Byddwch yn Egnïol yr Haf Hwn - Aelodaeth 3 Mis Ar Gael Nawr! Ymunwch nawr ac arbed hyd at 20%!
P'un a ydych chi eisiau oeri yn y pwll nofio, ymarfer corff yn y gampfa neu deimlo'n llawn egni mewn dosbarthiadau ymarfer corff grŵp. Perffaith i fyfyrwyr, neu unrhyw un sy'n chwilio am opsiwn ffitrwydd tymor byr. Dim ymrwymiad tymor hir – dim ond 3 mis o hyblygrwydd a chanlyniadau.
Ymunwch heddiw ac arbed hyd at 20%!
Telerau ac Amodau’n gymwys, gweler isod am fanylion
mae ein Aelodaeth Haf 3 Mis yn rhoi mynediad llawn i chi at y canlynol
Campfa
Ein cyfleusterau campfa o'r radd flaenaf gyda chefnogaeth ein hyfforddwyr
Nofio
Pwll nofio adfywiol
Ymarfer corff grŵp
Dosbarthiadau ymarfer corff grŵp hwyliog ac ysgogol
Cymuned
Lle i wella'ch iechyd a'ch lles
Pam ddewis Canolfan Freedom Leisure?
Yng Nghanolfannau Freedom Leisure, rydym yn credu mewn darparu profiad ffitrwydd holl gynhwysol sy’n darparu ar gyfer eich holl anghenion. P’un a ydych yn newydd i ymarfer corff neu’n rhywun profiadol sy’n frwd dros ffitrwydd, mae gennym rywbeth ar gyfer pawb!
Telerau ac Amodau mewn grym
Telerau ac Amodau yn berthnasol
- Bydd y pris a'r cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigir gydag aelodaeth 3 mis yn amrywio yn dibynnu ar eich canolfan hamdden ddewisol.
- Mae pob aelodaeth yn ddarostyngedig i'n telerau ac amodau aelodaeth arferol.
- Ni fydd unrhyw ad-daliadau yn cael eu rhoi os byddwch yn canslo'ch aelodaeth o fewn y cyfnod o 3 mis.
- Dim ond i’r rhai newydd sy’n ymuno y mae'r cynnig hwn ar gael.
- Mae cyfyngiadau a thelerau ac amodau lleol eraill yn berthnasol. Gwiriwch gyda'ch canolfan hamdden leol cyn prynu.
Daw’r cynigion i ben: 31/07/2025
Talu llai am nofio
Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.
Talu llai am ymarfer corff
Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.
Talu llai i ymuno â dosbarthiadau
Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.
Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored
Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.
Pam dewis Freedom Leisure
Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!
Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni
…ac wedi ennill hyder, fel y gwnes i hyd yn oed gymryd rhan yn y ras tough mudder! Rwyf yn gweld yr holl hyfforddwyr yn broffesiynol iawn..
Anonymous
Ers ymuno â Queensway rydw i wastad wedi cael fy ngwneud i deimlo fel rhan o deulu..
Ben C
We organise a wide variety of sporting programmes in partnership with local clubs and sponsor local talent..
Mary A.
We organise a wide variety of sporting programmes in partnership with local clubs and sponsor local talent..
Mary B.
Beth sy’n gynwysedig mewn aelodaeth Freedom Leisure?
Rydyn ni’n cynllunio ein haelodaeth o gwmpas y cymunedau a wasanaethwn felly gallwch ddisgwyl amrywiaeth eang o becynnau aelodaeth unigryw sy’n bwrpasol i bob canolfan. Dyma flas o’r hyn sy’n cael ei gynnig:
- Aelodaeth Ddiderfyn – mynediad at nifer o ganolfannau Freedom Leisure yn eich ardal
- Aelodaeth i’r Teulu – cadwch yn actif gyda’r teulu!
- Aelodaeth Hŷn – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer pobl hŷn
- Aelodaeth i Fyfyrwyr – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer myfyrwyr mewn addysg lawn amser
- Aelodaeth Gorfforaethol – cyfraddau wedi’u disgowntio ar gyfer ein partneriaid corfforaethol, gan gynnwys pob gweithiwr allweddol a gweithwyr argyfwng
Sut i gael gostyngiad i aelodaeth gym
Mae hyn yn ddigon hawdd! Cwblhewch y ffurflen uchod neu gysylltu â’ch canolfan leol heddiw..
Mae pob cynnig yn amodol ar yr hyn sydd ar gael yn lleol.
Cwestiynau Cyffredin
Mae 100 safle gan Freedom Leisure ledled Cymru, Canolbarth a De Lloegr, felly dydych chi fyth yn bell i ffwrdd oddi wrth un o’n canolfannau. Ewch i dudalen dod o hyd i ganolfan ar ein gwefan, yna nodwch eich tref, dinas neu god post i weld yr holl ganolfannau lleol yn eich ardal.
Os wnaethoch golli allan ar gynigion gym y Flwyddyn Newydd, does dim angen digaloni! Gallwch barhau i fanteisio ar rai o’r pecynnau aelodaeth grêt sydd ar gael. Cysylltwch â’ch canolfan Freedom Leisure leol am fanylion a chofiwch edrych allan am bob disgownt a hyrwyddiad ar ein gwefan.
Mae llawer o ganolfannau Freedom Leisure yn cynnig pecynnau ffantastig Aelodaeth i Fyfyrwyr sy’n cynnwys cyfraddau wedi’u disgowntio ar amrywiaeth eang o gyfleusterau. Cysylltwch â’ch canolfan leol i ddarganfod rhagor.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!