Y lle perffaith i fod yn actif ac yn iach
Aelodaeth
Ni yw’r gymuned egnïol fwyaf yn Abertawe ac mae ein cynigion aelodaeth sydd ar agor i bawb, sy’n ymestyn ar draws y ddinas, yn cynnig gwerth rhagorol wrth ichi aros yn iach a chyrraedd eich nodau yn Abertawe.
Cydweithwyr cyfeillgar
Mae’r hyfforddwyr ffitrwydd cymwys ar gael i’ch tywys trwy’r cyfarpar a’ch helpu gwireddu eich nodau a dyheadau.
Talu a chwarae
Yn wahanol i rai canolfannau, nid oes rhaid ichi fod yn aelod er mwyn defnyddio ein cyfleusterau ffitrwydd, a gallwch dalu a chwarae. Fodd bynnag, os byddwch yn defnyddio’r canolfan fwy nag unwaith yr wythnos, hwyrach y bydd ymaelodi’n fwy cost effeithiol ichi yn y pen draw.
NERS – atgyfeiriadau iechyd
Diben y cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yw helpu oedolion anweithgar mewn perygl o iechyd gwael neu sydd â chyflwr oedd yn bod cynt i fod yn fwy egnïol, ac mae’n caniatáu gweithwyr iechyd proffesiynol i atgyfeirio cleifion at ganolfan Llandeilo Ferwallt ar gyfer rhaglen o weithgaredd corfforol dan oruchwyliaeth.
Aelodau Iau Egnïol
Rydym yn annog unigolion i ddefnyddio’r gampfa o 11 oed ymlaen er mwyn ymwreiddio pwysigrwydd cadw’n ffit ac yn iach yn gynnar.
Oedolion hŷn egnïol
Gall gweithgaredd ac ymarfer corfforol eich helpu i aros yn iach, yn llawn egni ac yn annibynnol wrth ichi heneiddio, ac rydym yn cynnig ystod o sesiynau ffitrwydd yn y gampfa i’ch helpu gwneud hynny.
Ap MyWellness
Ap Freedom Leisure yw MyWellness sy’n helpu eich taith i ffitrwydd; mae’n cynnig syniadau ar gyfer sesiynau a rhaglenni hyfforddi i’ch helpu gwireddu eich nodau.
Llwyddiannau
Mae ein tystebau cwsmeriaid yn llawn llwyddiannau gan bobl go iawn sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w hiechyd corfforol a meddyliol.
Offer o'r radd flaenaf
Mae gan ein campfa offer o'r radd flaenaf. Wedi’u gwneud gan TechnoGym sy'n gyflenwyr swyddogol i'r Gemau Olympaidd
Beth sydd ar gael yn Llandeilo Ferwallt?
Ein cydweithwyr cyfeillgar
Bob amser wrth law i'ch croesawu i Ganolfan Hamdden Treforys. Rydym yma i gynnig cyngor ar sut i gael y gorau o'ch ymweliad â'r gampfa.
Cynigion aelodaeth gwych
Os ydych yn ystyried defnyddio’r canolfan fwy nag unwaith yr wythnos, mae gennym gynlluniau aelodaeth hynod gost effeithiol
Campfa eang â chyfarpar da
Mae ein hoffer yn gyfuniad o beiriannau fel melinau traed, traws-hyfforddwyr a dringwyr ochr yn ochr â pheiriannau gwrthsefyll pwysau eraill sydd wedi'u cynllunio…
Adloniant ar flaenau eich bysedd
Gydag offer gyda'u consolau diweddaraf, byddwch yn gallu syrffio'r we, cysylltu â Facebook, neu ddal i fyny ar eich hoff raglenni teledu wrth i chi weithio allan.
Pam ymuno â'r gampfa?
Mae gan y rhan fwyaf o bobl reswm penodol dros ymuno â'r gampfa. Boed hynny i golli pwysau, tynhau neu deimlo'n fwy heini ac iach yn gyffredinol. Mae defnyddio'r gampfa nid yn unig yn rhoi boddhad mawr, mae'n rhoi hwb i'ch lefelau egni ac yn gwella'ch hunan-barch.
