Mae Freedom Leisure, yr ymddiriedolaeth hamdden elusennol a dielw flaenllaw sy'n rheoli 29 o ganolfannau hamdden ledled Cymru, wedi ennill Gwobr Menter Cynaliadwyedd Nofio Cymru - mewn seremoni wobrwyo ddisglair a gynhaliwyd yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Mae'r gwobrau arobryn yma, a drefnir gan Nofio Cymru, sef y Corff Llywodraethu Cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer campau dŵr yng Nghymru, yn cydnabod ac yn dathlu ysbryd anhygoel y campau hyn trwy gydnabod unigolion, grwpiau a sefydliadau am eu hangerdd, eu hymroddiad a'u cyflawniadau rhagorol.
Mae Freedom Leisure yn rheoli'r canolfannau hamdden ar ran y cynghorau ym Mhowys, Wrecsam ac Abertawe ac mae ganddo dros 12,000 o nofwyr ar ei raglen Dysgu Nofio Cymru, gyda thîm medrus iawn o hyfforddwyr nofio yn addysgu plant ac oedolion yn 'sgil bywyd' nofio.
Roedd y wobr fawreddog am y 'Fenter Gynaliadwyedd' yn canolbwyntio ar ymrwymiad Freedom Leisure i ddiogelu'r amgylchedd gydag ystod o fesurau arloesol i leihau'r defnydd o ynni gan arwain at arbediad enfawr mewn defnydd ynni sy'n cyfateb i redeg canolfan hamdden maint canolig gyda phwll nofio am 4 blynedd. Gan leihau allyriadau carbon 395 tunnell (sy'n cyfateb i yrru car o amgylch cylchedd y ddaear 58 gwaith) yn sgil hynny!
Mae'r ymddiriedolaeth hamdden wedi cyflawni'r arbedion hyn yn eu holl ganolfannau hamdden ledled Cymru, gan gynnwys yr atyniadau twristaidd mawr fel Canolfan Hamdden Parc Dŵr yn Abertawe a'r Ganolfan Byd Dŵr yn Wrecsam sy'n derbyn llawer iawn o ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.
Nid ar chwarae bach rydym wedi gallu arbed dros filiwn kWh o drydan ac ychydig llai na miliwn kWh o nwy dros gyfnod o ddeuddeg mis. Rydym wedi ymdrechu i ymgysylltu â phob un cydweithiwr, cwsmer a rhanddeiliad i sicrhau eu bod yn fodlon bod yn rhan o’r ymgyrch, o safbwynt amgylcheddol ond hefyd i sicrhau cynaliadwyedd ein canolfannau hamdden poblogaidd. I bob pwrpas, rydym wedi meithrin diwylliant o ymwybyddiaeth, gan drawsnewid arferion ac ymddygiadau gweithredol i sicrhau defnydd ystyriol o ynni ac adnoddau.
Angela Brown
Rydym wrth ein bodd gallu ennill y 'Wobr Menter Cynaliadwyedd'. Rydym wedi hyrwyddo mentrau arbed ynni effeithiol ar draws ein portffolio o ganolfannau ers nifer o flynyddoedd bellach a hoffem roi'r wobr hon i'r gwaith caled aruthrol gan ein cydweithwyr yng Nghymru ond hefyd ein cwsmeriaid gwerthfawr i'n helpu i wneud yr arbedion trawiadol hyn.
Ivan Horsfall Turner
Ymunodd aelodau eraill o Uwch Dîm Arwain Ivan ag ef yn y seremoni ar 20 Ionawr 2024 yng Nghaerdydd, gan dystiol i angerdd ac ymrwymiad y sefydliad i ddatblygiad campau dŵr yng Nghymru.