Beth sydd ar gael yn Llandeilo Ferwallt?
Parti castell gwynt
Y parti pen-blwydd gorau erioed, yn bownsio gyda’ch ffrindiau ar y sleid awyr a’r castell gwynt.
Cyrsiau chwaraeon
Mae’r cwrs pêl-droed hwyl yn addas ar gyfer plant 3-7 oed ac yn helpu magu hyder, gweithio fel tîm a mwynhau pêl-droed. Er mwyn rhoi’r gefnogaeth orau i bob cyfranogwr, gofynnwn i rieni a gwarcheidwaid ein hysbysu am unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen ar eu plant efallai, cyn archebu lle.
Sesiynau taro heibio
Mae’r sesiynau talu a chwarae, megis pêl-fasged a bowns a chwarae, yn rhoi cyfle i blant roi cynnig ar chwaraeon newydd a gwneud ffrindiau newydd.
Hwyl yn y Gwyliau
Yn ystod gwyliau ysgol, rydym yn rhedeg amrediad o wersylloedd chwaraeon megis tennis, pêl-fasged a rygbi. Er mwyn rhoi’r gefnogaeth orau i bob cyfranogwr, gofynnwn i rieni a gwarcheidwaid ein hysbysu am unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen ar eu plant efallai, cyn archebu lle.
Cynllun Aelodaeth Iau Egnïol
Mae’r cynllun aelodaeth ffitrwydd yn dechrau o 11 oed ac yn helpu ymwreiddio pwysigrwydd bod yn egnïol yn gynnar, ac yn rhoi cyfleoedd i rieni a phlant treulio amser pwysig gyda’i gilydd yn hyfforddi.
Beth allwch ei ddisgwyl
Parcio ar y safle
Gallwch barcio am ddim tra byddwch yn y canolfan
Yn cael ei arwain gan hyfforddwyr
Mae pob un o’n sesiynau taro heibio a’r cyrsiau iau dan ofal hyfforddwr hollol gymwys
Lle i gael hwyl
Mae’r tîm yn gwneud eu gorau glas i sicrhau fod ein holl weithgareddau i Blant yn hwyl
Wyddoch chi?
Dengys ymchwil fod plant anweithgar yn debygol o ddatblygu’n oedolion anweithgar. Dyna pam mae’n bwysig annog gweithgaredd egnïol a chadw’n heini pan fydd plant yn ifanc.
Mae ein cyfleusterau yn hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein canolfan yn darparu'r cyfleusterau gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod mynediad hygyrch i'n mannau agored a'u bod yn lân ac yn ddiogel i'w defnyddio.
Cyfleusterau cysylltiedig eraill sydd ar gael yn ein canolfan
Cyfleusterau newid a Chawodydd
Mae gennym gyfleusterau newid a chawod glân a hygyrch. Mae angen clo clap i gloi ein loceri, os byddwch wedi anghofio eich un chi gallwch brynu un yn y dderbynfa.
Lluniaeth
Mae nifer o beiriannau ar gael sy’n cynnig diodydd cynnes ac oer a byrbrydau, rhag ofn eich bod eisiau bwyd ar ôl eich sesiwn.
Parcio
Parciwch am ddim yn ein canolfan pan fyddwch yn ein defnyddio.
Ydych chi wedi ystyried?
Beth mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud
Tîm gwych - dwi wrth fy modd yn mynd i'r dosbarthiadau - maen nhw'n ei wneud yn gymaint o hwyl. Campfa dda hefyd. Rwyf bob amser yn dweud wrth….
Anonymous
Rwy'n defnyddio'r ganolfan 4 gwaith yr wythnos ar gyfer y gampfa. Cartref o gartref. Staff gwych a chyfleusterau gwych..
Sharon D
Mae'r staff yn gwrtais, yn gyfeillgar ac maent bob amser yn hapus i helpu gydag unrhyw faterion sy'n codi. Awyrgylch campfa gwych a mwynhewch….
Mary B.
Tîm ardderchog. Cyfeillgar iawn. Gwybodus iawn. Clod i Freedom Leisure..
Tom P
Cwestiynau Cyffredin
Oes, byddem wastad yn argymell archebu unrhyw weithgaredd ymlaen llaw; gallwch archebu ymlaen llaw ar-lein fan hyn neu drwy ffonio 01792 235040.
Na. Rydym yn cynghori eich bod yn pacio cinio i'ch plentyn ddod ag ychydig o newid rhag ofn y bydd am gael lluniaeth o'n siop goffi.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!