Mae ein cyfleusterau’n hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau fod ein canolfan yn cynnig y cyfleusterau ffitrwydd gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod pobman yn hygyrch, yn lân ac yn ddiogel i ddefnyddwyr.
Ein horiau agor
Mae ein campfa ar agor 7 diwrnod yr wythnos
Dydd Llun i Ddydd Gwener |
7.00y.b. - 9.00y.p. |
Penwythnosau a Gwyliau Banc |
9.00y.b. - 3.00y.p. |
Mae ein cyfleusterau yn hygyrch i bawb
Cyfleusterau newid a Chawodydd
Mae gennym gyfleusterau newid a chawodydd glân a hygyrch. Mae ein loceri yn cymryd clo clap, os ydych wedi anghofio eich un chi gallwch brynu ymlaen yn y dderbynfa.
Lluniaeth
Mae nifer o beiriannau ar gael sy’n cynnig diodydd cynnes ac oer a byrbrydau, rhag ofn eich bod eisiau bwyd ar ôl eich sesiwn.
Parcio
Parciwch am ddim yn ein canolfan pan fyddwch yn ein defnyddio.
Sylwadau ein cwsmeriaid presennol
Mae'r staff yn gwrtais, yn gyfeillgar ac maent bob amser yn hapus i helpu gydag unrhyw faterion sy'n codi. Awyrgylch campfa gwych a mwynhewch….
Mary B.
Tîm ardderchog. Cyfeillgar iawn. Gwybodus iawn. Clod i Freedom Leisure..
Tom P
Rwy'n defnyddio'r ganolfan 4 gwaith yr wythnos ar gyfer y gampfa. Cartref o gartref. Staff gwych a chyfleusterau gwych..
Sharon D
Tîm gwych - dwi wrth fy modd yn mynd i'r dosbarthiadau - maen nhw'n ei wneud yn gymaint o hwyl. Campfa dda hefyd. Rwyf bob amser yn dweud wrth….
Anonymous
Cwestiynau Cyffredin
Nid oes rhaid ichi archebu lle yn y gampfa ond gallwch wneud hynny os byddai’n well gennych archebu ymlaen llaw (8 diwrnod) ar-lein fan hyn neu drwy ffonio 01792 235040.
Mae’r gampfa ar agor rhwng 6:15y.b. - 9.00y.p. yn ystod yr wythnos, a rhwng 8.00y.b. - 3.00y.p. ar y penwythnos. Fel arfer ar Wyliau Banc byddwn ar agor rhwng 12.00y.p - 8.00y.p.
Er mwyn defnyddio’r gampfa, mae angen ichi fod yn 11 oed neu hŷn.
Os byddwch yn ymaelodi â ni, mae’r rhaglen gynefino 4 cam yn rhan o’r pecyn; os byddwch yn defnyddio’r gampfa ar sail talu a chwarae, ac rydych yn 17 oed neu iau, mae’n rhaid ichi ddod mewn gyda rhiant neu warcheidwad ar yr ymweliad cyntaf, i gwrdd ag aelod o’r tîm ffitrwydd cyn gallu defnyddio’r gampfa.
Byddem yn argymell dod â photel o ddŵr gyda chi i bob dosbarth ffitrwydd i’ch hydradu. Fel rhan o’n ffocws amgylcheddol, byddem yn gofyn ichi ddod â photel dŵr y gellir ei ail-lenwi oherwydd mae gennym ffynhonnau dŵr yn y canolfan ichi eu defnyddio i lenwi’ch potel. Byddem hefyd yn argymell dod â thywel gyda chi.
Cyn cychwyn, dylech geisio cyngor eich meddyg teulu o safbwynt lefel y gweithgaredd y dylech ei wneud a’r hyn a argymhellir. Ar ddechrau pob dosbarth, gofynnir ichi hysbysu’r hyfforddwr am unrhyw gyflwr sydd gennych.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!