Barod i wneud 2026 yn flwyddyn iachaf i chi eto? Mae gennym ni DDAU gynnig anhygoel i'ch helpu i gyrraedd y nodau hynny:
✅ 3 Mis AM DDIM ar aelodaeth flynyddol
✅ Dim Ffi Ymuno ar aelodaeth misol
Peidiwch ag aros, ni fydd y bargeinion hyn yn para am byth! Rydym yn fwy na dim ond campfa, rydym yn gymuned.
Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol
Mae ein canolfannau ar gyfer pawb
Campfa
Cyfleusterau campfa fodern
Nofio
Mynediad i bwll nofio
Ymarfer corff grŵp
Ystod eang o ddosbarthiadau ymarfer corff grŵp
Cymuned
No pressure. No judgment. Just a great place to feel good and be part of your community.
Pam ddewis Canolfan Freedom Leisure?
Yng Nghanolfannau Freedom Leisure, rydym yn credu mewn darparu profiad ffitrwydd holl gynhwysol sy’n darparu ar gyfer eich holl anghenion. P’un a ydych yn newydd i ymarfer corff neu’n rhywun profiadol sy’n frwd dros ffitrwydd, mae gennym rywbeth ar gyfer pawb!
Telerau ac Amodau yn berthnasol
*Mae'r hyrwyddiad Arbed 12 Mis yn berthnasol i aelodaeth flynyddol. Rydych chi'n cael 12 mis am bris 9. Caiff y pris ei gyfrifo drwy luosi'r gyfradd fisol gyfredol â 9 ar gyfer eich math o aelodaeth ddewisol. Gall prisiau a disgowntiau amrywio yn dibynnu ar leoliad a math o aelodaeth.
**Ar gyfer aelodaeth fisol, mae “Dim Ffi Ymuno” yn golygu bod y ffi ymuno yn cael ei hepgor pan fyddwch chi'n cofrestru. Mae hyn yn berthnasol wrth ymuno ar-lein neu yn y ganolfan. Gall swm y ffi ymuno amrywio yn dibynnu ar leoliad.
- Wrth ymuno ag aelodaeth fisol, byddwch chi'n talu'r dyddiau sy'n weddill o'r mis cyfredol ymlaen llaw ar sail pro-rata. Yna byddwch chi'n sefydlu debyd uniongyrchol yn dechrau ym mis Chwefror 2026. Os byddwch chi'n ymuno tua diwedd y mis (ar ôl 19 Ionawr '26), byddwch chi'n talu gweddill mis Ionawr a mis Chwefror ymlaen llaw a bydd eich debyd uniongyrchol yn dechrau ym mis Mawrth 2026.
- Gall y cynhyrchion a'r gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yn eich aelodaeth amrywio yn ôl canolfan ac nid yw pob math o aelodaeth ar gael ym mhob lleoliad.
- Mae pob aelodaeth yn ddarostyngedig i'n telerau ac amodau aelodaeth safonol.
- Mae'r cynnig hwn ar gael i aelodau newydd yn unig.
- Gall telerau, amodau ac eithriadau lleol ychwanegol fod yn berthnasol. Gofynnwch i aelod o'r tîm am fanylion.
- Mae angen o leiaf 30 diwrnod o rybudd i ganslo.
- Daw'r cynigion i ben ar 31/01/2026.
Talu llai am nofio
Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.
Talu llai am ymarfer corff
Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.
Talu llai i ymuno â dosbarthiadau
Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.
Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored
Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.
Pam dewis Freedom Leisure
Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!
Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni
Diolch am wella fy hyder, fy ffitrwydd a fy iechyd a’m lles..
Anna J
...gallaf deimlo budd fy ymarfer corff i lefel fy ffitrwydd ac rwy’n teimlo’n well nawr nag yr oeddwn i yn fy nhridegau!.
Emma H
Ymunais yn ddiweddar â Chanolfan Hamdden Y Waun i wella fy ffitrwydd ac i helpu gyda cholli pwysau. Mae Sarah wedi sefydlu rhaglen i mi ac rwyf….
Annette Turner
Have fun.
Alex O
Beth sy’n gynwysedig mewn aelodaeth Freedom Leisure?
Rydyn ni’n cynllunio ein haelodaeth o gwmpas y cymunedau a wasanaethwn felly gallwch ddisgwyl amrywiaeth eang o becynnau aelodaeth unigryw sy’n bwrpasol i bob canolfan. Dyma flas o’r hyn sy’n cael ei gynnig:
- Aelodaeth Ddiderfyn – mynediad at nifer o ganolfannau Freedom Leisure yn eich ardal
- Aelodaeth i’r Teulu – cadwch yn actif gyda’r teulu!
- Aelodaeth Hŷn – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer pobl hŷn
- Aelodaeth i Fyfyrwyr – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer myfyrwyr mewn addysg lawn amser
- Aelodaeth Gorfforaethol – cyfraddau wedi’u disgowntio ar gyfer ein partneriaid corfforaethol, gan gynnwys pob gweithiwr allweddol a gweithwyr argyfwng
Sut i gael gostyngiad i aelodaeth gym
Mae hyn yn ddigon hawdd! Cwblhewch y ffurflen uchod neu gysylltu â’ch canolfan leol heddiw..
Mae pob cynnig yn amodol ar yr hyn sydd ar gael yn lleol.
Cwestiynau Cyffredin
Mae 100 safle gan Freedom Leisure ledled Cymru, Canolbarth a De Lloegr, felly dydych chi fyth yn bell i ffwrdd oddi wrth un o’n canolfannau. Ewch i dudalen dod o hyd i ganolfan ar ein gwefan, yna nodwch eich tref, dinas neu god post i weld yr holl ganolfannau lleol yn eich ardal.
Os wnaethoch golli allan ar gynigion gym y Flwyddyn Newydd, does dim angen digaloni! Gallwch barhau i fanteisio ar rai o’r pecynnau aelodaeth grêt sydd ar gael. Cysylltwch â’ch canolfan Freedom Leisure leol am fanylion a chofiwch edrych allan am bob disgownt a hyrwyddiad ar ein gwefan.
Mae llawer o ganolfannau Freedom Leisure yn cynnig pecynnau ffantastig Aelodaeth i Fyfyrwyr sy’n cynnwys cyfraddau wedi’u disgowntio ar amrywiaeth eang o gyfleusterau. Cysylltwch â’ch canolfan leol i ddarganfod rhagor.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!