Mae Freedom Leisure wedi dylunio’r wefan hon gan ganolbwyntio ar hygyrchedd. Mae Freedom Leisure yn dymuno i sicrhau bod eu cynnyrch a’u gwasanaethau ar-lein yn hygyrch i bawb, waeth beth fo’u gallu. Mae darparu gwefan hygyrch yn effeithio’n gadarnhaol ar allu defnyddwyr i’w defnyddio’n gyffredinol. Rydyn ni’n credu bod gwefannau hygyrch sy’n hawdd i’w defnyddio o fudd i bawb.

Y Gyfraith

Fel sefydliad sector cyhoeddus, mae’n rhaid i ni gydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif. 2), caiff hyn ei orfodi gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC). 

Mae’r rheoliadau 2018 yn ychwanegu at y rhwymedigaethau presennol i bobl sydd ag anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (neu’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yng Ngogledd Iwerddon).

Cydymffurfiaeth â W3C

Mae’r World Wide Web Consortium (W3C) yn gosod Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) i bobl sy’n creu ac yn cynnal a chadw gwefannau. 

Fel sefydliad sector cyhoeddus, rydyn ni’n cadw at y canllawiau hyn ac yn targedu i gyrraedd safon cydymffurfiaeth “AA” drwy’r dulliau canlynol;

Gweladwy
  • Dewisiadau testun amgen: Rhoi dewisiadau testun amgen ar gyfer unrhyw gynnwys di-destun
  • Testun sy’n seiliedig ar amser: Rhoi dewisiadau amgen ar gyfer testun sy’n seiliedig ar amser e.e. fideo neu sain
  • Hyblygrwydd: Creu cynnwys y gellir ei gyflwyno mewn gwahanol ffyrdd (er enghraifft, cynllun symlach) heb golli gwybodaeth neu strwythur.
  • Gallu gwahaniaethu: Ei gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr weld cynnwys, gan gynnwys gwahaniaethu rhwng cynnwys blaen y wefan a’r cefndir.
Ymarferol
  • Dyfais Hygyrch: Gallu gweithredu’n ymarferol ar fysellfwrdd/llygoden/darllenydd sgrin
  • Digon o Amser: Rhoi digon o amser i ddefnyddwyr ddarllen a defnyddio’r cynnwys
  • Ffitiau: Peidio â dylunio cynnwys mewn ffordd a all achosi ffitiau
  • Llywio: Darparu ffyrdd o help defnyddwyr i lywio, dod o hyd i gynnwys a gweld lle ydyn nhw ar y wefan
Dealladwy
  • Darllenadwy: Gwneud cynnwys testun yn ddarllenadwy ac yn ddealladwy
  • Rhagweladwy: Gwneud i dudalennau gwe ymddangos a gweithredu mewn ffyrdd rhagweladwy
  • Cymorth Mewnbynnu: Helpu defnyddwyr i osgoi a chywiro camgymeriadau 
Cadarn
  • Cydnaws: Cynyddu cydnawsedd gydag asiantau defnyddwyr presennol ac asiantau defnyddwyr at y dyfodol, gan gynnwys technolegau cynorthwyol 

Sut y gwnaethom brofi'r wefan hon  

Cafodd y wefan yma ei phrofi diwethaf ym mis Awst 2022. Cafodd y prawf ei gynnal yn allanol gan drydydd parti. 

Roeddent wedi gwirio sampl eang o dudalennau ar y wefan, gan gynnwys yr hafan a detholiad o dudalennau eraill gan ddefnyddio’r templedi amrywiol eraill. Roeddent wedi defnyddio offeryn datblygwr am ddim (https://www.deque.com/axe/) sy’n gwirio pob tudalen yn erbyn materion yn ymwneud ag hygyrchedd safonol.  Cynhaliwyd archwiliad â llaw hefyd. Cofnodwyd pob un o’r materion, a ffurfiwyd cynllun gweithredu a rhoddwyd y cynllun hwnnw ar waith ar gyfer y wefan. 

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch: 

  • Nid yw’r rhan fwyaf o’r dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • Mae hygyrchedd cynnwys fideo sydd wedi’i wreiddio yn dibynnu ar y safonau a gyrhaeddwyd gan y darparwr trydydd parti. Lle bo’n bosibl, byddwn yn defnyddio nodweddion fel is-deitlau i sicrhau bod ein cynnwys yn hygyrch 

Beth i'w wneud os na allwch gael mynediad i rannau o'r wefan hon

Os ydych angen gweld gwybodaeth ar y wefan hon ar fformat gwahanol, cysylltwch â’r Tîm Marchnata yn eich canolfan Freedom Leisure lleol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau neu’n meddwl nad ydyn ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Tîm Marchnata yn eich canolfan Freedom Leisure lleol.