Yn debyg ichi adref, mae defnydd ynni a’r cynnydd brawychus mewn biliau ynni, ar agenda pawb o hyd.

Yn ddiweddar, buom yn gweithio gyda’n holl bartneriaid awdurdod lleol ac wedi rhoi ar waith mesurau cadw tŷ amrywiol i leihau ein gwariant ar ynni, ac mae cydweithwyr yn ymwybodol y gall y newid lleiaf, megis diffodd goleuadau, unedau aerdymheru ac offer pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, wneud gwahaniaeth enfawr.

Hefyd mae Freedom Leisure wedi cofrestru ar gyfer Gwasanaeth Galw Hyblyg am Drydan y Grid Cenedlaethol, sef cynllun sydd ar gael i bob busnes mewn ymdrech i fod yn wyliadwrus mewn perthynas â defnydd ynni, yn enwedig ar adegau prysur.

Wrth inni barhau i lobïo’r llywodraeth am gymorth ychwanegol ar filiau ynni, mae gofyn i bawb chwarae eu rhan i leihau defnydd o ynni, ac yn y pen draw bydd yn fuddiol i’r amgylchedd hefyd. Mae Gwasanaeth Galw Hyblyg am Drydan y Grid Cenedlaethol yn rhoi ffocws inni a’n cydweithwyr, ond ni ddylai cwsmeriaid sylwi ar unrhyw newid i’r ffordd y caiff eu canolfan hamdden leol ei rhedeg – bydd popeth yn rhedeg fel arfer.

Matt Wickham

Prif Swyddog Gweithrediadau

Er bod timau ein canolfannau yn parhau i sicrhau nad ydym yn gwastraffu ynni yn ystod y dydd, byddem yn hoffi gofyn ichi ystyried hefyd sut y gallwch chi ein helpu i leihau ein defnydd ynni eto, trwy ddiffodd goleuadau wrth adael ystafell, hysbysu staff os ydych chi wedi gorffen gyda darn o offer, a hefyd treulio ychydig llai o amser yn y gawod, oherwydd bydd yr holl gamau hyn yn cyfrannu at helpu’r achos ac yn diogelu dyfodol tymor hwy ein canolfannau hamdden cymunedol lleol.