Roedd Wrecsam ar y brig wrth iddi ennill Ardal y Flwyddyn ac, i goroni’r cwbl, gwnaeth y Byd Dŵr greu sblash hefyd ac ennill Canolfan Hamdden Orau Cymru a Gogledd Lloegr.

Mae Freedom Leisure yn ymddiriedolaeth nid-er-elw sy’n gweithredu dros 100 o ganolfannau hamdden a diwylliannol ledled Cymru a Lloegr. Wrth weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam maen nhw’n gweithredu naw canolfan hamdden ar draws Wrecsam gan gynnwys y Byd Dŵr, Gwyn Evans, Y Waun a Stadiwm Queensway.

Gwnaeth cydweithwyr o bob rhan o Wrecsam, a oedd yn cynrychioli’r holl ganolfannau, ymgasglu yn ddiweddar yn y Byd Dŵr i dderbyn y wobr oddi wrth Ivan Horsfall-Turner, Prif Swyddog Gweithredol Freedom Leisure, ac roedden nhw wrth eu boddau hefyd i groesawu Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod arweiniol Cyngor Wrecsam ar gyfer hamdden, i’r digwyddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Parry-Jones: “Mae mynediad at gyfleusterau hamdden modern o ansawdd da yn bwysig i iechyd a lles y gymuned, felly mae’n grêt i ni i allu dweud fod gennym rhai o’r cyfleusterau gorau yn y sir yn y fan hon yn Wrecsam.” 

Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal Freedom Leisure ar gyfer Gogledd Cymru: “Rwyf wrth fy modd fod Wrecsam wedi ennill y wobr hon. Mae cyfleusterau ffantastig gennym ni a chydweithwyr anhygoel sy’n gweithio’n ddiflino bob dydd i wella bywydau drwy hamdden. Edrychwn ymlaen at groesawu hyd yn oed rhagor o’r gymuned yn Wrecsam i’n canolfannau gwobrwyedig dros y dyddiau a’r misoedd nesaf.”

Ers 2016, pan ddechreuodd y bartneriaeth, cafwyd buddsoddiad sylweddol yn yr holl ganolfannau hamdden, gan gynnwys ailwampio gym, gwella mesurau effeithlonrwydd gan gynnwys gosod gorchuddion pyllau nofio a phedwar maes chwarae 3G ychwanegol

Mae bron i 3,000 o blant ar hyd a lled Wrecsam ar raglen wobrwyedig Dysgu Nofio. Maen nhw’n dysgu sgil gydol oes o nofio bob wythnos. Mae dros filiwn o ymweliadau â’r canolfannau bob blwyddyn wrth i’r cwsmeriaid fwynhau amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd, nofio a sesiynau yn y gym gan sicrhau fod y gymuned leol yn Wrecsam yn aros yn actif i wella eu hiechyd corfforol a meddyliol a’u lles.