Addewid Preifatrwydd

Diogelwch yw’n blaenoriaeth bennaf

Mae’n rhaid i ni gasglu a chadw ychydig o ddata amdanoch chi, fel eich enw, cyfeiriad e-bost, manylion talu a gwybodaeth iechyd. Hefyd efallai y bydd angen i ni rannu eich data â’n partneriaid y gellir ymddiried ynddynt sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r cynnyrch a'r gwasanaeth rydych chi wedi’u prynu, fel cwmnïau hyfforddi trydydd parti i alluogi iddynt ddarparu'r gwasanaethau.

Rydym yn addo casglu, prosesu, storio a rhannu eich data yn ddiogel. Hefyd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y busnesau eraill rydym yn gweithio â nhw yr un mor ofalus â'ch data.

Rydym yn defnyddio data i wneud eich amser â ni yn hawdd

Gallwn ddefnyddio'r manylion cyswllt rydych yn eu rhannu â ni i roi gwybod os bydd newidiadau i’ch archebion, neu bethau eraill sy'n digwydd a allai effeithio ar eich ymweliad, fel unrhyw newidiadau o ran rhaglen neu hyfforddwr neu unrhyw broblemau technegol, sy’n arwain at gau canolfan.

Hefyd trwy wrando ar yr hyn y mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud wrthym, gallwn wneud newidiadau, i wneud pethau'n haws lle y gallwn.

Rydym yn defnyddio data i wneud eich amser â ni yn fwy fforddiadwy

Os dewiswch dderbyn marchnata trwy e-bost oddi wrth Wealden Leisure Cyfyngedig yn masnachu fel Freedom Leisure, gallwn roi gwybod i chi pan fydd aelodaeth ostyngol ar gynnig, pan fydd cynigion a hyrwyddiadau arbennig, neu ddweud wrthych am gynhyrchion a gwasanaethau newydd.

Gallwn hefyd weithio â busnesau eraill i lunio cynigion unigryw y credwn eu bod yn iawn i chi. Cofiwch eich bod chi mewn rheolaeth a gallwch reoli eich dewisiadau ar unrhyw adeg trwy anfon neges e-bost i data.protection@freedom-leisure.co.uk gyda’ch enw a chyfeiriad e-bost.

Chi sy’n rheoli eich data

Os hoffech beidio â derbyn deunydd marchnata oddi wrthym, gallwch adolygu a newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg trwy anfon neges e-bost i data.protection@freedom-leisure.co.uk gyda’ch enw, cyfeiriad e-bost (os yw'n wahanol i'r un rydych yn ei ddefnyddio'r) a'r llinell pwnc "Dileu tanysgrifiad".

Os yw'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi’n anghywir, gallwch anfon neges e-bost i data.protection@freedom-leisure.co.uk, gadewch i ni wybod beth y mae angen ei ddiweddaru a byddwn yn ei gywiro.

Polisi Preifatrwydd

Read on for our full updated Privacy Policy or click on any link below that will take you to the relevant section:

1. Pwy sy'n gyfrifol am eich data

Mae ein Polisi Preifatrwydd yn berthnasol i'r data personol hwnnw y mae Wealdon Leisure Cyfyngedig yn masnachu fel Freedom Leisure yn ei gasglu ac yn ei ddefnyddio.

Mae cyfeiriadau yn y Polisi Preifatrwydd hwn at “Wealden Leisure Cyfyngedig yn masnachu fel Freedom Leisure”, “ni” neu “ein” yn golygu Wealden Leisure Cyfyngedig yn masnachu fel Freedom Leisure (Cymdeithas Gofrestredig o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, Rhif 29336R - Swyddfa Gofrestredig - The Paddock, 1 - 6 Carriers Way, East Hoathly. BN8 6AG.)

Rydym yn rheoli’r ffyrdd y mae’ch data personol yn cael ei gasglu, a'r dibenion y mae Wealden Leisure Cyfyngedig yn masnachu fel Freedom Leisure yn ei ddefnyddio atynt a ni yw’r "rheolydd data" at ddibenion GDPR 2018 a deddfwriaeth diogelu data eraill perthnasol yr Undeb Ewropeaidd.  

