Croeso i Cymunedau Iach Abertawe

Rydym yn ystyried ein canolfannau yn Abertawe fel ‘hybiau lles' Gall cymunedau lleol gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau iechyd i'w cefnogi i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd a'u lles eu hunain. Rydym yn darparu rhaglen Cymunedau Iach sy’n rhoi cyfle i bobl o bob oed a gallu symud mwy a bod yn egnïol!

Rydym yn ystyried ein canolfannau yn Abertawe fel 'canolfannau lles'

Rydym yn ystyried ein canolfannau yn Abertawe fel 'canolfannau lles'

Gall cymunedau lleol gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau iechyd i'w cefnogi i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd a'u lles eu hunain. Rydym yn darparu rhaglen Cymunedau Iach sy’n rhoi cyfle i bobl o bob oed a gallu symud mwy a bod yn egnïol!

Rydym wedi ymrwymo i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd

Rydym wedi ymrwymo i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd

Mae ein tîm o arbenigwyr Cymunedau Iach yn dylunio rhaglenni wedi’u teilwra sy’n bodloni anghenion y boblogaeth leol ar draws cwrs bywyd; gan ddileu rhwystrau i gymryd rhan ac ymgysylltu â phawb waeth beth fo'u cefndir, rhyw, oedran, ethnigrwydd, gallu neu statws economaidd-gymdeithasol.

Mae ein gwasanaethau yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn fforddiadwy

Mae ein gwasanaethau yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn fforddiadwy

Credwn mewn:

  • · Cefnogi pobl i fod yn gorfforol actif ym mha bynnag ffordd sy'n addas iddyn nhw
  • · Cefnogi unigolion i atal a rheoli cyflyrau iechyd
  • · Darparu cyfleoedd i gael profiadau cadarnhaol i gefnogi lles meddwl
  • · Atal arwahanrwydd cymdeithasol, gan alluogi cymunedau lleol i ddod at ei gilydd

Cwestiynau Cyffredin