Gymunedau iach Abertawe

Croeso i Gymunedau iach Abertawe

Ar draws Abertawe, mae Freedom Leisure yn rheoli 7 Cyfleuster Hamdden gan gynnwys y Ganolfan Hamdden, Penlan, Penyrheol, Treforys, Bishopston, Cefn Hengoed ac Elba. Mae'r tîm hefyd yn gweithio ar draws cymunedau anodd eu cyrraedd gan gynnwys wardiau blaenoriaeth a grwpiau blaenoriaeth lleol; menywod a merched, heneiddio’n egnïol, plant a phobl ifanc, y rhai ag anableddau neu salwch hirdymor a'r rhai ar incwm isel.

Rydym yn ystyried ein canolfannau yn Abertawe fel 'canolfannau lles'

Rydym yn ystyried ein canolfannau yn Abertawe fel 'canolfannau lles'

Gall cymunedau lleol gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau iechyd i'w cefnogi i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd a'u lles eu hunain. Rydym yn darparu rhaglen Cymunedau Iach sy’n rhoi cyfle i bobl o bob oed a gallu symud mwy a bod yn egnïol!

Rydym wedi ymrwymo i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd

Rydym wedi ymrwymo i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd

Mae ein tîm o arbenigwyr Cymunedau Iach yn dylunio rhaglenni wedi’u teilwra sy’n bodloni anghenion y boblogaeth leol ar draws cwrs bywyd; gan ddileu rhwystrau i gymryd rhan ac ymgysylltu â phawb waeth beth fo'u cefndir, rhyw, oedran, ethnigrwydd, gallu neu statws economaidd-gymdeithasol.

Mae ein gwasanaethau yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn fforddiadwy

Mae ein gwasanaethau yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn fforddiadwy

Credwn mewn:

  • · Cefnogi pobl i fod yn gorfforol actif ym mha bynnag ffordd sy'n addas iddyn nhw
  • · Cefnogi unigolion i atal a rheoli cyflyrau iechyd
  • · Darparu cyfleoedd i gael profiadau cadarnhaol i gefnogi lles meddwl
  • · Atal arwahanrwydd cymdeithasol, gan alluogi cymunedau lleol i ddod at ei gilydd

Cwestiynau Cyffredin