2. Data personol rydym yn ei gasglu amdanoch chi

Wrth ddefnyddio'r term "data personol" yn ein Polisi Preifatrwydd, rydym yn golygu gwybodaeth sy'n ymwneud â chi ac sy’n ein galluogi i’ch adnabod, naill ai'n uniongyrchol neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall a allai fod gennym. Efallai y bydd eich data personol yn cynnwys, er enghraifft, eich enw, eich manylion cyswllt, gwybodaeth am y cynnyrch neu'r gwasanaeth rydych wedi’i brynu gennym (e.e. eich rhif aelodaeth) neu wybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein gwefan neu’n rhyngweithio â ni.

Rydym yn casglu rhywfaint o ddata personol gennych chi, er enghraifft pan fyddwch yn archebu lle mewn dosbarth neu gwrs â ni, yn defnyddio ein gwefan, yn defnyddio ein gwasanaethau neu’n cysylltu â ni. Efallai y byddwn hefyd yn derbyn eich data personol oddi wrth ein cyflenwyr sy'n darparu gwasanaethau i chi ar ein rhan (er enghraifft pan fyddwch yn rhoi adborth ar ein gwasanaethau, yn archebu tocynnau ar-lein neu'n defnyddio ein wi-fi am ddim). Os byddwch yn archebu unrhyw beth ar-lein ar ran rhywun arall, mae’n rhaid i chi gael caniatâd i ddefnyddio eu gwybodaeth bersonol.

I gael mwy o wybodaeth am y partïon sy’n gallu thannu eich data personol â ni, gweler adran 7 isod.

Categorïau o ddata a gasglwn

Gallwn gasglu a phrosesu’r categorïau canlynol o wybodaeth amdanoch chi:

Data

 

Eich enw a chyfenw a’ch manylion cyswllt
(cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a chyfeiriad post)

Pan fyddwch yn prynu aelodaeth

Pan fyddwch yn tanysgrifio i’n cylchlythyrau ar ein gwefan

Pan fyddwch yn dewis defnyddio ein gwasanaethau wi-fi am ddim yn ein canolfannau sy'n berthnasol

Pan fyddwch yn archebu/prynu ar-lein

Pan fyddwch yn cymryd rhan mewn cystadlaethau, neu pan fyddwch yn dewis cynnig sydd ar gael ar ein gwefan

Gwybodaeth am eich archebion gan gynnwys y dyddiad, amser ac (os yw'n berthnasol) enw'r eich dosbarth/cwrs

Pan fyddwch yn archebu

Gwybodaeth am eich iechyd, os oes gennych gyflwr meddygol y mae angen i ni wybod amdano er mwyn darparu eich cyfundrefn ffitrwydd (gweler adran "Data personol sensitif" isod i gael mwy o wybodaeth)

Pan fyddwch yn rhoi’r wybodaeth hon i ni

Gwybodaeth am bobl eraill yn eich archeb, ac ystod oedran unrhyw blant sydd wedi’u cynnwys (e.e. gwersi nofio).

Pan fyddwch yn archebu ar ran pobl eraill gan gynnwys plant

Gwybodaeth am eich trafodiad, gan gynnwys manylion eich cerdyn talu a/neu fanylion banc ar gyfer trafodion debyd uniongyrchol

Pan fyddwch yn prynu cynnyrch neu wasanaethau gennym gan ddefnyddio cardiau talu neu ddebyd uniongyrchol

Y cyfathrebu byddwch yn ei gyfnewid â ni (er enghraifft, eich negeseuon e-bost, llythyrau, galwadau neu’ch negeseuon ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol)

Pan fyddwch yn cysylltu â Freedom Leisure neu pan fydd Freedom Leisure yn cysylltu â chi

Eich negeseuon cyhoeddus a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol wedi’u cyfeirio at Freedom Leisure neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol unrhyw un o’n canolfannau

Pan fyddwch yn rhyngweithio â ni ar gyfryngau cymdeithasol

Eich adborth

Pan fyddwch yn ymateb i'n ceisiadau am adborth neu’n cymryd rhan yn ein harolygon cwsmeriaid

Eich canolfannau o ddewis

Pan fyddwch yn dewis darparu'r wybodaeth hon wrth greu cyfrif ar ein gwefan

Gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein gwefan, fel eich chwiliadau am ganolfannau, cipiau ar dudalennau ac ati.

