Barod i symud? Am gyfnod cyfyngedig, ymunwch â'ch canolfan hamdden gymunedol leol am ddim ond £5 a mwynhewch fynediad llawn i’r canlynol:

  • Cyfleusterau campfa fodern
  • Mynediad i bwll nofio
  • Ystod eang o ddosbarthiadau ymarfer corff grŵp

Mae ein canolfannau ar gyfer pawb — pob oed, pob cefndir, pob lefel ffitrwydd. P'un a ydych chi'n dechrau, yn ailddechrau ymarfer corff, neu'n chwilio am ffordd hwyliog o aros yn egnïol, fe gewch chi le cefnogol a chroesawgar yma.

Dim pwysau. Dim barn. Dim ond lle gwych i deimlo'n dda a bod yn rhan o'ch cymuned.

Ymunwch heddiw am £5 yn unig a chymerwch y cam cyntaf tuag at fod yn iachach a hapusach.

1
2
3

I ddechrau, rhowch eich lleoliad

Mae ein canolfannau ar gyfer pawb

Pam ddewis Canolfan Freedom Leisure?

Yng Nghanolfannau Freedom Leisure, rydym yn credu mewn darparu profiad ffitrwydd holl gynhwysol sy’n darparu ar gyfer eich holl anghenion.  P’un a ydych yn newydd i ymarfer corff neu’n rhywun profiadol sy’n frwd dros ffitrwydd, mae gennym rywbeth ar gyfer pawb!

Telerau ac Amodau mewn grym

Telerau ac Amodau yn berthnasol

  • Mae'r hysbysebiad ‘YMUNWCH AM £5’ yn caniatáu ichi dalu dim ond £5.00 pan fyddwch chi'n ymuno ag aelodaeth ac yn sefydlu debyd uniongyrchol ar gyfer casglu'r ffi aelodaeth lawn ym mis Medi 2025.
  • Mae'r cynnig yn ddilys o ddydd Gwener 1 Awst 2025, ond gall y dyddiad dod i ben amrywio yn dibynnu ar y ganolfan hamdden a ddewiswch. Gwiriwch gyda'ch canolfan leol am ddyddiadau penodol.
  • Bydd y cynhyrchion a'r gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys gyda'ch aelodaeth yn amrywio yn ôl canolfan.
  • Mae pob aelodaeth yn ddarostyngedig i'n telerau ac amodau aelodaeth safonol.
  • Ni fydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu rhoi os byddwch chi'n canslo'ch 

Talu llai am nofio

Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.

Talu llai am ymarfer corff

Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.

Talu llai i ymuno â dosbarthiadau

Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.

Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored

Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.

Pam dewis Freedom Leisure

Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!

Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni

Beth sy’n gynwysedig mewn aelodaeth Freedom Leisure?

Rydyn ni’n cynllunio ein haelodaeth o gwmpas y cymunedau a wasanaethwn felly gallwch ddisgwyl amrywiaeth eang o becynnau aelodaeth unigryw sy’n bwrpasol i bob canolfan. Dyma flas o’r hyn sy’n cael ei gynnig:

  • Aelodaeth Ddiderfyn – mynediad at nifer o ganolfannau Freedom Leisure yn eich ardal
  • Aelodaeth i’r Teulu – cadwch yn actif gyda’r teulu!
  • Aelodaeth Hŷn – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer pobl hŷn
  • Aelodaeth i Fyfyrwyr – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer myfyrwyr mewn addysg lawn amser
  • Aelodaeth Gorfforaethol – cyfraddau wedi’u disgowntio ar gyfer ein partneriaid corfforaethol, gan gynnwys pob gweithiwr allweddol a gweithwyr argyfwng

Sut i gael gostyngiad i aelodaeth gym

Mae hyn yn ddigon hawdd! Cwblhewch y ffurflen uchod neu gysylltu â’ch canolfan leol heddiw.. 

Mae pob cynnig yn amodol ar yr hyn sydd ar gael yn lleol.

Cwestiynau Cyffredin

Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?

Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!