Beth am lawrlwytho’r Ap?
Bwcio gyda’ch ffôn
Gallwch fynd ati i fwcio’ch hoff ddosbarth neu sesiwn badminton o unrhyw le. Mae’n syml iawn i’w ddefnyddio ac mae ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae'n gyflym ac yn hawdd iawn i’w ddefnyddio
Chwiliwch am eich canolfan lleol ar yr Ap i fwcio, i weld amserlenni a newyddion ac i gael mynediad i’ch cyfrif o unrhyw le.
Dim ond unwaith sydd angen i chi fewngofnodi drwy’r Ap
Mae’n gyflym ac yn hawdd dod o hyd i’ch canolfan a mewngofnodi i weld tudalen hafan eich canolfan. Bydd yr Ap yn eich cofio chi felly ni fydd angen i chi fewngofnodi bob tro.
Byddwch byth yn methu’r newyddion diweddaraf
Derbyn hysbysiadau i gadw i fyny â newyddion pwysig a hefyd clywed am unrhyw gynigion a hyrwyddiadau yn gyntaf.
Gwiriwch a yw eich canolfan yn defnyddio ein Ap
Er y gall llawer o’n canolfannau ddefnyddio ein Ap, nid yw pob un ohonynt yn gallu yn anffodus. Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau y gall cynifer o’n canolfannau â phosibl ddefnyddio’r Ap, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’n aml os nad ydych chi’n gallu defnyddio’r Ap eto.