Pryd fyddwch yn mynd ar ein gwefan

Gwybodaeth sy'n ymwneud â’ch aelodaeth Freedom Leisure

Pan fyddwch yn cael, yn adnewyddu neu’n canslo eich aelodaeth Freedom Leisure

Data personol sensitif

Wrth ddarparu gwasanaethau i chi, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth a allai ddatgelu eich tarddiad hiliol neu ethnig, iechyd corfforol neu feddyliol, credoau crefyddol neu gyflawniad honedig neu euogfarn am dramgwyddau troseddol. Ystyrir gwybodaeth o'r fath yn "data personol sensitif" o dan Ddeddf Diogelu Data DU 1998 ac deddfau diogelu data eraill. Byddwn yn casglu’r wybodaeth hon pan fyddwch wedi rhoi eich caniatâd penodol yn unig, pan mae'n angenrheidiol, neu pan rydych wedi’i gwneud yn gyhoeddus yn fwriadol.

Er enghraifft, efallai y byddwn yn casglu'r wybodaeth hon dan yr amgylchiadau canlynol:

Er eich diogelwch, pan fydd gennych gyflwr meddygol penodol, bydd angen i chi roi gwybod i ni am hynny a – lle bo angen – darparu tystysgrif feddygol i ni.

Trwy ddarparu unrhyw ddata personol sensitif benodol rydych yn cytuno yn benodol y gallwn ei gasglu a’i ddefnyddio er mwyn darparu ein gwasanaethau ac yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn.

Os na fyddwch yn caniatáu i ni brosesu unrhyw ddata personol sensitif, gall hyn olygu na allwn ddarparu’r holl wasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt oddi wrthym ni, neu ran o’r gwasanaethau hyn. Byddwch yn ymwybodol, mewn amgylchiadau o'r fath, ni fydd gennych hawl i ganslo neu gael ad-daliad ar unrhyw beth rydych wedi’i brynu.

3. Sut a pham rydym yn defnyddio eich data personol

Rydym yn defnyddio eich data personol at y dibenion canlynol:

  • I reoli eich archebion a darparu ein gwasanaethau i chi
    Pan ydych yn gwsmer i ni, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gyflawni ein gwasanaethau mewn perthynas â’r hyn rydych wedi’i brynu, er enghraifft, i gyhoeddi eich tocynnau, cofrestru eich archeb, cyhoeddi eich cardiau aelodaeth a derbyn yr hyn rydych wedi’i brynu. Byddwn hefyd yn ei defnyddio i newid eich archebion os byddwch yn gofyn am newidiadau o'r fath. Yn ogystal, efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau ein canolfannau, fel ein caffis.

  • I gyfathrebu â chi a rheoli ein perthynas â chi
    O bryd i'w gilydd efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi trwy e-bost a/neu negeseuon testun am resymau gweinyddol neu weithredol, er enghraifft er mwyn anfon cadarnhad o’ch archebion a’ch taliadau, i roi gwybod i chi am eich archeb ac i roi gwybod i chi am amhariadau a newidiadau i’r cynhyrchion a gwasanaethau rydych wedi’u prynu.

Byddwch yn ymwybodol nid yw’r cyfathrebu hwn yn cael ei wneud at ddibenion marchnata ac, fel y cyfryw, byddwch yn parhau i'w derbyn hyd yn oed os ydych yn optio allan o dderbyn cyfathrebu marchnata.

Byddwn hefyd yn defnyddio’ch data personol os byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i chi anfon cais atom, llenwi ffurflen-we trwy ein gwefan neu gysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae eich barn yn bwysig iawn i ni, fel efallai y byddwch yn anfon neges e-bost neu neges destun atoch i geisio eich adborth. Byddwn yn defnyddio’r holl gyfathrebu byddwch yn ei gyfnewid â ni a'r adborth y gallech ei ddarparu er mwyn rheoli ein perthynas â chi fel ein cwsmer a gwella ein gwasanaethau a phrofiadau i gwsmeriaid.

