Y mathau o wersi nofio sydd ar gael

Mae ein gwersi nofio’n hygyrch i bawb

Mae ein gwersi nofio’n hygyrch i bawb

Rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod ein canolfan yn darparu’r cyfleusterau nofio gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau fod gan ein pyllau fynediad hygyrch, gan gynnwys ramp a hoist ble mae’n bosibl. Er mwyn sicrhau eich diogelwch, caiff ein pyllau eu gwarchod gan achubwyr bywyd cyfeillgar a chymwysedig iawn.

Mewn Partneriaeth gyda Nofio Cymru

Mewn Partneriaeth gyda Nofio Cymru

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Nofio Cymru i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio o ansawdd uchel i bob oed a gallu.

Mae ein hyfforddwyr yn brofiadol ac yn gwbl hyfforddedig i ddarparu Rhaglen Dysgu Nofio, Nofio Cymru ac maen nhw wedi cael gwiriad ehangach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cofnodi cynnydd eich plentyn

Cofnodi cynnydd eich plentyn

Mae porth ar-lein gennym ble y gallwch gofnodi cynnydd gwersi nofio eich plentyn a gweld ble mae angen gwella i wneud cynnydd drwy’r tonnau!

Beth arall sydd ar gael yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr?

Pam dysgu nofio?

Pam dysgu nofio?

Mae’n lot o hwyl!

Y ffordd hawsaf i blant ddysgu sgil newydd yw trwy gael hwyl. Dylunnir ein gwersi nofio i fod yn gynhwysol, pleserus, diddorol a gwerth chweil.

Eich cadw’n ddiogel ar eich gwyliau

Ble bynnag yr ewch ar eich gwyliau, bydd gallu nofio’n arwain at gymaint o bosibiliadau ichi ac yn helpu creu atgofion gwych.

Yn cynnig hyder yn y dŵr

Mae teimlo’n ddiogel a hyderus mewn pwll nofio’n ychwanegu at y profiad, ac yn galluogi plant i chwarae’n hyderus gyda’u ffrindiau a’u teulu.

Mae’n un o sgiliau bywyd

Mae dysgu nofio’n rhoi’r sgiliau a’r cymhelliant sydd eu hangen i arwain ffordd o fyw iach ac egnïol trwy nofio neu weithgareddau dŵr.

Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni

Cwestiynau Cyffredin

Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?

Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!

Gwersi Nofio Wrecsam yn y Gymraeg

Gwersi Nofio Wrecsam yn y Gymraeg

Mae pob ffurflen ymholiad nofio ar ein gwefan yn gofyn am ddewis iaith.  Mae'r data hwn yn cael ei gasglu ac mae wedi’i ddangos yma.

Gwersi Nofio Cyfrwng Cymraeg. 2020 Ymgynghoriad.