Y math o wersi rydym yn eu cynnig

Beth fyddwch chi’n ei gael?

Sesiynau Strwythuredig

Mae ein hyfforddwyr cymwys yn dilyn Llwybr LTS Nofio Cymru.

Hyfforddwyr cyfeillgar a phrofiadol

Mae pob un o’n hyfforddwyr yn brofiadol ac wedi’u hyfforddi’n llawn i gyflwyno Llwybrau Dysgu Nofio, Nofio Cymru ac wedi cael gwiriadau DBS llawn.

Cadw llygad ar ddatblygiad eich plentyn

Mae gan Ganolfan Chwaraeon Tref-y-Clawdd ffordd lle gallwch gadw llygad ar sgiliau nofio eich plentyn.

Gwersi drwy gydol y flwyddyn

Mantais ein rhaglen 50 wythnos yw y bydd plant yn dysgu nofio ac yn symud drwy’r camau yn gyflymach a bydd gwersi wythnosol rheolaidd yn gwella cysondeb y dysgu.

Nofio am ddim

Mae nofio am ddim ar draws Powys wedi’i gynnwys fel rhan o'n hysgol nofio.

Mae ein cyfleusterau yn hygyrch i bawb

Mae ein cyfleusterau yn hygyrch i bawb

Rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod ein canolfan yn darparu’r cyfleusterau nofio gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod gan ein pyllau fynediad hygyrch, gan gynnwys ramp a hoist ble mae’n bosibl. Er mwyn sicrhau eich diogelwch, caiff ein pyllau eu gwarchod gan achubwyr bywyd cyfeillgar a chymwysedig iawn

Ein partneriaeth â Nofio Cymru

Ein partneriaeth â Nofio Cymru

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Nofio Cymru i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio o ansawdd uchel i bob oed a gallu.

Mae ein hyfforddwyr yn brofiadol ac yn gwbl hyfforddedig i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio, Nofio Cymru ac maen nhw wedi cael gwiriad ehangach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cyfleusterau Cysylltiedig Eraill Yn Ein Canolfan

Barod I Ymuno â'n Hysgol Nofio?

Barod I Ymuno â'n Hysgol Nofio?

Mae ein cydweithwyr gwych yn barod i gamu i mewn a'ch helpu i ddechrau ar eich gwersi nofio. I ddod yn aelod o gymuned Freedom Leisure Powys, holwch heddiw!