  • I bersonoli a gwella eich profiad fel cwsmer
    Efallai y byddwn yn defnyddio eich data personol er mwyn teilwra ein gwasanaethau i’ch anghenion a'ch dewisiadau a darparu profiad cwsmer personol i chi. Er enghraifft, os byddwch yn rhoi gwybod i ni am eich hoff ganolfan/ganolfannau byddwn yn gallu anfon cynigion sy’n berthnasol i’ch lleoliad.
    Efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein gwefan, pa dudalennau o’n gwefan rydych yn ymweld â nhw mwyaf aml, pa ganolfannau rydych yn chwilio amdanynt ac ar ba dudalennau rydych yn edrych, er mwyn deall beth rydych yn ei hoffi. Efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i deilwra’r cynnwys a chynigion a welwch ar ein gwefan ac, os ydych wedi dewis eich ‘hoff’ wybodaeth ac wedi cytuno i dderbyn cyfathrebu marchnata byddwn yn anfon negeseuon perthnasol atoch y credwn y byddwch yn eu hoffi.

  • I roi gwybod i chi am ein newyddion a chynigion y gallech eu hoffi
    Byddwn yn anfon atoch cyfathrebu marchnata atoch, os ydych wedi nodi eich bod yn hapus i dderbyn hyn, er enghraifft pan fyddwch yn creu cyfrif ar ein gwefan neu’n archebu neu’n prynu rhywbeth gennym ac ni fyddwch yn mynegi dymuniad i beidio â derbyn cyfathrebu o'r fath. Gallwch hefyd ofyn i ni anfon cyfathrebu marchnata atoch trwy reoli eich dewisiadau yn eich cyfrif.
    Os ydych yn hapus i dderbyn cyfathrebu marchnata, byddwn yn darparu ein newyddion i chi fel dosbarthiadau newydd a chynnyrch a gwasanaethau y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt neu gynigion y gallech eu hoffi.

Hefyd, os ydych yn hapus i dderbyn cyfathrebu marchnata, efallai yr anfonwn cyfathrebu atoch sy’n hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau ein partneriaid cynhyrchion a gwasanaethau a allai fod yn gysylltiedig â naill ai’r cynnyrch a gwasanaethau rydych yn talu amdanynt ynteu’n gysylltiedig â defnyddio ein canolfannau hamdden. Gall y cynnyrch hyn gynnwys: cyrsiau a dosbarthiadau y mae sefydliad trydydd parti yn eu gweithredu neu wybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir yn ein canolfannau ar ran llogwyr trydydd parti. Sylwer nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac mae’n destun i newid.

Dylech nodi ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt a data personol arall â chwmnïau eraill at ddibenion marchnata, oni bai ein bod cael eich caniatâd i wneud hynny.

Os nad ydych eisiau derbyn cyfathrebu marchnata oddi wrthym, gallwch ddweud hynny wrthym yn syml trwy BEIDIO â chlicio ar y blwch perthnasol cyn cyflwyno eich manylion. Gallwch hefyd ddewis optio allan o dderbyn cyfathrebu marchnata ar unrhyw adeg, trwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio berthnasol ar waelod unrhyw neges e-bost sy'n gysylltiedig â marchnata y gallech ei derbyn oddi wrthym neu drwy anfon neges e-bost i data.protection@freedom-leisure.co.uk.

Gallwch reoli eich dewisiadau marchnata yn hawdd trwy glicio ar yr adran "Dewisiadau" yng nghorff ein cylchlythyrau e-bost. Os oes yn well gennych, gallwch hefyd ffonio ein tîm Gwasanaeth i Gwsmeriaid a mynegi eich dewis i beidio â derbyn cyfathrebu marchnata (Rhif ffôn 01825 880260) neu anfon neges e-bost i data.protection@freedom-leisure.co.uk â’ch enw, cyfeiriad e-bost (os yw'n wahanol i’r un rydych yn ei ddefnyddio) a’r llinell pwnc "Dad-danysgrifio".

