeth briwsion parti cyntaf

Defnyddir y briwsion hyn i olrhain defnydd gwefan o'r safle hwn:

Enw'r Briwsionyn

Disgrifiad

Dod i ben

_#srchist

Yn storio hanes ffynonellau traffig y mae'r defnyddiwr wedi'u defnyddio i gyrraedd y safle

1000 diwrnod

_#sess

Yn storio gwybodaeth am y sesiwn

1000 diwrnod

_#vdf

Yn storio diffiniad yr ymweliad - math ts, nifer yr ymweliadau, dod i ben

1000 diwrnod

_#uid

Yn storio dynoded defnyddiwr (o fewn safle yn unig)

1000 diwrnod

_#slid

ID gwerthu unigryw

1000 diwrnod

_#clkid

Dynodydd unigryw ar gyfer clic sy'n arwain at lanio

1 flwyddyn

_#lps

Yn dynodi bod y dudalen olaf yn ddiogel ac felly nid oes unrhyw atgyfeiriwr

20 munud

_#tsa

Yn storio manylion yr atgyfeiriwr i osgoi digwyddiadau Glanio dyblyg

10 munud

_#env

Yn dynodi a oes angen i'r newidynnau amgylchedd (maint sgrin, porwr ac ati) gael eu casglu eto

30 diwrnod

I gael mwy o wybodaeth am y Briwsion y mae DC Storm yn eu defnyddio ewch i'w dudalen Cookie Information.

briwsion 3ydd parti arall y gallwn eu defnyddio

Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, efallai y sylwch ar rai briwsion sy'n casglu gwybodaeth i wefannau eraill. Er enghraifft, os ymwelwch â thudalen sy'n cynnwys fideo, efallai y bydd briwsion o YouTube yn cael eu gweini. Nid ydym yn rheoli gosod y briwsion hyn ac argymhellwch eich bod yn ymweld â'r gwefannau trydydd parti i gael mwy o wybodaeth.

Dyma restr o rai briwsion trydydd parti y gallech ddod o hyd iddynt ar y wefan hon a dolenni at eu gwybodaeth briwsion penodol:

sut alla i reoli neu ddileu briwsion?

Os nad yw briwsion wedi'u galluogi ar eich cyfrifiadur gallai hyn olygu y bydd effaith ar eich profiad â'n gwefan. Fodd bynnag, os dymunwch reoli neu ddileu briwsion gallwch wneud hynny.

Mae gwybodaeth am ddileu briwsion neu reoli briwsion ar gael yn www.aboutCookies.org. Ond i ailadrodd, trwy ddileu ein briwsion neu analluogi briwsion yn y dyfodol, efallai ni fyddwch yn gallu cael mynediad at rai meysydd neu nodweddion penodol o'n safle.

polisi preifatrwydd

Sylwch: Mae 'Ni' yn cyfeirio at Freedom Leisure mae 'Chi', 'Defnyddiwr/Defnyddwyr', 'Ymwelydd' yn cyfeirio at unrhyw un sy'n defnyddio'r wefan hon.

Mae Freedom Leisure Cyfyngedig yn berchen ar y Wefan hon ac yn ei rheoli.

Mae Freedom Leisure Cyfyngedig wedi ymrwymo i roi mesurau ar waith a ddyluniwyd i ddiogelu preifatrwydd y rheiny sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Mae Freedom Leisure Cyfyngedig yn parchu preifatrwydd pawb sy'n ymweld â'n Safle ac yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein ac rydym yn casglu gwybodaeth oddi wrth ein defnyddwyr, ac amdanynt, i'w defnyddio i wella'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig. Ac eithrio fel y nodwyd yn y Polisi Preifatrwydd hwn, ein Telerau ac Amodau, a chanllawiau eraill a gyhoeddwyd, nid ydym yn rhyddhau gwybodaeth bersonol adnabyddadwy (fel y disgrifiwyd isod) am ddefnyddwyr y Safle hwn heb eu caniatâd.

Effeithiau'r Ddogfen Hon a Dogfennau Cysylltiedig: Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn, ynghyd â'n Telerau ac Amodau a chanllawiau eraill a gyhoeddwyd, yn llywodraethu eich rhyngweithio â'r Safle hwn, a'ch cofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein Freedom Leisure Cyfyngedig, a defnyddio'r gwasanaethau hyn.

Dewis Optio Allan: Os hoffech i'ch gwybodaeth bersonol adnabyddadwy gael ei thynnu o gronfeydd data Freedom Leisure Cyfyngedig yn y dyfodol, anfonwch neges e-bost at hq@freedom-leisure.co.uk, a byddwn yn defnyddio ymdrechion rhesymol i gydymffurfio â'ch cais. Fodd bynnag, bydd gwybodaeth weddilliol a fydd yn aros yng nghronfeydd data, logiau mynediad, a chofnodion mewnol hanesyddol eraill Freedom Leisure Cyfyngedig a allai gynnwys gwybodaeth bersonol adnabyddadwy o'r fath ai peidio.

Y Wybodaeth gallwn ei chasglu:

  • Gwybodaeth nad yw'n bersonol adnabyddadwy:
  1. Fel ymarfer safonol, bydd Freedom Leisure Cyfyngedig yn neilltuo rhif ar hap i bob defnyddiwr ar gyfer olrhain dewisiadau cynnwys a phatrymau traffig yn ddienw. Mae'r rhif ar hap hwn yn caniatáu i ni gadw golwg ar "faint" o weithiau y mae defnyddwyr yn gwneud pethau penodol - fel ymweld â'n safle bob mis - heb i ni wybod pwy yw ein defnyddwyr mewn gwirionedd (oni bai eu bod yn dweud wrthym yn benodol). Byddwn yn dadansoddi'r data hwn ar gyfer tueddiadau ac ystadegau, fel pa rannau o'n safle mae defnyddwyr yn ymweld â hwy a faint o amser maint yn ei dreulio yno. Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am beth mae defnyddwyr yn chwilio. Byddwn yn defnyddio'r holl wybodaeth hon er mwyn gwella ein cynnwys, cynllunio gwella'r safle, a mesur effeithiolrwydd cyffredinol y safle.
  • Gwybodaeth bersonol adnabyddadwy:
  1. Cyffredinol: Mewn rhai meysydd o'r Safle hwn, mae'n ofynnol eich bod yn darparu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy i ni, er mwyn gallu defnyddio'r adran honno neu'r adrannau hynny o'r Safle hwn.
  2. Os byddwch yn cyflwyno cais am fwy o wybodaeth oddi wrthym, bydd y wybodaeth byddwch yn ei chyflwyno'n cael ei defnyddio gan Freedom Leisure Cyfyngedig yn unig. Mae ein rhestrau yn breifat ac ni fyddant byth yn cael eu gwerthu i unrhyw drydydd partïon.