Beth sydd angen i chi ei wneud....
Rhannwch y dudalen hon gyda'ch ffrindiau a'ch teulu a phan fyddant yn ymuno byddwch yn cael eich mis nesaf AM DDIM! Ni fydd eich ffrind neu aelod o'ch teulu yn talu ffi ymuno chwaith!
Nid oes terfyn ar faint o ffrindiau a theulu y gallwch eu cyfeirio neu faint y gallwch ei gynilo!
Yn syml iawn - os ydych chi'n anfon y ddolen hon at 10 o bobl ac maen nhw i gyd yn ymuno, byddwch chi'n cael eich 10 mis nesaf AM DDIM!
Mae'n bryd rhannu'r dudalen hon! - https://www.freedom-leisure.co.uk/welsh/referral
Cofiwch, nid oes terfyn ar faint o ffrindiau y gallwch eu cyfeirio a byddwch chi'n derbyn mis AM DDIM ar gyfer pob un sy'n cofrestru!
- Byddwch yn cael un mis AM DDIM.
- Ni fydd eich ffrind yn talu ein Ffi Ymuno
- Bydd pawb yn ennill!!
Ydych chi wedi cael y ddolen hon gan ffrind neu aelod o'r teulu?
Helo oddi wrth Freedom Leisure - gallwch hawlio eich disgownt DIM FFI YMUNO trwy lenwi'r ffurflen isod! Ar ôl i ni dderbyn y ffurflen hon wedi'i chwblhau, byddwn yn cysylltu â chi i sgwrsio drwy'r opsiynau aelodaeth gorau i chi. Ar ôl i chi ymuno byddwn yn rhoi gwybod i'ch ffrind am y newyddion gwych!
Gyda'r cynigion gwych hyn gallwch chi:
Talu llai am nofio
Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.
Talu llai am ymarfer corff
Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.
Talu llai i ymuno â dosbarthiadau
Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.
Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored
Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.
Pam dewis Freedom Leisure
Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!
Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni
Am flynyddoedd, rwyf wedi cael anawsterau gyda’m pwysau, sydd wedi achosi problemau hyder. Pan gyrhaeddais 21 stôn, penderfynais mai digon oedd….
Calum R
Fe fyddwn yn argymhell unrhyw un o’r dosbarthiadau ym Myd Dŵr, mae llawer i ddewis ohonynt.
Fran K
Daliais y byg ffitrwydd yn gyflym a dechreuais fuddsoddi yn fy siwrnai ffitrwydd..
Lauren E
Mae'r ganolfan bob amser yn gyfeillgar iawn ac yn barod i helpu..
Sian T
Telerau ac Amodau
- Unwaith y bydd rhywun sydd wedi cael ei gyfeirio yn ymuno, bydd yr aelod sy'n cyfeirio yn derbyn debyd uniongyrchol o un mis AM DDIM. Bydd y mis am ddim hwn yn cael ei gyhoeddi unwaith y bydd y sawl sydd wedi cael ei gyfeirio yn cwblhau eu taliad debyd uniongyrchol cyntaf gyda ni.
- Bydd yr aelod newydd a gyfeiriwyd yn derbyn 'Dim Ffi Ymuno*' ar adeg ymuno (bydd y gostyngiad a gynigir yn amrywio rhwng canolfannau. Gwiriwch yn eich canolfan leol).
- Rhaid i'r person sy'n cyfeirio fod yn aelod debyd uniongyrchol neu flynyddol gyda ni.
- Bydd cynnyrch a gwasanaethau a gynigir a phris aelodaeth yn amrywio yn ôl canolfan. Gofynnwch i'ch canolfan leol am fwy o wybodaeth.
- Efallai y bydd cyfyngiadau ac amodau lleol eraill yn berthnasol. Gofynnwch i'ch canolfan leol am ragor o wybodaeth.
- Mewn canolfannau penodol yn unig.
Beth sy’n gynwysedig mewn aelodaeth Freedom Leisure?
Rydyn ni’n cynllunio ein haelodaeth o gwmpas y cymunedau a wasanaethwn felly gallwch ddisgwyl amrywiaeth eang o becynnau aelodaeth unigryw sy’n bwrpasol i bob canolfan. Dyma flas o’r hyn sy’n cael ei gynnig:
- Aelodaeth Ddiderfyn – mynediad at nifer o ganolfannau Freedom Leisure yn eich ardal
- Aelodaeth i’r Teulu – cadwch yn actif gyda’r teulu!
- Aelodaeth Hŷn – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer pobl hŷn
- Aelodaeth i Fyfyrwyr – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer myfyrwyr mewn addysg lawn amser
- Aelodaeth Gorfforaethol – cyfraddau wedi’u disgowntio ar gyfer ein partneriaid corfforaethol, gan gynnwys pob gweithiwr allweddol a gweithwyr argyfwng
Cwestiynau Cyffredin
Mae 100 safle gan Freedom Leisure ledled Cymru, Canolbarth a De Lloegr, felly dydych chi fyth yn bell i ffwrdd oddi wrth un o’n canolfannau. Ewch i dudalen dod o hyd i ganolfan ar ein gwefan, yna nodwch eich tref, dinas neu god post i weld yr holl ganolfannau lleol yn eich ardal.
Os wnaethoch golli allan ar gynigion gym y Flwyddyn Newydd, does dim angen digaloni! Gallwch barhau i fanteisio ar rai o’r pecynnau aelodaeth grêt sydd ar gael. Cysylltwch â’ch canolfan Freedom Leisure leol am fanylion a chofiwch edrych allan am bob disgownt a hyrwyddiad ar ein gwefan.
Mae llawer o ganolfannau Freedom Leisure yn cynnig pecynnau ffantastig Aelodaeth i Fyfyrwyr sy’n cynnwys cyfraddau wedi’u disgowntio ar amrywiaeth eang o gyfleusterau. Cysylltwch â’ch canolfan leol i ddarganfod rhagor.