Y mathau o wersi rydym yn eu cynnig
Ysgol Nofio Iau - Tonnau (4 oed a throsodd)
Mae ein gwersi nofio Tonnau yn datblygu sgiliau symud a dyfrol sylfaenol, gan gyflwyno plant i gysyniadau diogelwch dŵr a dysgu sgiliau angenrheidiol i nofio. Mewn sesiynau Tonnau mae'r plentyn yn y dŵr heb y rhiant ac maent yn gweithio trwy'r tonnau wrth iddynt symud ymlaen.
Ysgol Nofio i Oedolion
Yn y Ganolfan Hamdden rydym yn cynnig sesiynau hyder dŵr i oedolion sy’n cynnig sesiwn wedi’i strwythuro i oedolion sy’n dymuno gwella eu hyder yn y dŵr gydag arweiniad gan hyfforddwr.
Gwersi nofio preifat
Rydym yn cynnig gwersi un-i-un i oedolion a phlant o 3 oed ymlaen.
Gwersi nofio dwys
Gallwn ddarparu sesiynau mwy dwys yn bennaf yn ystod gwyliau ysgol er mwyn 'carlamu' cynnydd eich plentyn.
Beth sydd wedi'i gynnwys yn ein gwersi:
Nofio am ddim
Mae nofio am ddim ar draws Abertawe wedi'i gynnwys fel rhan o'n hysgol nofio
Sesiynau wedi’u strwythuro
Mae ein hyfforddwyr cymwys yn dilyn llwybr nofio Nofio Cymru
Gwersi drwy'r flwyddyn
Mantais ein rhaglen 50 wythnos yw y bydd plant yn dysgu nofio ac yn mynd trwy’r camau yn gynt o lawer a bydd gwersi wythnosol rheolaidd yn gwella cysondeb y dysgu.
Porth cartref
Bydd y porth Cartref yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich plentyn wedi cyflawni ei holl ddeilliannau ac yn barod i symud i fyny dosbarth. Bydd yn rhoi gwybod i chi…
20% oddi ar goffi Costa
Gall pawb sydd wedi cofrestru yn ein hysgol nofio (a’u rhieni) fwynhau 20% yn ein siopau coffi Costa yn ein canolfannau yn Abertawe
Pam dysgu nofio?
Mae'n Gymaint o Hwyl!
Y ffordd hawsaf i blentyn ddysgu sgil newydd yw trwy hwyl a gemau. Mae ein gwersi yn canolbwyntio’n fawr ar gael hwyl a mwynhau bod yn y dŵr.
Mae'n rhoi hyder yn y Dŵr
Mae teimlo'n ddiogel a hyderus yn y dŵr yn ychwanegu at y profiad ac yn galluogi plant i chwarae'n hyderus gyda'u ffrindiau a'u teulu.
Mae'n sgil bywyd
Mae'n rhywbeth y bydd eich plentyn yn ei gadw trwy gydol ei fywyd a gall achub bywydau.
Oeddech chi'n gwybod?
Bod mwy na hanner y plant rhwng saith ac un ar ddeg oed yn methu nofio o leiaf 25 metr heb gymorth, sy’n golygu bod ychydig dros filiwn o blant yn y DU o bosibl yn anniogel yn y dŵr ac o’i gwmpas ac felly mewn perygl o foddi!
Mewn Partneriaeth Gyda Nofio Cymru
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Nofio Lloegr a Nofio Cymru i gyflwyno Rhaglen Dysgu Nofio o safon uchel ar gyfer pob oed a gallu. Mae ein holl hyfforddwyr yn brofiadol ac wedi'u hyfforddi'n llawn i gyflwyno Rhaglen Dysgu Nofio Nofio Lloegr a Nofio Cymru ac maent wedi'u gwirio'n llawn gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Tracio cynnydd eich plentyn
Mae gennym y Porth Cartref sy’n eich galluogi i olrhain cynnydd gwersi nofio eich plentyn ar-lein.
Cyfleusterau cysylltiedig eraill sydd ar gael yn ein canolfan
Cyfleusterau newid
Mae gennym ni ddigonedd o ystafelloedd newid yn ein pentref newid sy’n mynd yn syth at ochr y pwll, mae’r loceri’n cymryd darn £1 neu ddarn troli
Falch o wasanaethu Caffi Costa
Ar ôl eich gwers nofio, beth am aros am ychydig a chael diod neu fyrbryd i chi'ch hun yn ein Caffi llawn stoc, rydych chi'n cael 20% oddi ar ddiodydd Costa fel rhan o'n hysgol nofio hefyd.
Siop
Rydym yn cadw'r holl hanfodion y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gwersi nofio gan gynnwys gogls a chymhorthion nofio eraill. Ewch i'n derbynfa i ddarganfod mwy.
