Y math o wersi rydym yn eu cynnig
Gwersi Nofio i Blant
Rydym yn darparu gwersi nofio i blant o 3 mis oed ar gyfer plant sydd am ddysgu’r sgil hwn sy’n achub bywydau.
Gwersi Nofio i Oedolion
Rydym yn cynnig gwersi nofio os ydych chi’n ddechreuwr neu am wella strôc ar gyfer y nofiwr mwy profiadol.
Gwersi Nofio Preifat
Neu os fyddai’n well gennych chi neu eich plentyn gael amgylchedd un i un mwy preifat yna gallwn ni helpu.
Beth fyddwch chi’n ei gael?
Sesiynau Strwythuredig
Mae ein hyfforddwyr cymwys yn dilyn Llwybr LTS Nofio Cymru.
Hyfforddwyr cyfeillgar a phrofiadol
Mae pob un o’n hyfforddwyr yn brofiadol ac wedi’u hyfforddi’n llawn i gyflwyno Llwybrau Dysgu Nofio, Nofio Cymru ac wedi cael gwiriadau DBS llawn.
Cadw llygad ar ddatblygiad eich plentyn
Mae gan Ganolfan Chwaraeon Tref-y-Clawdd ffordd lle gallwch gadw llygad ar sgiliau nofio eich plentyn.
Gwersi drwy gydol y flwyddyn
Mantais ein rhaglen 50 wythnos yw y bydd plant yn dysgu nofio ac yn symud drwy’r camau yn gyflymach a bydd gwersi wythnosol rheolaidd yn gwella cysondeb y dysgu.
Nofio am ddim
Mae nofio am ddim ar draws Powys wedi’i gynnwys fel rhan o'n hysgol nofio.
Mae ein cyfleusterau yn hygyrch i bawb
Rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod ein canolfan yn darparu’r cyfleusterau nofio gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod gan ein pyllau fynediad hygyrch, gan gynnwys ramp a hoist ble mae’n bosibl. Er mwyn sicrhau eich diogelwch, caiff ein pyllau eu gwarchod gan achubwyr bywyd cyfeillgar a chymwysedig iawn
Ein partneriaeth â Nofio Cymru
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Nofio Cymru i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio o ansawdd uchel i bob oed a gallu.
Mae ein hyfforddwyr yn brofiadol ac yn gwbl hyfforddedig i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio, Nofio Cymru ac maen nhw wedi cael gwiriad ehangach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cyfleusterau Cysylltiedig Eraill Yn Ein Canolfan
Loceri a Chawodydd
Mae gan Ganolfan ChwaraeonTref-y-Clawdd gawodydd unigol, mannau newid gwlyb a sych, a loceri – cofiwch i ddod â £1 ar gyfer eich locer!
Siop
Mae’r holl hanfodion sydd eu hangen arnoch gennym mewn stoc gan gynnwys, gwisgoedd, napis nofio, gogls a chymhorthion nofio.
Barod I Ymuno â'n Hysgol Nofio?
Mae ein cydweithwyr gwych yn barod i gamu i mewn a'ch helpu i ddechrau ar eich gwersi nofio. I ddod yn aelod o gymuned Freedom Leisure Powys, holwch heddiw!