Ymunwch â’ch Canolfan Hamdden Freedom Leisure Lleol am £20 yn unig ym mis Mawrth

Barod i deimlo’n fwy ffit, yn gryfach a mwy egnïol? Am £20 yn unig, gallwch ddatgloi popeth sydd gan eich ganolfan hamdden leol i’w gynnig:

  • Mynediad i’n hystafelloedd ffitrwydd gwych
  • Degau o ddosbarthiadau ymarfer corff bob wythnos i siwtio pawb
  • Sesiynau nofio ymlaciol
  • Cefnogaeth gan ein timau croesawgar

Boed yn dechrau eich taith ffitrwydd neu’n gwthio i gyflawni canlyniadau personol newydd, mae rhywbeth i bawb.

Dim pwysau. Dim ymrwymiad hirdymor. Dim ond £20 i roi dechrau arni.

Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol, gweler isod am ragor o fanylion.

This promotion is currently not live

Mae ein canolfannau ar gyfer pawb

Pam ddewis Canolfan Freedom Leisure?

Yng Nghanolfannau Freedom Leisure, rydym yn credu mewn darparu profiad ffitrwydd holl gynhwysol sy’n darparu ar gyfer eich holl anghenion.  P’un a ydych yn newydd i ymarfer corff neu’n rhywun profiadol sy’n frwd dros ffitrwydd, mae gennym rywbeth ar gyfer pawb!

Telerau ac Amodau yn berthnasol

  • Rhaid talu’r swm llawn o £20 wrth ymuno. Ni ellir ad-dalu’r ffi ac ni ellir ei throsglwyddo.
  • I fod yn gymwys am y cynnig hwn, bydd angen i chi lofnodi debyd uniongyrchol i’w gasglu yn Ebrill 2026.
  • Ar ôl y cyfnod hyrwyddo cychwynnol o £20, bydd eich aelodaeth yn parhau'n awtomatig ar gyfradd aelodaeth fisol safonol y ganolfan ar gyfer eich categori dewisol o 1 Ebrill 2026.
  • Gall y cynnyrch a'r gwasanaethau a gynhwysir yn eich aelodaeth amrywio yn ôl canolfan ac nid yw'r holl gategorïau aelodaeth ar gael ym mhob lleoliad.
  • Mae pob aelodaeth yn atebol i’n telerau ac amodau aelodaeth safonol.
  • Mae'r cynnig hwn ar gael i aelodau newydd yn unig.
  • Efallai y bydd telerau, amodau ac eithriadau lleol ychwanegol yn berthnasol. Gofynnwch i aelod o'r tîm am fanylion.
  • Mae angen hysbysiad o 30 diwrnod fan lleiaf i ganslo.
  • Daw'r cynigion i ben ar 19/03/2026.

Talu llai am nofio

Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.

Talu llai am ymarfer corff

Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.

Talu llai i ymuno â dosbarthiadau

Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.

Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored

Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.

Pam dewis Freedom Leisure

Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!

Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni

Beth sy’n gynwysedig mewn aelodaeth Freedom Leisure?

Rydyn ni’n cynllunio ein haelodaeth o gwmpas y cymunedau a wasanaethwn felly gallwch ddisgwyl amrywiaeth eang o becynnau aelodaeth unigryw sy’n bwrpasol i bob canolfan. Dyma flas o’r hyn sy’n cael ei gynnig:

  • Aelodaeth Ddiderfyn – mynediad at nifer o ganolfannau Freedom Leisure yn eich ardal
  • Aelodaeth i’r Teulu – cadwch yn actif gyda’r teulu!
  • Aelodaeth Hŷn – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer pobl hŷn
  • Aelodaeth i Fyfyrwyr – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer myfyrwyr mewn addysg lawn amser
  • Aelodaeth Gorfforaethol – cyfraddau wedi’u disgowntio ar gyfer ein partneriaid corfforaethol, gan gynnwys pob gweithiwr allweddol a gweithwyr argyfwng

Sut i gael gostyngiad i aelodaeth gym

Mae hyn yn ddigon hawdd! Cwblhewch y ffurflen uchod neu gysylltu â’ch canolfan leol heddiw.. 

Mae pob cynnig yn amodol ar yr hyn sydd ar gael yn lleol.

Cwestiynau Cyffredin

Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?

Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!