Pethau i’w gwneud gyda’r plant

Gwersi Nofio

Gwersi Nofio

Mae ein canolfannau’n cynnig amrywiaeth o wersi nofio i oedolion a phlant. Prif nod ein gwersi nofio yw meithrin nofwyr hyderus a chymwys a hynny mewn ffordd llawn hwyl a mwynhad. Ein nod yw meithrin y lefel uchaf o hyder yn y dŵr a sgiliau a thechneg nofio o’r radd flaenaf.

Mewn partneriaeth â Swim Englad a Nofio Cymru

Mewn partneriaeth â Swim Englad a Nofio Cymru

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Swim England a Nofio Cymru i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio o ansawdd uchel i bob oedran a phob gallu. Mae pob un o’n hyfforddwyr yn brofiadol ac wedi cael hyfforddiant llawn.