Cyfle i adeiladu hyder. Gwella techneg. Teimlo'n wych yn y dŵr.

Cyfle i adeiladu hyder. Gwella techneg. Teimlo'n wych yn y dŵr.

Ydych chi dros 60 oed ac yn edrych i ddechrau nofio, neu eisiau teimlo'n fwy hyderus yn y pwll? Am gyfnod cyfyngedig, mae Freedom Leisure yn cynnig 4 gwers nofio i oedolion AM DDIM ar draws ein safleoedd yn Wrecsam:  Byd Dŵr, Gwyn Evans, a'r Waun.

P'un a ydych chi'n ddechreuwr llwyr neu eisiau mireinio eich techneg, bydd ein hathrawon cwbl gymwys yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd.

Beth sydd wedi'i gynnwys?

Beth sydd wedi'i gynnwys?

  • 4 wythnos o wersi nofio am ddim

Dan arweiniad ein hyfforddwyr arbenigol sy'n dilyn fframwaith dibynadwy Nofio Cymru, gan sicrhau cynnydd diogel, proffesiynol, sy'n rhoi hwb i hyder ym mhob sesiwn.

  • Nofio Achlysurol Am Ddim Diderfyn am 4 Wythnos

Gallwch fwynhau mynediad am ddim i'r holl sesiynau nofio cyhoeddus ar draws Byd Dŵr, Gwyn Evans, a'r Waun, fel y gallwch ymarfer rhwng gwersi ar eich cyflymder eich hun.

  • Ar gyfer pob lefel o hyder

Nerfus am fynd yn y dŵr?
Heb nofio ers blynyddoedd?
Eisiau gwella eich techneg?

Bydd ein tîm yn teilwra'r gwersi i'ch anghenion.

  • Ansawdd o’r Radd Flaenaf

Yn ddiweddar, cafodd Freedom Leisure ei goroni'n Ddarparwr Nofio y Flwyddyn Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol, eich gwarant o addysgu rhagorol ac amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.

Cofrestrwch heddiw!

Cofrestrwch heddiw!

Bydd y cynnig yn dod i ben 31 Mawrth

Mae lleoedd yn hynod gyfyngedig, ac unwaith y byddant wedi mynd, byddant wedi mynd.

Gwnewch yn siwr o’ch lle am ddim heddiw a dechreuwch eich taith i nofio hyderus a phleserus.

Holwch nawr drwy lenwi'r ffurflen fer isod neu ewch i Ganolfannau Hamdden Byd Dŵr, Gwyn Evans,  y Waun.

1
2
3
4
5

I ddechrau, rhowch eich lleoliad