Ein Cwrt Sboncen
O ran sboncen mae gennym y pecyn cyfan! Mae’r cyrtiau’n darparu profiad sboncen o’r radd flaenaf i aelodau a defnyddwyr achlysurol a gall holl ddefnyddwyr cwrt sboncen wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau megis ystafelloedd newid, loceri a chawodydd.
Manteision Sboncen
Mae sboncen yn helpu i wella iechyd cardiofasgwlaidd ac mewn gêm o sboncen byddwch yn rhedeg, yn neidio ac yn deifio am y bêl. Mae sboncen cynyddu cryfder a ffitrwydd ac yn helpu i gynnal pwysau iach. Mae hefyd yn cynyddu hyblygrwydd a chryfder y cefn ac yn hyrwyddo cyd-symud da, ystwythder, hyblygrwydd ac yn gwella cyd-symud llaw-llygad.
Sut I Archebu Cwrt
Rydyn ni’n ymfalchïo mewn cynnig cyfleusterau sboncen fforddiadwy sy’n hygyrch i bawb. Ni yw un o’r ychydig glybiau ble y gallwch archebu cwrt a ‘thalu a chwarae’ heb aelodaeth fisol. Mae ffioedd llogi cwrt yn ddibynnol ar y gweithgaredd, hyd yr amser, ac oedran y cwsmer.
Pam Chwarae Sboncen yng Nghanolfan Chwaraeon Tref-y-Clawdd?
Chwarae drwy’r Flwyddyn
Mae cyritau sboncen dan do yn rhoi’r cyfle i chi chwarae beth bynnag fo'r tywydd. Yn ystod misoedd y gaeaf, mae lleoliad dan do ein cyrtiau yn rhoi mynediad rownd y flwyddyn i chwaraewyr.
Cynnwys Llogi Cyrtiau yn eich Aelodau
Mae ein Haelodaeth Lawn yn cynnig gwerth gorau o ran hawliau llogi unigryw a mynediad i’n cyrtiau drwy gydol y flwyddyn.
Chwarae’n Achlysurol
Rydym yn un o’r ychydig ganolfannau yn yr ardal sy’n caniatau chwarae achlysurol. Byddwch yn talu ffi fesul y person i logi cwrt a’r unig beth ar ôl i’w wneud yw chwarae!