Cynigion aelodaeth gym
Ymunwch â’n cymuned iach y mis Chwefror hwn a dechreuwch arni gyda’n cynigion 3 Mis Am Ddim** neu gweddill y mis am ddim!*
Wrth fanteisio ar gynigion gwych aelodaeth mis Chwefror, byddwch yn mwynhau cael mynediad i amrywiaeth eang o gyfleusterau a dosbarthiadau ffitrwydd ffantastig
BRYSIWCH, BYDD Y CYNIGION HYN AR GAEL AM GYFNOD CYFYNGEDIG YN UNIG!
*Ar gyfer cwsmeriaid sy’n talu’n fisol/ debyd uniongyrchol (Daw’r cynnig i ben: 28/02/2023)
**Aelodaeth flynyddol a delir ar unwaith (Daw’r cynnig i ben: 28/02//2023)
Gyda’r cynigion ffantastig hyn gallwch:
Talu llai am nofio
Os yw’n well gennych nofio na chodi pwysau, bydd ein cynigion aelodaeth yn rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o byllau nofio Freedom Leisure i berffeithio eich arddull nofio, cymryd rhan mewn aerobeg dŵr neu ymlacio ar ôl gwaith yn y pwll.
Talu llai am ymarfer corff
Mae pob gym Freedom Leisure yn ddelfrydol ar gyfer gweithio ar eich amcanion ffitrwydd, hyfforddi a magu cryfder yn y cyhyrau mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Mae ein tîm proffesiynol cymwys o safon uchel yr un mor angerddol ag ydych chi, a byddant yn sicrhau eich bod chi’n cael y canlyniadau gorau gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf.
Talu llai i ymuno â dosbarthiadau
Mae llawer o’n canolfannau’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau i’ch helpu i gadw’n ffit a gofalu ar ôl eich llesiant corfforol a meddyliol mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol. O’r holistig i HIIT, a phopeth rhyngddynt, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’r dosbarth cywir ar eich cyfer chi.
Talu llai am chwaraeon dan do ac yn yr awyr agored
Mae ein cyrtiau, neuaddau chwaraeon a meysydd chwarae o ansawdd uchel ar gael ar gyfraddau ffantastig ar ddisgownt i’r sawl sy’n chwilio am rywle i chwarae sboncen gyda ffrind ar ôl gwaith neu gicio pêl gyda ffrindiau fore Sadwrn.
Pam dewis Freedom Leisure
Wrth fanteisio ar gynigion grêt yn y gym y mis hwn, byddwch yn mwynhau mynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ffitrwydd yn eich ardal. O gyrtiau tenis dan lifoleuadau, i gym o’r radd flaenaf a llawer o gyfleusterau eraill, mae gan ein canolfannau rywbeth i bawb. Cwblhewch y manylion ar y ffurflen uchod neu cysylltwch â’ch canolfan leol am ragor o wybodaeth!
Yr hyn y mae ein cwsmeriaid presennol yn ei ddweud amdanom ni
Mae’r holl staff yno mor barod i helpu ac yn gyfeillgar, maen nhw’n gwneud i mi deimlo croeso bob tro..
Wendy J
Mae'n wych i'r plantos ac mae fy rhai bach wrth eu bodd. Diolch am ddarparu lleoliad hyfryd gyda chymaint o hwyl..
Simon F
We organise a wide variety of sporting programmes in partnership with local clubs and sponsor local talent..
Mary A.
fsdlkhgf lghdlf ghldfgh. dflkghdflk g.
Alex
Beth sy’n gynwysedig mewn aelodaeth Freedom Leisure?
Rydyn ni’n cynllunio ein haelodaeth o gwmpas y cymunedau a wasanaethwn felly gallwch ddisgwyl amrywiaeth eang o becynnau aelodaeth unigryw sy’n bwrpasol i bob canolfan. Dyma flas o’r hyn sy’n cael ei gynnig:
- Aelodaeth Ddiderfyn – mynediad at nifer o ganolfannau Freedom Leisure yn eich ardal
- Aelodaeth i’r Teulu – cadwch yn actif gyda’r teulu!
- Aelodaeth Hŷn – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer pobl hŷn
- Aelodaeth i Fyfyrwyr – cyfraddau wedi eu disgowntio ar gyfer myfyrwyr mewn addysg lawn amser
- Aelodaeth Gorfforaethol – cyfraddau wedi’u disgowntio ar gyfer ein partneriaid corfforaethol, gan gynnwys pob gweithiwr allweddol a gweithwyr argyfwng
Sut i gael gostyngiad i aelodaeth gym
Mae hyn yn ddigon hawdd! Cwblhewch y ffurflen uchod neu gysylltu â’ch canolfan leol heddiw a dechrau ar eich taith ffitrwydd yn 2023.
Mae pob cynnig yn amodol ar yr hyn sydd ar gael yn lleol.
- Cynigion ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig, gwiriwch gyda’ch canolfan leol
- Mae’r gweithgareddau’n amrywio ac yn amodol ar argaeledd
- 16+ oed
- Gall prisiau amrywio
- Mae’n bosibl y bydd telerau ac amodau eraill yn berthnasol
Cwestiynau Cyffredin
Mae 100 safle gan Freedom Leisure ledled Cymru, Canolbarth a De Lloegr, felly dydych chi fyth yn bell i ffwrdd oddi wrth un o’n canolfannau. Ewch i dudalen dod o hyd i ganolfan ar ein gwefan, yna nodwch eich tref, dinas neu god post i weld yr holl ganolfannau lleol yn eich ardal.
Os wnaethoch golli allan ar gynigion gym y Flwyddyn Newydd, does dim angen digaloni! Gallwch barhau i fanteisio ar rai o’r pecynnau aelodaeth grêt sydd ar gael. Cysylltwch â’ch canolfan Freedom Leisure leol am fanylion a chofiwch edrych allan am bob disgownt a hyrwyddiad ar ein gwefan.
Mae llawer o ganolfannau Freedom Leisure yn cynnig pecynnau ffantastig Aelodaeth i Fyfyrwyr sy’n cynnwys cyfraddau wedi’u disgowntio ar amrywiaeth eang o gyfleusterau. Cysylltwch â’ch canolfan leol i ddarganfod rhagor.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!