  • I wella ein gwasanaethau, cyflawni ein dibenion gweinyddol a diogelu ein buddiannau busnes
    Ymhlith y dibenion busnes byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ar eu cyfer mae cyfrifo, bilio ac archwilio, dilysu cardiau credyd neu gardiau talu eraill, sgrinio twyll, diogelwch a dibenion cyfreithiol, ystadegol a dadansoddol marchnata, profi systemau, cynnal a chadw a datblygu.
    I gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, er enghraifft, ein rhwymedigaeth i ddarparu gwybodaeth i'r heddlu (pan ofynnir i ni wneud hynny.)

4. Gofyn am fynediad at eich data personol

Mae gennych hawl i ofyn am gael gweld y data personol sydd gennym amdanoch chi. Gallai hyn gynnwys eich gwybodaeth aelodaeth sy'n ymwneud â chynnyrch a gwasanaethau sydd gennych â ni.

Os oes gennych gwestiynau mewn perthynas â'ch data personol, cysylltwch â ni: data.protection@freedom-leisure.co.uk.

5. Diogelwch eich data personol

Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau technegol a sefydliadol priodol i ddiogelu eich data personol yn erbyn prosesu anawdurdodedig neu anghyfreithlon ac yn erbyn niwed, dinistr neu golled ddamweiniol i data personol. Pan fyddwch yn darparu eich data personol trwy ein gwefan, caiff y wybodaeth hon ei throsglwyddo ar draws y rhyngrwyd yn ddiogel gan ddefnyddio amgryptio gradd uchel.

Fel y disgrifir yn y Polisi Preifatrwydd hwn, mewn rhai achosion gallwn ddatgelu eich data personol i drydydd partïon. Pan fydd Wealden Leisure Cyfyngedig yn masnachu fel Freedom Leisure yn datgelu eich data personol i drydydd parti, mynnwn fod y trydydd parti yn meddu ar fesurau technegol a sefydliadol priodol i ddiogelu eich data personol; fodd bynnag mewn rhai achosion efallai y bydd yn rhaid i ni ddatgelu eich data personol i drydydd parti dan y gyfraith a bydd gennym reolaeth gyfyngedig dros sut y bydd y parti hwnnw’n ei ddiogelu.

Caiff y wybodaeth a rowch i ni ei chadw yn ein systemau, sydd wedi eu lleoli ar ein safle ni neu safle trydydd parti penodedig. Efallai y byddwn hefyd yn caniatáu mynediad at eich gwybodaeth i drydydd partïon eraill sy'n gweithredu i ni at y dibenion a ddisgrifir yn y Polisi Preifatrwydd hwn neu at ddibenion eraill rydych wedi’u cymeradwyo. Byddwn yn cadw eich data personol am gyfnod mor hir ag y byddwn ei angen er mwyn cyflawni ein dibenion a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn neu er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith.

6. Briwsion neu dechnolegau olrhain eraill

Er mwyn gwella ein gwasanaethau, darparu cynnwys mwy perthnasol i chi a dadansoddi sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan, efallai y byddwn yn defnyddio technolegau, fel meddalwedd olrhain,  picseli neu friwsion. Dylech fod yn ymwybodol yn y rhan fwyaf o achosion ni fyddwn yn gallu eich adnabod o'r wybodaeth a gasglwn gan ddefnyddio'r technolegau hyn.

Er enghraifft, byddwn yn defnyddio meddalwedd i fonitro patrymau traffig cwsmeriaid a defnydd o'r wefan i'n helpu i ddatblygu dyluniad a chynllun y wefan er mwyn gwella profiad yr ymwelwyr i’n gwefan. Nid yw’r meddalwedd hwn yn ein galluogi i gasglu unrhyw ddata personol. Yn ogystal, er mwyn deall sut y mae ein cwsmeriaid yn rhyngweithio â’r negeseuon e-bost a chynnwys byddwn yn ei anfon, defnyddiwn ddadansoddeg sy'n caniatáu i ni wybod a yw’r negeseuon e-bost byddwn yn eu hanfon yn cael eu hagor neu a yw cynnwys ein negeseuon e-bost yn cael ei arddangos ar ffurf testun neu html.

