Y tu ôl i’r hwyl, ceir sgil bywyd hanfodol sy’n newid bywydau ac yn achub bywydau. Does dim llawer o chwaraeon na sgiliau sy’n achub bywyd eich plentyn ond mae dysgu nofio yn sicr yn un ohonynt.

Y llynedd, bu farw 35 o blant ar ôl boddi’n ddamweiniol, mae hynny’n fwy o blant na sydd mewn dosbarth o blant

Wrth gymharu hyn â’r cyfartaledd 5 mlynedd, roedd yna gynnydd enfawr o 46% yn y nifer o farwolaethau damweiniol ymhlith plant.

Dros y 5 mlynedd diwethaf, digwyddodd 30% o achosion o foddi damweiniol yn y DU ar y traeth, wrth lan y môr neu ar yr arfordir.

Mae ein gwersi nofio i’r blynyddoedd cynnar (4+ oed), yn dysgu diogelwch yn y dŵr i’n myfyrwyr gan roi’r sgiliau iddynt fod yn fwy diogel o gwmpas dŵr ar bob adeg.  Byddan nhw wedi eu paratoi’n well ac yn fwy parod i ymateb os fydd damwain yn digwydd.

Gall 30 munud yr wythnos roi’r sgiliau sydd eu hangen ar eich plentyn i fod yn ddiogel a saff o gwmpas y dŵr. Cofrestrwch eich plentyn heddiw i’r Ysgol Nofio.

Cwblhewch y ffurflen gysylltu isod i gofrestru eich diddordeb.

This promotion is currently not live