Mae Freedom Leisure, un o brif ymddiriedolaethau hamdden di-elw’r DU, sy’n rheoli dros 100 o gyfleusterau hamdden a diwylliant ar ran cleientiaid partner ledled y wlad, wedi cyhoeddi ei fod yn ychwanegu mwy o leoliadau a chyfleusterau i’w bortffolio sylweddol o gyfleusterau hamdden a diwylliant.

Ar 1 Mai bydd yr ymddiriedolaeth yn dod yn gyfrifol am redeg Canolfan Hamdden Tenterden yng Nghaint, ac yn dilyn proses tendro lwyddiannus, ym mis Awst bydd yn ychwanegu canolfannau hamdden Cirencester, Bourton-on-the-Water a Chipping Campden yn ogystal ag Amgueddfa Corinium yn Cirencester at ei bortffolio, mewn partneriaeth gyda Chyngor Rhanbarth y Cotswolds.

Pleser o’r mwyaf yw ychwanegu at y canolfannau sydd gennym eisoes yng Nghaint, trwy ychwanegu Canolfan Hamdden Tenterden, a derbyn y contractau hamdden a diwylliannol yn y Cotswolds; mae pawb yn awyddus i gychwyn ar y gwaith. Ein gweledigaeth yw gwella bywydau trwy hamdden, ac edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gyda’n cydweithwyr newydd yn y cyfleusterau lleol hynod bwysig hyn a gwella’r ddarpariaeth hamdden ar gyfer y gymuned gyfan er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i iechyd a llesiant trigolion y cymunedau hyn.

Ivan Horsfall Turner

CEO - Freedom Leisure

Sefydlwyd Freedom Leisure yn 2002 ac mae wedi tyfu’n esbonyddol ers hynny. Ar y pryd, roedd Freedom yn rheoli pedair canolfan hamdden ar ran Cyngor Dosbarth Wealden, ac erbyn heddiw mae’r nifer wedi cynyddu i 108 o leoliadau ar draws Cymru a Lloegr, o Wrecsam i Great Yarmouth, ac o Abertawe i Sandwich.