Rydym hefyd yn defnyddio briwsion ar ein gwefan. Darnau bach o wybodaeth yw briwsion sy'n cael ei storio gan eich porwr ar yriant caled eich cyfrifiadur. Maent yn eich galluogi i lywio ein gwefan ac yn ein galluogi i wneud gwelliannau i brofiad ar-lein ein cwsmeriaid. Gallwch ddileu briwsion os dymunwch; er bod rhai briwsion yn angenrheidiol ar gyfer gweld a llywio ein gwefan, bydd y rhan fwyaf o nodweddion yn dal i fod yn hygyrch heb friwsion.

I gael mwy o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio briwsion a sut y gallwch gael gwared arnynt, darllenwch ein Polisi Briwsion.

7. Rhannu eich data personol

Efallai y caiff eich data personol ei rannu â chanolfannau eraill yn ein Grŵp. Hefyd efallai y caiff ei ddatgelu i drydydd parti sy'n ein caffael ni, canolfan(nau) yn ein Grŵp neu ein holl asedau yn sylweddol.

Gallwn hefyd rannu rhywfaint o'ch data personol â thrydydd partïon eraill fel yr amlinellir isod, neu cael eich data personol ganddynt:

  • Awdurdod lleol neu bartneriaid eraill sy’n gleientiaid er mwyn cynnal eich aelodaeth.
    Bydd angen i ni gysylltu â chi i roi gwybod i chi am newid darparwr rheoli, a’r wybodaeth casglu debyd uniongyrchol newydd os yw’n berthnasol, pan fydd rheolaeth cyfleusterau darparu gleient yn cael ei throsglwyddo i ni.

  • Mae cyflenwyr yn darparu gwasanaethau i ni er mwyn ein helpu i redeg ein busnes a gwella ein gwasanaethau a phrofiad ein cwsmeriaid
    Er enghraifft, efallai y byddwn yn rhannu eich data personol â’r cwmnïau sy'n darparu gwasanaethau i ni yn ein canolfannau rydym yn eu gweithredu. Gallwn hefyd ddatgelu eich gwybodaeth i’r cwmnïau sy'n ein helpu i gael eich adborth ar ein gwasanaethau. Yn Wealden Leisure Cyfyngedig yn masnachu fel Freedom Leisure, byddwn yn dewis ein cyflenwyr sy'n prosesu eich data personol ar ein rhan yn ofalus iawn, ac yn ei gwneud yn ofynnol eu bod yn cydymffurfio â safonau diogelwch uchel er mwyn diogelu eich data personol.

  • Cwmnïau cardiau credyd a debyd
    Mae Wealden Leisure Cyfyngedig yn masnachu fel Freedom Leisure yn rhannu rhywfaint o'ch data personol, sy'n cynnwys gwybodaeth am eich dull talu a’ch archeb, â’r cwmni cerdyn credyd neu ddebyd a gyhoeddodd y cerdyn y gwnaethoch ei ddefnyddio i wneud eich archeb. Er mwyn sicrhau diogelwch eich trafodion ac atal neu ganfod trafodion twyllodrus, efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth â’n partneriaid sgrinio twyll.

  • Ein partneriaid sy'n cynnig cynnyrch a gwasanaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd a ffitrwydd ar ein gwefan, yn hyrwyddo cynigion neu’n cyd-drefnu digwyddiadau a chystadlaethau ar ein gwefan
    O bryd i'w gilydd, byddwn yn gwneud rhai cynigion trydydd parti ar gael trwy ein gwefan neu byddwn yn cyhoeddi cystadlaethau a drefnwyd ar y cyd gan drydydd partïon. Os byddwch yn dewis prynu cynnig neu wasanaethau sydd ar gynnig ar ein gwefannau gan drydydd partïon, yn derbyn cynigion neu’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth, efallai y bydd rhywfaint o’ch data personol, fel eich manylion cyswllt, yn cael ei gasglu’n uniongyrchol gan y trydydd parti hwnnw neu ei ddatgelu iddo.

