Ymunwch â Freedom Leisure ym mis Ionawr GYDA DIM FFI YMUNO ar daliadau debyd uniongyrchol* – dim ymrwymiad - neu mwynhewch ARBEDION MAWR ar aelodaeth arbennig 12 MIS**
Boed yn adeiladu cyhyrau, colli pwysau, neu wella eich lles meddyliol, mae ein cyfleusterau a’n staff cyfeillgar yma i’ch cefnogi. Nid yn unig i drawsnewid eich corff yw gweithgaredd corfforol - mae'n adnewyddu'ch meddwl. Rydych chi dim ond un sesiwn ymarfer corff i ffwrdd o well cwsg, llai o straen, ac i ddod yn unigolyn cryfach.
Cymerwch y cynnig heddiw a chymerwch y cam cyntaf tuag at eich hunan orau yn 2025.
Pam ddewis Canolfan Freedom Leisure?
Yng Nghanolfannau Freedom Leisure, rydym yn credu mewn darparu profiad ffitrwydd holl gynhwysol sy’n darparu ar gyfer eich holl anghenion. P’un a ydych yn newydd i ymarfer corff neu’n rhywun profiadol sy’n frwd dros ffitrwydd, mae gennym rywbeth ar gyfer pawb!
Telerau ac Amodau mewn grym
*DIM FFI YMUNO – cynnig ar gyfer aelodaeth ddebyd uniongyrchol misol. Bydd taliad cychwynnol yn berthnasol. Bydd prisiau a gostyngiadau yn amrywio oherwydd amrywiadau prisiau rhanbarthol a chategorïau aelodaeth gwahanol. I fod yn gymwys, bydd angen i chi lofnodi mandad debyd uniongyrchol ar gyfer eich taliad mis cyntaf am bris llawn.
**Mae aelodaeth arbennig 12 MIS yn ddilys ar gyfer aelodaeth flynyddol (12 mis am bris o 9 - wedi'i gyfrifo trwy luosi'r gyfradd fisol gyffredinol â 9 mis ar gyfer y categori aelodaeth o'ch dewis). Bydd prisiau a gostyngiadau yn amrywio oherwydd amrywiadau prisiau rhanbarthol a chategorïau aelodaeth gwahanol.
Cynnig ar gael i aelodau newydd yn unig
Bydd y nwyddau a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig fel rhan o’ch aelodaeth yn amrywio o ganolfan i ganolfan
Gallai telerau ac amodau eraill fod yn gymwys, gofynnwch i aelod o’r tîm
Daw’r cynigion i ben: 02/02/2025
Talu llai am nofio
Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.
Talu llai am ymarfer corff
Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.
Talu llai i ymuno â dosbarthiadau
Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.
Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored
Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.
Pam dewis Freedom Leisure
Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!
Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni
Daliais y byg ffitrwydd yn gyflym a dechreuais fuddsoddi yn fy siwrnai ffitrwydd..
Lauren E
We organise a wide variety of sporting programmes in partnership with local clubs and sponsor local talent..
Mary A.
Gwasanaeth gwych gyda thâl a chwarae ar gael i bawb.
Sandra D
Mae’r holl staff yno mor barod i helpu ac yn gyfeillgar, maen nhw’n gwneud i mi deimlo croeso bob tro..
Wendy J
Beth sy’n gynwysedig mewn aelodaeth Freedom Leisure?
Rydyn ni’n cynllunio ein haelodaeth o gwmpas y cymunedau a wasanaethwn felly gallwch ddisgwyl amrywiaeth eang o becynnau aelodaeth unigryw sy’n bwrpasol i bob canolfan. Dyma flas o’r hyn sy’n cael ei gynnig:
- Aelodaeth Ddiderfyn – mynediad at nifer o ganolfannau Freedom Leisure yn eich ardal
- Aelodaeth i’r Teulu – cadwch yn actif gyda’r teulu!
- Aelodaeth Hŷn – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer pobl hŷn
- Aelodaeth i Fyfyrwyr – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer myfyrwyr mewn addysg lawn amser
- Aelodaeth Gorfforaethol – cyfraddau wedi’u disgowntio ar gyfer ein partneriaid corfforaethol, gan gynnwys pob gweithiwr allweddol a gweithwyr argyfwng
Sut i gael gostyngiad i aelodaeth gym
Mae hyn yn ddigon hawdd! Cwblhewch y ffurflen uchod neu gysylltu â’ch canolfan leol heddiw..
Mae pob cynnig yn amodol ar yr hyn sydd ar gael yn lleol.
- Cynigion ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig, gwiriwch gyda’ch canolfan leol
- Mae’r gweithgareddau’n amrywio ac yn amodol ar argaeledd
- 16+ oed
- Gall prisiau amrywio
- Mae’n bosibl y bydd telerau ac amodau eraill yn berthnasol
Cwestiynau Cyffredin
Mae 100 safle gan Freedom Leisure ledled Cymru, Canolbarth a De Lloegr, felly dydych chi fyth yn bell i ffwrdd oddi wrth un o’n canolfannau. Ewch i dudalen dod o hyd i ganolfan ar ein gwefan, yna nodwch eich tref, dinas neu god post i weld yr holl ganolfannau lleol yn eich ardal.
Os wnaethoch golli allan ar gynigion gym y Flwyddyn Newydd, does dim angen digaloni! Gallwch barhau i fanteisio ar rai o’r pecynnau aelodaeth grêt sydd ar gael. Cysylltwch â’ch canolfan Freedom Leisure leol am fanylion a chofiwch edrych allan am bob disgownt a hyrwyddiad ar ein gwefan.
Mae llawer o ganolfannau Freedom Leisure yn cynnig pecynnau ffantastig Aelodaeth i Fyfyrwyr sy’n cynnwys cyfraddau wedi’u disgowntio ar amrywiaeth eang o gyfleusterau. Cysylltwch â’ch canolfan leol i ddarganfod rhagor.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!