A fyddwch chi'n mwynhau mis Rhagfyr AM DDIM?*

Rhowch ddechrau arni a thalu dim tan Ionawr wrth ymuno â'n cymuned iach! Cofrestrwch ar neu cyn 15 Rhagfyr i'w hawlio. Y cynharaf y byddwch yn ymuno, y mwyaf y byddwch yn arbed!  

Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol

This promotion is currently not live

Mae ein canolfannau ar gyfer pawb

Pam ddewis Canolfan Freedom Leisure?

Yng Nghanolfannau Freedom Leisure, rydym yn credu mewn darparu profiad ffitrwydd holl gynhwysol sy’n darparu ar gyfer eich holl anghenion.  P’un a ydych yn newydd i ymarfer corff neu’n rhywun profiadol sy’n frwd dros ffitrwydd, mae gennym rywbeth ar gyfer pawb!

Telerau ac Amodau yn berthnasol

*Mae'r hyrwyddiad ar gyfer aelodaethau debyd uniongyrchol misol yn unig. I fod yn gymwys bydd angen i chi ymuno ar-lein neu lofnodi mandad debyd uniongyrchol ar gyfer eich taliad Ionawr 2026 am y pris llawn.

  • Mae'r cynnig yn ddilys i aelodau newydd sy'n ymuno o 8 Rhagfyr 2025 i 15 Rhagfyr 2025. Gwiriwch gyda'ch canolfan leol am ragor o wybodaeth.
  • Bydd prisiau a disgowntiau'n amrywio oherwydd amrywiadau prisiau rhanbarthol.
  • Bydd y cynhyrchion a'r gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys gyda'ch aelodaeth yn amrywio yn ôl canolfan ac ni fydd pob categori aelodaeth wedi'i gynnwys yn yr hyrwyddiad hwn. Gwiriwch gyda'ch canolfan leol am ragor o wybodaeth cyn ymuno.
  • Mae pob aelodaeth yn ddarostyngedig i'n telerau ac amodau aelodaeth safonol.
  • Ni fydd unrhyw ad-daliadau (os yn berthnasol) yn cael eu rhoi os byddwch yn canslo'ch aelodaeth cyn y casgliad debyd uniongyrchol ym mis Ionawr 2026.
  • Mae'r cynnig hwn ar gael i aelodau newydd yn unig.
  • Gall telerau ac amodau ac eithriadau lleol eraill fod yn berthnasol, cysylltwch â'ch canolfan leol i gael rhagor o wybodaeth cyn ymuno.
  • Daw'r cynnig i ben 15 Rhagfyr 2025.

Talu llai am nofio

Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.

Talu llai am ymarfer corff

Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.

Talu llai i ymuno â dosbarthiadau

Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.

Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored

Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.

Pam dewis Freedom Leisure

Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!

Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni

Beth sy’n gynwysedig mewn aelodaeth Freedom Leisure?

Rydyn ni’n cynllunio ein haelodaeth o gwmpas y cymunedau a wasanaethwn felly gallwch ddisgwyl amrywiaeth eang o becynnau aelodaeth unigryw sy’n bwrpasol i bob canolfan. Dyma flas o’r hyn sy’n cael ei gynnig:

  • Aelodaeth Ddiderfyn – mynediad at nifer o ganolfannau Freedom Leisure yn eich ardal
  • Aelodaeth i’r Teulu – cadwch yn actif gyda’r teulu!
  • Aelodaeth Hŷn – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer pobl hŷn
  • Aelodaeth i Fyfyrwyr – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer myfyrwyr mewn addysg lawn amser
  • Aelodaeth Gorfforaethol – cyfraddau wedi’u disgowntio ar gyfer ein partneriaid corfforaethol, gan gynnwys pob gweithiwr allweddol a gweithwyr argyfwng

Sut i gael gostyngiad i aelodaeth gym

Mae hyn yn ddigon hawdd! Cwblhewch y ffurflen uchod neu gysylltu â’ch canolfan leol heddiw.. 

Mae pob cynnig yn amodol ar yr hyn sydd ar gael yn lleol.

Cwestiynau Cyffredin

Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?

Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!