Mae gan ein partneriaid eu polisïau preifatrwydd a thelerau defnydd eu hunain nid oes gan Wealden Leisure Cyfyngedig yn masnachu fel Freedom Leisure unrhyw reolaeth drostynt. Er bod Wealden Leisure Cyfyngedig yn masnachu fel Freedom Leisure yn dewis y partneriaid hyn yn ofalus, nid oes ganddynt unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd dros eu polisïau preifatrwydd, telerau defnydd neu'r ffordd y maent yn prosesu eich data personol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn adolygu polisïau preifatrwydd a thelerau defnydd perthnasol y partneriaid hyn cyn prynu eu cynnyrch neu wasanaethau, gan ddefnyddio eu gwefannau, apiau neu wasanaethau neu ddarparu unrhyw ddata personol iddynt.

Yn ogystal, efallai y byddwn yn datgelu eich data personol pan fydd hyn yn ofynnol gan gyfraith unrhyw awdurdodaeth y mae Wealdon Leisure Cyfyngedig yn masnachu fel Freedom Leisure yn destun iddi.

Trwy ein gwefan rydym yn darparu dolenni i wefannau trydydd parti sy'n destun i Bolisïau Preifatrwydd ar wahân. Byddwch yn ymwybodol nid yw'r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefannau o’r fath ac nid yw Wealden Leisure Cyfyngedig yn masnachu fel Freedom Leisure yn gyfrifol am eich gwybodaeth y gallai trydydd partïon ei chasglu trwy'r gwefannau hyn.

8. Diweddariadau i’n Polisi Preifatrwydd

Gallwn wneud newidiadau i'r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd, gan gynnwys fel rhan o ddeddfwriaeth diogelu data Ewropeaidd newydd a fydd yn berthnasol ar 25 Mai 2018 (y "Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol") - byddwn yn diweddaru'r Polisi Preifatrwydd a byddwn yn cyhoeddi unrhyw fersiwn newydd o’r Polisi hwn ar ein gwefan.

9. Gwybodaeth cyswllt

Rydym yn croesawu cwestiynau, sylwadau a cheisiadau ynghylch y polisi preifatrwydd hwn a dylid eu hanfon i data.protection@freedom-leisure.co.uk.

Ar gyfer ein Gweithwyr

Fel eich cyflogwr, mae angen i Wealden Leisure Cyf yn masnachu fel Freedom Leisure gadw a phrosesu gwybodaeth amdanoch chi at ddibenion cyflogaeth arferol.  Bydd y wybodaeth sydd gennym amdanoch, a byddwn yn ei phrosesu, yn cael ei defnyddio at ddefnydd rheoli a gweinyddu yn unig.

Byddwn yn ei chadw ac yn ei defnyddio i'n galluogi i redeg y busnes a rheoli ein perthynas â chi’n effeithiol, yn gyfreithlon ac yn briodol, yn ystod y broses recriwtio, pan fyddwch yn gweithio i ni, ar yr adeg pan ddaw eich cyflogaeth i ben ac ar ôl i chi adael. 

Mae hyn yn cynnwys defnyddio gwybodaeth i'n galluogi i gydymffurfio â’r contract cyflogaeth, cydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol, mynd ar drywydd buddiannau cyfreithlon y cwmni ac amddiffyn ein sefyllfa gyfreithiol os bydd achos cyfreithiol.

Os na fyddwch yn darparu'r data hwn, efallai mewn rhai amgylchiadau ni fyddwn yn gallu cydymffurfio â’n rhwymedigaethau a byddwn yn rhoi gwybod i chi am oblygiadau'r penderfyniad hwnnw. 

Ni fyddwn yn datgelu gwybodaeth amdanoch chi i drydydd partïon oni bai bod gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny neu lle y mae angen i gydymffurfio â’n dyletswyddau cytundebol i chi, er enghraifft efallai y bydd angen i drosglwyddo gwybodaeth benodol i’n darparwr pensiwn neu yswiriant iechyd.