Mae Freedom Leisure, y brif ymddiriedolaeth hamdden elusennol a dielw, sy'n rheoli 29 o ganolfannau hamdden ledled Cymru, yn hynod falch o gyhoeddi ei bod wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn dau gategori yng Ngwobrau Nofio Cymru a gynhelir mewn digwyddiad gala yng Nghaerdydd yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae'r gwobrau mawreddog hyn, a drefnir gan Nofio Cymru, y Corff Llywodraethu Cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer gweithgareddau dŵr yng Nghymru, yn cydnabod ac yn dathlu'r ysbryd anhygoel yn y byd gweithgareddau dŵr trwy arddangos unigolion, grwpiau a sefydliadau am eu hangerdd, eu hymroddiad a'u llwyddiannau rhagorol.

Y ddau gategori gwobrau yw 'Gwobr Menter Cynaliadwyedd' a'r wobr fawreddog 'Darparwr Dysgu Nofio y Flwyddyn trwy Gymru'.

Mae Freedom Leisure yn rheoli'r canolfannau hamdden ar ran y cynghorau ym Mhowys, Wrecsam ac Abertawe ac mae ganddo dros 12,000 o nofwyr ar ei raglen Dysgu Nofio, Nofio Cymru gyda thîm medrus iawn o hyfforddwyr nofio yn addysgu plant ac oedolion i ddysgu'r 'sgil bywyd' o nofio.

Roedd y cais ar gyfer 'Gwobr Menter Cynaliadwyedd' yn canolbwyntio ar fuddsoddiad sylweddol Freedom Leisure mewn mentrau arbed ynni sydd wedi arwain at leihau allyriadau carbon a gwella eu heffaith amgylcheddol.

Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Nofio Cymru 23/24. Rydym yn croesawu dros 800,000 o ymweliadau â'n pyllau nofio bob blwyddyn ac rydym yn falch o gael dros 12,000 o gyfranogwyr ar ein Rhaglen Dysgu Nofio, Nofio Cymru. Mae cael partneriaeth gref gyda Nofio Cymru yn ein galluogi i ddarparu profiad gwych i blant ac oedolion, gan gefnogi eu twf mewn hyder gyda sgil bywyd sy'n arwain at fwynhad, diogelwch a hwyl yn y dŵr, yn enwedig yn ein hardaloedd arfordirol fel yn Abertawe

Ivan Horsfall Turner

Prif Swyddog Gweithredol

Bydd aelodau eraill o'i Uwch Dîm Arwain yn ymuno ag Ivan yn y seremoni ar 20 Ionawr 2024 yng Nghaerdydd gan ddangos angerdd ac ymrwymiad y sefydliad i ddatblygiad gweithgareddau dŵr yng Nghymru.