Mae'r rhaglenni sy'n cael eu rhedeg gennym yn cynnwys: ymarfer corff drwy atgyfeirio, rhaglenni rheoli pwysau, atal cwympiadau, adferiad cardiaidd a llawer mwy.
Os oes gennych ddiddordeb i gael eich cyfeirio at eich rhaglen Atgyfeirio Iechyd lleol, cysylltwch â Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff neu eich meddyg teulu lleol i gael gwybod mwy.
Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom ni
...gallaf deimlo budd fy ymarfer corff i lefel fy ffitrwydd ac rwy’n teimlo’n well nawr nag yr oeddwn i yn fy nhridegau!.
Emma H
Mae’r holl staff yno mor barod i helpu ac yn gyfeillgar, maen nhw’n gwneud i mi deimlo croeso bob tro..
Wendy J
Diolch am wella fy hyder, fy ffitrwydd a fy iechyd a’m lles..
Anna J
Ers ymuno â Queensway rydw i wastad wedi cael fy ngwneud i deimlo fel rhan o deulu..
Ben C
Cwestiynau Cyffredin
Na, mae gennym nifer o gynlluniau aelodaeth gwych, ond gallwch hefyd dalu wrth ddefnyddio.
Mae’r gampfa fodern ar agor rhwng 9.00-21.30 dydd Llun a dydd Iau, 9.00-21.00 dydd Gwener a rhwng 10:00-16:00 ar benwythnosau.
Oes, mae digon o le i barcio.
I archebu lle ar gyfer chwaraeon raced a’n trac athletau ffoniwch ni ar 01978 355826
Dim eto, ond fe ddaw cyn bo hir! Gwyliwch y lle hwn.
Nid yma ond rydym yn cynnig gwersi nofio yng Nghanolfan Byd Dŵr, Gwyn Evans a’r Waun.
Mae’r cynllun aelodaeth iau yn dechrau o 11 oed. Mae pawb yn gallu defnyddio’r pwll ond rhaid cadw at y nifer gywir o oedolion a phlant.
Heb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch?
Os ydych angen help gydag unrhyw beth, ewch i’n canolfan gymorth neu cysylltwch â ni!