Mae Freedom Leisure yn rhedeg dros 100 o leoliadau hamdden, diwylliannol ac adloniant ledled y DU a’i nod yw gwella bywydau drwy hamdden, ac mae’n bartner gwerthfawr i Nofio Cymru ers nifer o flynyddoedd. Bydd y cytundeb newydd hwn yn parhau i roi’r lefel uchaf o brofiad dysgu nofio i gymunedau ledled Cymru er mwyn sicrhau dyfodol hapusach ac iachach i’n cenedl.

Fel rhan o'r bartneriaeth amlflwyddyn, bydd Nofio Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ar gyfer yr holl ofynion hyfforddi a datblygu campau dŵr ar gyfer Freedom Leisure yng Nghymru.

Daw’r garreg filltir ddiweddaraf hon yn ein partneriaeth ychydig fisoedd ar ôl lansio YMLAEN:Strategaeth Nofio Cymru ar gyfer Gweithgareddau Dŵr yng Nghymru. Nod y strategaeth tair blynedd newydd yw gyrru gweithgareddau dŵr Cymru ymlaen dros y tair blynedd nesaf, gan gefnogi 500,000 o bobl ledled Cymru sy'n cymryd rhan bob wythnos, a pharatoi'r ffordd i grwpiau newydd ymgysylltu â champau dŵr.

Fel un o’r ymddiriedolaethau hamdden dielw mwyaf blaenllaw sy’n rhedeg 29 o ganolfannau chwaraeon a hamdden ledled Cymru, rydym yn falch iawn o fod yn meithrin partneriaeth agosach gyda’r sefydliad gweithgareddau dŵr mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Rydym yn croesawu dros 800,000 o ymweliadau â’n pyllau nofio bob blwyddyn ac rydym yn falch bod dros 12,000 o gyfranogwyr ar ein Rhaglen Dysgu Nofio lwyddiannus. Mae parhau â’n partneriaeth â Nofio Cymru yn ein galluogi i ddarparu profiad gwych i blant ac oedolion, gan gefnogi eu twf yn hyderus gyda sgil bywyd sy’n arwain at fwynhad, diogelwch a hwyl yn y dŵr, yn enwedig yn ein hardaloedd arfordirol fel Abertawe.

Ivan Horsfall Turner

Prif Weithredwr, Freedom Leisure

Bydd y cytundeb yn cynnwys ystod gynhwysfawr o wasanaethau, gan gynnwys cefnogi cynlluniau twf athrawon nofio Freedom Leisure a sicrhau eu bod yn cynnal gwersi o ansawdd uchel trwy archwiliadau rheolaidd, gan alluogi Freedom Leisure i ddatblygu’r rhaglen Dysgu Nofio ymhellach. Bydd Nofio Cymru hefyd yn cyflenwi’r holl wobrau Dysgu Nofio, gan sicrhau bod cyfranogwyr yn cael cydnabyddiaeth am yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni.

Mae Nofio Cymru, y Corff Llywodraethol Cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer Gweithgareddau Dŵr yng Nghymru, wedi mwynhau perthynas waith gref gyda Freedom Leisure dros nifer o flynyddoedd fel un o ddarparwyr mwyaf profiadol darpariaeth rheolaeth hamdden yn y DU. Mae eu cenhadaeth o wella bywydau drwy hamdden yn cyd-fynd yn ddi-dor â’n gweledigaeth o ‘weithgareddau dŵr i bawb am oes’, ac rydym yn falch o fod yn gweithio mor agos â nhw. Mae'r bartneriaeth hon yn sicrhau bod pobl o bob oedran a gallu yng Nghymru sy'n dysgu nofio yn gwneud hyn trwy brofiad dysgu nofio o'r ansawdd uchaf. Mae ein Strategaeth YMLAEN a lansiwyd yn ddiweddar yn nodi ein dymuniad i greu a chynnal partneriaethau cynaliadwy, parhaol i helpu i adeiladu cymunedau lleol hapusach ac iachach yng Nghymru. Mae Freedom Leisure yn rhannu’r nod hwn, ac rydym wrth ein boddau eu bod wedi dewis parhau i alinio â Nofio Cymru.

Fergus Feeney

Prif Weithredwr Nofio Cymru