Parcio
Parciwch y tu allan i'r ganolfan pan fyddwch chi yma gyda ni, mae gennym ni hefyd leoedd hygyrch i bobl anabl.
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud
We organise a wide variety of sporting programmes in partnership with local clubs and sponsor local talent..
Mary B.
sdfknsdflksdhfjl ksdfhlksdh fdsf.
Fred
fsdlkhgf lghdlf ghldfgh. dflkghdflk g.
Alex
We organise a wide variety of sporting programmes in partnership with local clubs and sponsor local talent..
Mary A.
Cwestiynau Cyffredin
Gallwch weld y gwersi o’n balconi ar ochr y pwll sy’n rhoi’r lle gorau i chi weld sut mae’r gwersi’n dod yn eu blaenau
Ydy, byddai eich hyfforddwr neu'ch porth Cartref yn eich cynghori ar yr adeg iawn yn eich taith nofio gyda ni pan fydd eich plentyn wedi cyflawni'r camau amrywiol yn natblygiad y bathodyn. Yna mae gennych yr opsiwn i brynu bathodyn a chael tystysgrif yn y dderbynfa.
Mae’r Ganolfan Hamdden yn dilyn Cynllun Dysgu Nofio Nofio Cymru. O fewn hwn rydym yn cynnig fframwaith Swigod ar gyfer plant 0-3 oed, fframwaith Sblash ar gyfer plant 3-5 oed a hefyd fframwaith Wave ar gyfer plant 4 oed +.
Mae ein gwersi Swigod a Sblash yn gofyn am oedolyn yn y dŵr i roi cefnogaeth i'r babi / plentyn bob wythnos.
Oherwydd eu bod yn wersi debyd uniongyrchol bydd saib gyda’r gwersi dim ond ar gyfer gwyliau’r Nadolig a byddant yn ailddechrau yn y Flwyddyn Newydd sy'n golygu y bydd gennych fynediad i wersi 50 wythnos y flwyddyn gan ddarparu dilyniant parhaus mewn gwersi.
Mae gennym borth cartref newydd sbon i rieni fewngofnodi a gweld cynnydd eu plentyn. Mae hyn yn wych ar gyfer rhoi gwybod i chi am feysydd y maent yn gwneud yn dda ynddynt a meysydd eraill y mae angen eu gwella y gallwch chi fel teulu eu hymarfer yn eich amser eich hun. Bydd y porth cartref yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich plentyn wedi cyflawni ei holl ddeilliannau ac yn barod i symud dosbarth. Cofiwch ymweld â'r dderbynfa a all weld cyfrif eich plentyn a gweld pa fathodynnau a thystysgrifau y mae wedi'u cyflawni.
Telir am ein holl dâl aelodaeth dysgu nofio trwy ddebyd uniongyrchol i'w gwneud yn haws i chi.
Mae pawb sydd wedi cofrestru yn ein hysgol nofio wedi cael nofio am ddim wedi’i gynnwys ar draws ein canolfannau yn Abertawe sy’n cynnig nofio mewn lonydd, nofio cyhoeddus, acwatots a sesiynau hwyl a fflôt yng nghanolfannau Treforys, Penlan a Phenyrheol. Byddwch hefyd yn cael nofio am ddim yng Nghanolfan Hamdden Abertawe yn ystod acwatots, sblash cyffredinol ac yn ystod y ddwy awr olaf o'r holl sesiynau nodwedd llawn.
Bydd gollwng a chasglu yn digwydd wrth ‘band control’ fel arfer, sef y ddesg sydd wedi'i lleoli wrth fynedfa'r parc dŵr. Bydd eich hyfforddwr nofio yn cwrdd â chi wrth y ‘band control’ ar gyfer casglu a gollwng eich plentyn.
Gofalwch fod eich plentyn yn defnyddio'r cyfleusterau cyn i'r gwersi ddechrau er mwyn osgoi hyn rhag digwydd! Os bydd brys, rydym yn gofyn i rieni/gwarcheidwaid fod wrth law yn yr oriel wylio i gefnogi eu plentyn gan nad yw hyfforddwyr yn gallu gwneud y dasg hon gyda phlant eraill i’w gwylio yn y wers. Gall plant 8 oed+ ddefnyddio toiledau heb oruchwyliaeth.
Ein nod yw darparu’r un hyfforddwr wythnos ar ôl wythnos i sicrhau eich bod chi a’ch plentyn yn cael cyfle i feithrin perthynas a gweld cynnydd. Weithiau mae’n rhaid i ni ddarparu hyfforddwyr eraill, ond gallwch fod yn hyderus eu bod i gyd yn unigolion cymwys sydd wedi’u hyfforddi’n llawn a fydd yn gweithio ar y blaenoriaethau dysgu sydd ar ôl o'r wythnos flaenorol.