Am gyfnod cyfyngedig, gallwch afael mewn aelodaeth mis Mehefin am HANNER PRIS – ie, go iawn. Felly os ydych chi wedi bod yn meddwl am fod yn heini, dyma’r arwydd i chi wneud hynny.

Pam neidio i mewn nawr?

  • 50% yn rhatach ym mis Mehefin – gwerth am arian na allwch ei guro
  • Dim ymrwymiad hir dymor
  • Dewch i symud cyn iddi wirioneddol gynhesu dros yr haf
  • Hybwch eich hwyliau, egni a ffitrwydd

Boed yn cychwyn arni o’r newydd neu’n dod yn ôl ati, dyma gynnig sy’n hwyluso pethau i chi. Llai o sgrolio, mwy o wneud rhywbeth. .

Cofrestrwch heddiw gan ddefnyddio'r cod disgownt HALFPRICE a dewch yn ôl ato ym mis Mehefin

Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol, gweler isod am ragor o fanylion.

This promotion is currently not live

Mae ein canolfannau ar gyfer pawb

Pam ddewis Canolfan Freedom Leisure?

Yng Nghanolfannau Freedom Leisure, rydym yn credu mewn darparu profiad ffitrwydd holl gynhwysol sy’n darparu ar gyfer eich holl anghenion.  P’un a ydych yn newydd i ymarfer corff neu’n rhywun profiadol sy’n frwd dros ffitrwydd, mae gennym rywbeth ar gyfer pawb!

Telerau ac Amodau yn berthnasol

  • Cynnig yn ddilys gydag aelodaeth newydd a brynir rhwng 1 Mehefin 2026 ac 19 Mehefin 2026.
  • Mae’r hyrwyddo yn gymwys i gategorïau aelodaeth dethol yn unig ac yn amodol ar argaeledd.
  • Bydd aelodaeth cymwys yn derbyn 50% oddi ar ffioedd aelodaeth (gan gynnwys Ffi Ymuno a thaliad gweddill y mis) ar gyfer mis Mehefin 2026 yn unig.
  • Bydd prisiau aelodaeth arferol yn gymwys o 1 Gorffennaf 2026 ymlaen gyda Debyd Uniongyrchol.
  • Cynnig ar gael i aelodau newydd dros 18 oed yn unig ac ni ellir ei ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw gyfradd hyrwyddo neu ostyngiad arall.
  • Efallai bydd angen profi cymhwysedd ac adnabyddiaeth wrth gofrestru.
  • Mae’r holl aelodaeth yn amodol ar delerau ac amodau aelodaeth safonol Freedom Leisure.
  • Mae angen cyfrif banc dilys ar gyfer aelodaeth Debyd Uniongyrchol, a mandad Debyd Uniongyrchol wedi ei gwblhau.
  • Rhaid rhoi o leiaf 31 dydd o rybudd i ganslo unrhyw aelodaeth.
  • Deil Freedom Leisure ar yr hawl i ddiwygio neu dynnu’r hyrwyddo yn ôl ar unrhyw adeg heb rybudd ymlaen llaw.
  • Ni chaiff unrhyw ddewis amgen arall o ran arian parod neu ostyngiad ôl-weithredol eu cynnig.
  • Gall cyfleusterau, dosbarthiadau ac amseroedd agor amrywio yn ôl lleoliad.
  • Ynghyd â’r Telerau ac Amodau hyn, fe’ch cynghorir i wirio gyda’ch canolfan hamdden leol am unrhyw gyfyngiadau eraill cyn prynu.

Talu llai am nofio

Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.

Talu llai am ymarfer corff

Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.

Talu llai i ymuno â dosbarthiadau

Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.

Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored

Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.

Pam dewis Freedom Leisure

Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!

Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni

Beth sy’n gynwysedig mewn aelodaeth Freedom Leisure?

Rydyn ni’n cynllunio ein haelodaeth o gwmpas y cymunedau a wasanaethwn felly gallwch ddisgwyl amrywiaeth eang o becynnau aelodaeth unigryw sy’n bwrpasol i bob canolfan. Dyma flas o’r hyn sy’n cael ei gynnig:

  • Aelodaeth Ddiderfyn – mynediad at nifer o ganolfannau Freedom Leisure yn eich ardal
  • Aelodaeth i’r Teulu – cadwch yn actif gyda’r teulu!
  • Aelodaeth Hŷn – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer pobl hŷn
  • Aelodaeth i Fyfyrwyr – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer myfyrwyr mewn addysg lawn amser
  • Aelodaeth Gorfforaethol – cyfraddau wedi’u disgowntio ar gyfer ein partneriaid corfforaethol, gan gynnwys pob gweithiwr allweddol a gweithwyr argyfwng

Sut i gael gostyngiad i aelodaeth gym

Mae hyn yn ddigon hawdd! Cwblhewch y ffurflen uchod neu gysylltu â’ch canolfan leol heddiw.. 

Mae pob cynnig yn amodol ar yr hyn sydd ar gael yn lleol.

Cwestiynau Cyffredin

Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?

Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!