Fel llawer o fusnesau a sefydliadau yn y DU yn ystod pandemig Covid 19 a gorfodwyd i gau yn ystod y cyfnodau clo, mae'r sector hamdden yn wynebu argyfwng arall.
Byddwch wedi gweld yn y cyfryngau y costau ynni cynyddol y mae’n rhaid i aelwydydd a busnesau eu hwynebu.
Mae Freedom Leisure, fel gweithredwyr cyfleusterau hamdden ar ran ein partneriaid, yn gyfrifol am filiau ynni ar gyfer dros 100 o ganolfannau hamdden yn y DU gan gynnwys gwresogi a chynnal a chadw dros 60 o byllau nofio.
Yn yr un modd ag y mae eich biliau yn y cartref yn cynyddu, mae busnesau fel ein un ni yn wynebu cynnydd andwyol mewn costau ynni oherwydd bod costau ynni cyfanwerthu yn codi. Fodd bynnag, yn wahanol i gyflenwad domestig nid oes gennym y cap ar brisiau ynni sy’n rhoi rhywfaint o amddiffyniad. I ni mae'r cynnydd yma’n golygu miliynau o bunnoedd.
Ni all Freedom Leisure, fel ymddiriedolaeth hamdden ddielw, sy'n gweithio ar ran ein partneriaid awdurdodau lleol, amsugno'r cynnydd hwn. Rydym mewn deialog agored gyda'n partneriaid awdurdodau lleol a llywodraeth ganolog i liniaru effaith y costau cynyddol hyn fel y gallwn barhau i ddarparu lefel y gwasanaeth ry’ch chi'n ei ddisgwyl a pharhau i gefnogi iechyd a lles y cymunedau lleol rydym yn eu gwasanaethu.
Wedi dweud hynny, rydym yn gorfod gwneud newidiadau bach na ddylai effeithio ar y gwasanaeth ry’n ni’n ei ddarparu a bydd y rhain hefyd yn rhoi hwb i'n hymrwymiadau Sero Net. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys lleihau'r defnydd o aerdymheru mewn rhai ardaloedd, diffodd offer nad yw'n cael ei ddefnyddio a lleihau tymheredd gwresogi mewn adeiladau.
Felly, ry’n ni angen eich help a'ch cefnogaeth pan fyddwch yn ymweld â'ch canolfan hamdden gymunedol leol oherwyd mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i leihau'r defnydd o ynni a diogelu ein planed. Byddem yn annog cwsmeriaid i ystyried y camau canlynol;
- Lleihau'r amser ry’ch chi'n ei dreulio yn y cawodydd
- Diffodd goleuadau os mai chi yw'r olaf allan o ystafell e.e. stiwdio
- Rhoi gwybod i'n cydweithwyr pan fyddwch wedi gorffen defnyddio offer
Ry’n ni i gyd yn hyn gyda’n gilydd felly gyda'ch help a'ch cefnogaeth byddwn yn amddiffyn dyfodol hirdymor eich canolfan hamdden leol ac yn cael effaith barhaol ar iechyd a lles eich cymuned.