Os oes modd, mae mynd allan i wneud ymarfer corff unwaith y dydd yn holl bwysig. Er, os na allwch wneud hyn neu os ydych yn edrych am ffyrdd eraill o gymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol, dyma rhai syniadau i chi.
Pan darganfyddom y byddai ein canolfannau'n cau, recordiodd rhai o'n timau nifer o fideos byr i gefnogi ein cwsmeriaid i gadw'n actif - Darllenwch isod i weld beth allwch chi ei wneud yn eich cartref:
Mae ein ffrindiau yn Technogym wedi rhoi mynediad i ni i 16 wythnos o raglenni ymarfer corff am ddim ar ap sy’n hawdd i’w ddefnyddio. Dewiswch o amrywiaeth o ymarferion pwysau corff, rhaglenni cardio neu heriau sydd wedi’u cynllunio i gadw chi’n heini. Mae’n bosib gwneud y sesiynau yn eich cartrefi heb unrhyw offer ac AM DDIM yn ystod aflonyddwch COVID-19.
Er mwyn cael y cynnwys hwn AM DDIM fydd angen:
Lawrlwythwch yr ap drwy ddefnyddio'r dolenni isod:
Google Play Store (Android) https://bit.ly/2QESgEZ
Apple App Store https://apple.co/2J8QdET
Os ydych chi wedi dilyn y camau a ddangosir uchod, fe welwch ‘Train At Home With Freedom’ ar hafan yr ap unwaith y byddwch wedi mewngofnodi.
Mae #CymruActif yn ymgyrch i gadw Cymru’n symud yn ystod argyfwng y Coronafeirws. Os ydych chi eisiau ymarfer ysgafn neu sesiwn dwys iawn, mae gan Chwaraeon Cymru cynllun ar eich cyfer chi.
O bob rhan o’r byd chwaraeon yng Nghymru, mae arbenigwyr, athletwyr ac ambell wyneb cyfarwydd wedi dod at ei gilydd i ddarparu fideos ymarfer, cynlluniau sesiynau, cymhelliant, ryseitiau maethlon a llawer, llawer mwy ar gyfer y genedl.
Ydych chi’n barod? Ar eich marc, byddwch yn barod, ewch ...