Nofio i'r Teulu ar y Penwythnos

Nofio i'r Teulu ar y Penwythnos

Am £15.50 yn unig i deulu o 4 a £2.10 am blentyn ychwanegol, beth sydd yn eich stopio chi? Dewch i’r Byd Dŵr, Wrecsam i  dreulio amser da a chael hwyl gyda’r teulu y penwythnos hwn.  Ar agor 9-5 dydd Sadwrn a dydd Sul.

Gwersi Nofio

Gwersi Nofio

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wersi nofio i oedolion a phlant. Mae ein holl wersi yn ceisio datblygu nofwyr hyderus a chymwys drwy hwyl a mwynhad. Rydym yn anelu at y lefel uchaf o hyder yn y dŵr, ac o ran sgil a thechnegau nofio.

Nifer yr oedolion i bob plentyn

Nifer yr oedolion i bob plentyn

Mae’n bwysig ein bod yn eich cadw’n ddiogel yn ein pyllau.

Rhaid i blant sy’n iau nag 8 oed fod yng nghwmni oedolyn gyda 2 blentyn am bob 1 oedolyn. Mae hyn yn golygu y gall un oedolyn ddod â 2 blentyn iau nag 8 oed i nofio yn ein canolfan.

Gall plant sy’n 8 oed a hŷn ddod i’r dŵr heb unrhyw oruchwyliaeth oedolyn. Fodd bynnag rydym ni’n argymell os na all rywun nofio ei fod yn cael ei oruchwylio gan oedolyn ar bob adeg. 

Dillad Nofio

Dillad Nofio

Rydym yn croesawu cwsmeriaid sy’n gwisgo gwisgoedd nofio, ffrogiau nofio, bicinis, gwisgoedd tankinis, gwisgoedd burkinis, siwtiau cynnal gwyleidd-dra,Trowsusau nofio, siorts nofio. Yn ychwanegol at wisgoedd nofio, gall cwsmeriaid wisgo crysau-t gyda lycra ynddynt (llawes hir neu fyr), siorts neu legins 

Rhaid i fabanod a phlant bach nad ydynt eto’n defnyddio’r toiled wisgo clwt/cewyn nofio o dan ddillad nofio priodol megis clwt nofio neoprene, siwt nofio neu siwt nofio gwlyb (wetsuit).

Rydym yn gofyn i gwsmeriaid wisgo dillad sy’n gorchuddio eu corff yn ddigonol ac nad ydynt yn dryloyw pan fyddant yn wlyb.  Ceisiwch ymatal rhag gwisgo dillad isaf/ gwaelod bicini steil thong, Eitem denim, trwm a/neu ddillad llac, Dillad wedi’u gwneud o gotwm.

Argymhellir tynnu unrhyw emwaith cyn nofio.

Prisiau Gweithgareddau

Prisiau Gweithgareddau

Oedolyn
£6.95

Plentyn
£4.65

Hên/ myfyrwyr
£4.65

Teulu 2+2
£15.50

Dyddiadau Cau Gala Nofio 2024

Dyddiadau Cau Gala Nofio 2024

3 Mawrth

27 a 28 Ebrill

16 Gorffennaf

6 Hydref

Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni

Cwestiynau Cyffredin

Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?

Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!