Chwaraeon Raced

Chwaraeon Raced

Mae chwarae badminton, tennis neu sboncen, nid yn unig yn hwyl, ond mae ganddo fanteision i’r iechyd hefyd. Mae’n gwella symudiad y corff a’ch cydbwysedd. Gall hefyd helpu i gryfhau’ch breichiau a’ch coesau. 

Mae cyrtiau ar gael yn ein canolfannau i dimau a grwpiau i’w llogi i’w defnyddio naill ai unwaith neu yn rheolaidd.

Gemau grŵp a thîm

Gemau grŵp a thîm

Ar ôl gêm hamddenol gyda’ch ffrindiau neu gêm gystadleuol gyda’ch gwrthwynebwyr pennaf, bydd wastad cyfle i chi orffen drwy ysgwyd llaw, roi pump uchel neu drafod y gêm yn yr ystafelloedd newid.  Mae gan lawer o’n canolfannau gaeau awyr agored ar gael i’w llogi. Mae modd eu llogi unwaith, yn achlysurol neu ar gyfer sesiynau bloc rheolaidd.