Data personol rydym yn ei gasglu amdanoch chi
Wrth ddefnyddio'r term "data personol" yn ein Polisi Preifatrwydd, rydym yn golygu gwybodaeth sy'n ymwneud â chi ac sy’n ein galluogi i’ch adnabod, naill ai'n uniongyrchol neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall a allai fod gennym. Efallai y bydd eich data personol yn cynnwys, er enghraifft, eich enw, eich manylion cyswllt, gwybodaeth am y cynnyrch neu'r gwasanaeth rydych wedi’i brynu gennym (e.e. eich rhif aelodaeth) neu wybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein gwefan neu’n rhyngweithio â ni.
Rydym yn casglu rhywfaint o ddata personol gennych chi, er enghraifft pan fyddwch yn archebu lle mewn dosbarth neu gwrs â ni, yn defnyddio ein gwefan, yn defnyddio ein gwasanaethau neu’n cysylltu â ni. Efallai y byddwn hefyd yn derbyn eich data personol oddi wrth ein cyflenwyr sy'n darparu gwasanaethau i chi ar ein rhan (er enghraifft pan fyddwch yn rhoi adborth ar ein gwasanaethau, yn archebu tocynnau ar-lein neu'n defnyddio ein wi-fi am ddim). Os byddwch yn archebu unrhyw beth ar-lein ar ran rhywun arall, mae’n rhaid i chi gael caniatâd i ddefnyddio eu gwybodaeth bersonol.
I gael mwy o wybodaeth am y partïon sy’n gallu thannu eich data personol â ni, gweler adran 7 isod.
Categorïau o ddata a gasglwn
Eich enw a chyfenw a’ch manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a chyfeiriad post) |
Pan fyddwch yn prynu aelodaeth Pan fyddwch yn tanysgrifio i’n cylchlythyrau ar ein gwefan Pan fyddwch yn dewis defnyddio ein gwasanaethau wi-fi am ddim yn ein canolfannau sy'n berthnasol Pan fyddwch yn archebu/prynu ar-lein Pan fyddwch yn cymryd rhan mewn cystadlaethau, neu pan fyddwch yn dewis cynnig sydd ar gael ar ein gwefan |
Gwybodaeth am eich archebion gan gynnwys y dyddiad, amser ac (os yw'n berthnasol) enw'r eich dosbarth/cwrs |
Pan fyddwch yn archebu |
Gwybodaeth am eich iechyd, os oes gennych gyflwr meddygol y mae angen i ni wybod amdano er mwyn darparu eich cyfundrefn ffitrwydd (gweler adran "Data personol sensitif" isod i gael mwy o wybodaeth) |
Pan fyddwch yn rhoi’r wybodaeth hon i ni
|
Gwybodaeth am bobl eraill yn eich archeb, ac ystod oedran unrhyw blant sydd wedi’u cynnwys (e.e. gwersi nofio). |
Pan fyddwch yn archebu ar ran pobl eraill gan gynnwys plant
|
Gwybodaeth am eich trafodiad, gan gynnwys manylion eich cerdyn talu a/neu fanylion banc ar gyfer trafodion debyd uniongyrchol |
Pan fyddwch yn prynu cynnyrch neu wasanaethau gennym gan ddefnyddio cardiau talu neu ddebyd uniongyrchol
|
Y cyfathrebu byddwch yn ei gyfnewid â ni (er enghraifft, eich negeseuon e-bost, llythyrau, galwadau neu’ch negeseuon ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol) |
Pan fyddwch yn cysylltu â Freedom Leisure neu pan fydd Freedom Leisure yn cysylltu â chi
|
Eich negeseuon cyhoeddus a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol wedi’u cyfeirio at Freedom Leisure neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol unrhyw un o’n canolfannau |
Pan fyddwch yn rhyngweithio â ni ar gyfryngau cymdeithasol |
Eich adborth |
Pan fyddwch yn ymateb i'n ceisiadau am adborth neu’n cymryd rhan yn ein harolygon cwsmeriaid
|
Eich canolfannau o ddewis
|
Pan fyddwch yn dewis darparu'r wybodaeth hon wrth greu cyfrif ar ein gwefan |
Gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein gwefan, fel eich chwiliadau am ganolfannau, cipiau ar dudalennau ac ati.
|
Pryd fyddwch yn mynd ar ein gwefan |
Gwybodaeth sy'n ymwneud â’ch aelodaeth Freedom Leisure
|
Pan fyddwch yn cael, yn adnewyddu neu’n canslo eich aelodaeth Freedom Leisure
|
Data personol sensitif
Wrth ddarparu gwasanaethau i chi, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth a allai ddatgelu eich tarddiad hiliol neu ethnig, iechyd corfforol neu feddyliol, credoau crefyddol neu gyflawniad honedig neu euogfarn am dramgwyddau troseddol. Ystyrir gwybodaeth o'r fath yn "data personol sensitif" o dan Ddeddf Diogelu Data DU 1998 ac deddfau diogelu data eraill. Byddwn yn casglu’r wybodaeth hon pan fyddwch wedi rhoi eich caniatâd penodol yn unig, pan mae'n angenrheidiol, neu pan rydych wedi’i gwneud yn gyhoeddus yn fwriadol.
Er enghraifft, efallai y byddwn yn casglu'r wybodaeth hon dan yr amgylchiadau canlynol:
Er eich diogelwch, pan fydd gennych gyflwr meddygol penodol, bydd angen i chi roi gwybod i ni am hynny a – lle bo angen – darparu tystysgrif feddygol i ni.
Trwy ddarparu unrhyw ddata personol sensitif benodol rydych yn cytuno yn benodol y gallwn ei gasglu a’i ddefnyddio er mwyn darparu ein gwasanaethau ac yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn.